Gwyliau Cenedlaethol

Gwyliau Cenedlaethol 2024
Yn ôl ein harfer bydd gennym bresenoldeb yn y ddau ddigwyddiad cenedlaethol, gan geisio bod yn dystiolaeth yn enw’r eglwysi a’r enwadau.

Os byddwch yn mynd i gyfeiriad Llanelwedd ar gyfer y Sioe, cofiwch alw i’n gweld ar res D, lle bydd ’na baned a theisen gri yn disgwyl amdanoch. Bydd gwasanaeth byr bob dydd am 11.00, a chyfle am sgwrs a seiat. Bydd dewis o lyfrau Cymraeg a Saesneg ar werth, ynghyd â gweithgareddau i blant. Bydd gennym ddetholiad o lyfrau newydd a cardiau Nadolig.

Eleni, presenoldeb llai o ran maint i’r arfer fydd ’na ar faes yr Eisteddfod, gan nad yw gofod yn caniatáu i ni gael ein stondin fawr arferol. Ond bydd gennym ddetholiad o lyfrau newydd a cardiau Nadolig ar werth yno ar y maes yn ôl yr arfer. Oddi yno, fe wnawn eich cyfeirio at eglwys St Catherine’s, sy’n llai na 5 munud o daith ar droed, dros y bont droed ac i gyfeiriad y stryd fawr. Yno byddwn yn cynnig paneidiau yn ddyddiol, yn cynnal gwasanaethau dyddiol am 1.00 bob prynhawn ac yna ambell sesiwn a lansiad llyfr. Bydd yna arddangosfeydd hefyd yn yr eglwys, yn dangos gwaith nifer o fudiadau Cristnogol, ynghyd â sioe flodau ac arddangosfa o luniau ffenestri lliw hynafol. Mae croeso i deuluoedd alw i mewn, a bydd digon o ddarpariaeth ar gyfer plant o bob oed.

Bydd croeso mawr yn eich disgwyl felly yn eglwys St Catherine bob dydd o Sadwrn, 3 Awst, tan Sadwrn, 10 Awst, rhwng 11.30 y bore a 5.30 y pnawn.

Mae presenoldeb gan y Cyngor Ysgolion Sul a Cyhoeddiadau’r Gair yn y tair gŵyl genedlaethol yn flynyddol. Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Fel arfer rydym yn rhannu pabell gyda’r Eglwysi/CYTUN.

Yn y gwyliau ceir cyfle i brynu’r adnoddau diweddaraf, ail-gyflenwi stoc eich Ysgolion Sul a’ch Eglwysi o adnoddau a ddefnyddir yn aml a phrynu Cardiau Nadolig (sydd a’r elw yn mynd er budd cenhadaeth y Cyngor Ysgolion Sul).

Yn ogystal, mae’r gwyliau cenedlaethol yn gyfle da i gyfarfod gyda Aled Davies, cyfarwyddwr y gwaith, er mwyn gwyntyllu syniadau, gofyn am gyngor a rhannu syniadau gyda Christnogion o rannau eraill o Gymru.

Galwch i mewn i’n gweld yn un o’r prif wyliau eleni.