Gellir cyflwyno’r syniad o weddi i blant o oed ifanc iawn. Mae gennym nifer o adnoddau i’ch cynorthwyo gyda hynny.
Llyfrau gweddi i blant
Mae sawl llyfr ar gael gennym sy’n addas ar gyfer plant ifanc iawn. 3 teitl sy’n lyfrau bwrdd syml i’r plant lleiaf yw:
- Diolch
- Os gweli di’n dda
- Mae’n ddrwg gen i
Mae gennym hefyd 4 llyfr bwrdd siâp cloc, gyda bysedd i’w symud, sef:
- Amser Gwely
- Amser Bwyd
- Amser Dathlu
- Amser Dysgu
Mae gennym hefyd gasgliadau o weddïau parod i blant, gan gynnwys:
- Helo Dduw – casgliad o weddïau ar gyfer plant dan 5 oed.
- Gweddïau ar gyfer pob dydd i blant bach – cyfrol o weddïau syml yn y gyfres beibl Bach i Blant i rai rhwng 5-8 oed.
- 365 o weddïau i blant, sef gweddi ddyddiol ar gyfer blwyddyn i blant plant dan 7-11 oed.
- Gweddïau ar gyfer pob dydd i blant bach – cyfrol o weddïau syml yn y gyfres beibl Bach i blant i rai rhwng 5-8 oed.
- Hoff Weddïau – casgliad clasurol o weddïau i blant 7-11 oed gyda lluniau hyfryd.
- Cyn Mynd i Gysgu – cyfrol o weddïau ar gyfer diwedd y dydd.
Syniadau gwersi Beiblaidd ar weddi
Mae gennym wersi Beiblaidd ar gyfer Ysgol Sul neu clwb plant hefyd ar gael trwy lawrlwytho’r deunydd isod:
Gwersi ar thema ‘Iesu’r Athro’
Pecyn Clwb Plant ar Weddi
Dyma ddau becyn o syniadau gwersi a chrefft yn trafod Gweddi’r Arglwydd:
Gweddi’r Arglwydd Rhan 1 Gweddi’r Arglwydd Rhan 2
Gweddi’r Arglwydd Rhan 1 Gweddi’r Arglwydd Rhan 2
Cardiau gweddi i blant
Mae pecyn o gardiau gweddi lliwgar ar gael gennym hefyd, sy’n cynnwys 26 gweddi a llun ar gyfer 4-7 oed a pecyn cyfatebol ar gyfer plant 8-11 oed. Maent ar gael drwy glicio YMA