Croeso!

Croeso i wefan Cyngor Ysgolion Sul a Cyhoeddiadau’r Gair. Yma cewch wybodaeth am y gwerslyfrau sydd ar gael i Ysgolion Sul Cymru, gan gynnwys Cyfres Stori Duw, ein deunydd newydd ar gyfer 2012-2014.

Mae gan Cyhoeddiadau’r Gair erbyn hyn dros 700 o lyfrau Cymraeg Cristnogol mewn print, ac mae’r rhain i gyd ar gael yn eich siop Gymraeg neu Gristnogol leol, neu ar y wê o wefan www.gwales.com

Ymhlith yr arlwy mae na ddewis eang o lyfrau defosiynol i oedolion, Beiblau lliw i blant, llyfrau darllen lliwgar a deniadol i blant a nifer o lyfrau adnoddau i athrawon Ysgol Sul.

Yn ogystal â llyfrau mae gennym ddewis o CD’s, DVD’s a disgiau cyfrifiadurol ar gael hefyd, sy’n rhan o’n gweledigaeth i gyhoeddi adnoddau digidol yn Gymraeg.

Cofiwch hefyd bod yna nifer o gynlluniau cyffrous ar gael yn ein adran Projectau, gan gynnwys cynllun cyffrous i dderbyn myfyrdodau dyddiol i’ch ffôn dros gyfnod y grawys a’r Pasg – ewch i Y Profiad am fwy o fanylion ac i gofrestru.

Yn ddiweddar hefyd cyhoeddwyd cyfresi newydd o gardiau cydymdeimlad Cristnogol gennym, a 12 cynllun cardiau Nadolig newydd ar gyfer 2012 – mwy o wybodaeth YMA.

Bydd Cyngor Ysgolion Sul yn ôl ei arfer yn arddangos yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghlynllifon, ac yna yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd a’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg. Cofiwch alw mewn ym Mhabell yr Eglwysi i weld ein adnoddau diweddaraf. Byddwn yn cyhoeddi nifer o lyfrau defosiynol newydd a llyfrau darllen lliwgar i blant dros y misoedd nesaf.

Pob bendith gyda gwaith yr Ysgol Sul, a cofiwch gysylltu os gallwn eich cynorthwyo mewn unrhyw ffordd.

Aled Davies, Cyfarwyddwr