Iechyd a Hunan-les

Erbyn hyn rydym yn clywed am fwyfwy o achosion o bobl sy’n dioddef o gorbryder a problemau iechyd meddwl. Mae nifer o fudiadau Cristnogol yn cynnig cefnogaeth: rhestrir rhai ohonynt isod:

Llythyr gobaith, llythyr cariad gan Glyn Wise

Mae llyfrau self-help yn hynod boblogaidd y dyddiau hyn, ond wrth ddarllen drwyddynt gyda chrib mân gwelwn fod llawer o’u prif negeseuon yn deillio o’r Beibl. Llythyr cariad yw’r Beibl i ni gan Dduw, ac os nad ydych yn credu yn Nuw, wel, mae’n parhau i fod yn llyfr llawn gwybodaeth ar sut i fyw’r bywyd gorau posibl.

Mae’r Beibl yr un mor berthnasol yn ein dyddiau ni ag yr oedd ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Gyda llawer yn neidio ar y cyfle am y tro cyntaf i ddarllen y llyfr hynafol hwn a dysgu o brofiadau rhai o’r cymeriadau.

Mewn cyfnod ble mae hunan-les yn un o’r ffactorau pwysicaf mewn cymdeithas, mae awdur y llyfr hwn am i’r darllenydd edrych sut mae storïau a chymeriadau’r Beibl yn berthnasol i’n bywydau ni heddiw.

Cynnwys
Yr Hen Destament
Pennod 1 Efa (Delwedd)
Pennod 2 Rebeca (Twyllo Eraill)
Pennod 3 Moses (Pwysau ar Unigolyn)
Pennod 4 Miriam (Cenfigen)
Pennod 5 Samson (Chwant)

Y Testament Newydd
Pennod 6 Disgyblion Iesu (Teimlo’n Fethiant fel Cristion)
Pennod 7 Mair a Martha (Blaenoriaethu Anghywir) 
Pennod 8 Pedr (Cywilydd o fod yn Gristion) 
Pennod 9 Jwdas Iscariot (Bod yn Farus) 
Pennod 10 Mair Magdalen (Targed Malais) 

Yr Awdur
Daw Glyn Wise o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol, daeth i enwogrwydd yn 2006 fel un o sêr y rhaglen realaeth Big Brother ac yna bu’n dilyn sawl trywydd gwahanol gan gynnwys cyfnod fel athro. Wedi ei ysbrydoli gan yr egni a’r brwdfrydedd a welodd ymhlith Cristnogion yn Asia wrth deithio yno fe deimlodd alwad i ddychwelyd i Gymru i wasanaethu’r eglwys. Bellach mae’n hyfforddi am yr Offeiriadaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru.

Cynnal
https://adferiad.org/cym/
Rhif ffôn llinell gymorth: 07796464045
Mae CYNNAL yn wasanaeth cwnsela cyfrinachol rhad ac am ddim sydd ar gael ledled Cymru i holl Glerigwyr, Gweinidogion Crefydd, gweithwyr Cristnogol, a’u teuluoedd.
Mae CYNNAL yn delio â phob math o broblemau ac yn cymryd agwedd gyfannol sy’n mynd i’r afael â rhyngweithiad meddwl, corff ac enaid. Mae’r gwasanaeth yn cydnabod dimensiwn ysbrydol bywyd ac, os yw’n briodol, yn cynnig cyfeiriad ar gyfer arweiniad ysbrydol pellach. Yn ei rôl fel Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol i CYNNAL, mae Wynford Ellis Owen wedi gallu ehangu’r gwasanaeth i Ogledd, Dwyrain a Gorllewin Cymru gan sicrhau bod gan CYNNAL bellach gyrhaeddiad gwirioneddol genedlaethol.

Tir Dewi
https://tirdewi.wales/cy/hafan/
Rhif ffôn llinell gymorth: 0800 121 4722

Farming Crisis Network
Rhif ffôn llinell gymorth: 03000 111 999
https://fcn.org.uk/?lang=cy
Mae Farming Community Network (FCN) yn sefydliad gwirfoddol ac yn elusen sy’n cefnogi ffermwyr a theuluoedd yn y gymuned ffermio ar adegau anodd.
Mae FCN yma i’ch helpu, gyda materion personol a materion sy’n gysylltiedig â busnes. Mae gennym linell ffôn genedlaethol sy’n cynnig cymorth cyfrinachol a llinell gymorth electronig sydd ar agor bob diwrnod o’r flwyddyn rhwng 7am a 11pm. Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig cymorth cyfrinachol, bugeiliol ac ymarferol am ddim i bawb sydd eisiau cymorth. Mae dros 6,000 o bobl y flwyddyn yn elwa o gymorth FCN, a gallwn helpu gydag amrywiol faterion.
DPJ Foundation
Rhif ffôn y llinell gymorth 0800 587 4262
https://www.thedpjfoundation.co.uk/cy/home-cymraeg/
Sefydlwyd Sefydliad DPJ ym mis Gorffennaf 2016 yn Sir Benfro, i gefnogi’r rheini yn y sector amaethyddol. Mae’r elusen iechyd meddwl ffermio wedi tyfu ac mae’n cwmpasu Cymru gyfan gyda phob maes cymorth. Mae Sefydliad DPJ yn gweithio gyda sefydliadau blaenllaw yn y sector gan gynnwys NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, CFfI, milfeddygon a Llywodraeth Cymru i helpu i ddarparu gwasanaeth hygyrch a hyblyg.