Cardiau Gweddi

Croeso i’r gyfres hon o gardiau gweddi ar gyfer plant 4-8 oed a 8-12 oed (maent hefyd yn addas ar gyfer ieuenctid ag anghenion ychwanegol).

Mae’r cardiau hyn wedi’u cynllunio i helpu plant i weddïo gan roi ysgogiad iddynt trwy luniau, geiriau a symbolau. Mae yna 26 o gardiau gwahanol ym mhob pecyn, pob un â thema syml.

Y gobaith yw cefnogi plant yn eu hysbrydolrwydd eu hunain trwy roi awgrymiadau gweledol agored a syml iddynt, fel y gallant lunio eu gweddïau eu hunain gan ddefnyddio geiriau, gweithredoedd, distawrwydd neu unrhyw fodd arall y maent yn ei ddewis.

Gellir defnyddio’r cardiau hyn i ysbrydoli plant wrth arwain gweddïau mewn grŵp.