Cyswllt Ysgolion

Cysylltu Eglwysi ac Ysgolion - Canllawiau Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru

Yn dilyn y Ddeddf Addysg newydd i Gymru (2021) penderfynodd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru y byddai’n ddoeth i ddiwygio Cysylltu Eglwysi ac Ysgolion, dogfen 2003 Gillian Wood, ac rydym yn ddiolchgar i Vaughan Salisbury (Ysgrifennydd Addysg CERhC) am ymgymryd â’r gwaith yma.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael fel fersiwn ar-lein yn unig ac ar gael i’w lawrlwytho yma.

Dywedodd Vaughan Salisbury, ‘Rwy’n gobeithio bydd y dogfennau hyn o gymorth i aelodau eglwysi lleol wrth iddynt gyfrannu at gwricwlwm ac Addoli ar y Cyd eu hysgolion lleol’.

Mae’r dogfennau yma wedi eu cynllunio er mwyn annog cysylltiadau rhwng eglwysi ac ysgolion lleol yng Nghymru: i annog eglwysi sydd heb ymwneud ag ysgolion i ddechrau ar y fenter gyffrous yma ac i annog eraill i barhau a hyd yn oed i ymestyn eu hymgysylltiad.

Wedi eu paratoi gan Gillian Wood a’i diwygio yn 2022 gan Vaughan Salisbury.

Dogfen Cysylltu Eglwysi ac Ysgolion (PDF)
Canllaw ar gyfer ymweld ag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd (PDF)
Gweddi dros Ysgolion
Mae Gweddi dros Ysgolion yn dyheu am weld gweddïau’n cael eu hoffrymu dros bob ysgol yn ein gwlad.

Mae modd lawrlwytho gweddiau addas sydd wedi eu paratoi yn Gymraeg ar eu gwefan.

www.prayforschools.org
Cwricilwm newydd i Gymru - rhai canllawiau gan Lywodraeth Cymru
Chwe ffaith am y Cwricwlwm newydd i Gymru:

1. Mae llawer o ysgolion eisoes wedi dechrau gweithio’n wahanol
Mewn nifer o ysgolion, mae’r newid eisoes ar droed. Yn 2017, dechreuodd ysgolion, athrawon ac arbenigwyr eraill weithio gyda’i gilydd i greu’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Achosodd y pandemig newidiadau cyflym mewn llawer o ysgolion. Roedd modd iddynt ganolbwyntio ar les a chynnydd dysgwyr ac mae athrawon wedi eu rhyddhau oddi wrth lwyth gwaith dianghenraid.

2. Mae’r cwricwlwm wedi ei gynllunio o amgylch pedwar diben i ddysgwyr
Bydd y Pedwar Diben yn dod yn derm cyfarwydd i rieni, gofalwyr a phlant. Am y tro cyntaf, rydym wedi diffinio yn y gyfraith beth ddylai diben addysg yng Nghymru fod.

Nod cwricwlwm ysgol yw cefnogi ei dysgwyr i ddod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

3. Bydd mwy o hyblygrwydd gan athrawon
Bydd fframwaith cenedlaethol i sicrhau cysondeb a chraidd dysgu, ond bydd athrawon ac addysgwyr eraill yn cael eu grymuso i ddefnyddio eu sgiliau a’u dealltwriaeth broffesiynol i benderfynu beth i’w addysgu a sut i wneud hynny er mwyn cael y gorau gan eu dysgwyr.

4. Bydd pynciau cyfarwydd yn parhau i gael eu haddysgu, ond yn cael eu cyflawni fel rhan o feysydd ehangach o ddysgu
Mae chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru.

  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Bydd pynciau penodol yn dal i gael eu haddysgu, ond gall ysgolion benderfynu archwilio’r cysylltiadau rhyngddynt, er mwyn i ddysgwyr ddeall y cyd-gysylltedd ac ehangder eu dysgu. Gellir dysgu pwnc fel newid hinsawdd drwy ddaearyddiaeth, hanes, gwyddoniaeth a’r effaith ar gymdeithas.

5. Bydd dysgu hanes pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm newydd
Bydd dysgu am hanes Cymru ac am hanes ac amrywiaeth cymunedau, yn enwedig hanesion pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, yn rhannau gorfodol o’r cwricwlwm newydd.

Mae pob un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad y cwricwlwm yn cynnwys ‘Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig’, a ddisgrifir fel y ‘syniadau mawr’ a’r egwyddorion allweddol ym mhob Maes. Mae’r datganiadau’n cynnwys disgwyliad y gall dysgwyr “ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, luosog ac amrywiol cymdeithasau, o’r gorffennol a’r presennol. Mae’r straeon hyn yn amrywiol, yn rhychwantu gwahanol gymunedau ac, yn arbennig, straeon pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.”

Mae’r Athro Charlotte Williams OBE wedi bod yn arwain ar waith i wella addysgu am gymunedau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, gan gynnwys datblygu deunyddiau addysgu a hyfforddi newydd i athrawon ac athrawon dan hyfforddiant, i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd.

6. Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn orfodol ym mhob ysgol o fis Medi 2022, yn ogystal â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Bydd pob plentyn yn cael Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fydd yn briodol yn ddatblygiadol o dan y cwricwlwm newydd. Bydd hyn yn cynnwys dysgu am gydberthnasau iach, cadw’n ddiogel gan gynnwys ar-lein, a bod yn hyderus i sôn wrth oedolion cyfrifol am unrhyw broblemau.

Mae grwpiau ffydd a grwpiau eraill sydd yn cynrychioli buddiannau plant, fel yr NSPCC a Chomisiynydd Plant Cymru, wedi cynorthwyo gweithwyr proffesiynol ym maes addysg i ddatblygu’r cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.