storïwr, sydd yn eu helpu nhw i ddistewi a bod yn barod am y stori. Yna mae’r
storïwr yn dweud stori o’r Beibl, gan ddefnyddio gwrthrychau a symbolau megis
tywod, pobl bach pren a lluniau. Mae’r plant wrth eu boddau. Mae’r stori yn dod yn
fyw yn y dull sy’n naturiol iddyn nhw.
Mae’r cwricwlwm Godly Play yn cynnwys storïau sanctaidd, sydd yn dweud ‘stori
fawr’ yr Hen Destament a’r Testament Newydd, damhegion a gwersi sydd yn eu
helpu i ddeall arferion y ffydd (fel Bedydd a’r Cymun er enghraifft). Mae yna storïau
hefyd am gymeriadau mawr y Beibl – Dafydd, Daniel a’u tebyg – a rhai sydd yn addas
at wahanol tymhorau’r flwyddyn fel Nadolig, Pasg, a’r Pentecost. Y nod yw rhoi
model mewnol o’r ffydd Gristnogol i’r plant ar gyfer gweddill eu hoes.
Ar ôl y stori mae yna amser ‘myfyrio’, gan ofyn cwestiynau agored i helpu’r plant i
gysylltu’n bersonol gyda’r naratif. Beth oeddech chi’n hoffi fwyaf yn y stori? Beth
yw’r rhan fwyaf pwysig yn y stori? Lle ydych chi yn y stori?
Wedyn mae amser rhydd ar gyfer chwarae, neu gelf a chrefft. Mae’r plant yn cael un
ai dewis stori o’r silffoedd a chwarae gyda hi, neu ymateb i’r stori mewn ffordd
greadigol drwy gelf a chrefft. Nid ydym yn darparu deunydd parod; mae hyn y ffordd
i’r plant brosesu’r stori yn eu ffordd eu hunain. Yna daw pawb yn ôl at y cylch ar
gyfer gweddiau a’r ‘wledd’, sef fel arfer bisgedyn a diod. Ac yna mae’n amser dweud
ta-ta!
gyda plant. Gellir defnyddio’r storïau hefyd yng nghyd-destun gwasanaethau pob
oed, Llan Llanast a gwersi Addysg Grefyddol.
gydymaith i’r llyfrau Saesneg The Complete Guide to Godly Play gan Jerome
Berryman, Cyfrolau 2, 3, 4 a 6. Mae’r cyfrolau Saesneg ar gael drwy siopau llyfrau ar-lein.
COPI CALED CYMRAEG £48
I archebu ffeil copiu caled o holl sgriptiau Cymraeg Chwarae a Chredu allan o’r 4 cyfrol, cliciwch isod er mwyn talu gyda Paypal. Pris y ffeil yw £48, gyda £4 am gludiant. COPI DIGIDOL CYMRAEG £40
I archebu ffeil digidol (fersiwn pdf) o holl sgriptiau Cymraeg Chwarae a Chredu allan o’r 4 cyfrol, cliciwch isod er mwyn talu gyda Paypal. Byddwn yn gyrru ebost atoch yn dilyn hynny gyda’r ddogfen pdf wedi ei atodi. Pris y ffeil yw £40 am gopi pdf.
Noder mai copi UNIGOL i’r defnyddiwr yw hwn, ac ni chaniateir gyrru’r pdf ymlaen at unrhyun arall. Mae’r deunydd wedi ei reoli o dan ddeddf hawlfraint.
Gellir brynu deunydd Godly Play drwy wefan Godly Play:
godlyplay.uk
https://www.godlyplay.uk
Os hoffech roi tro ar Godly Play, y peth gorau i’w wneud yw profi sesiwn eich hunain
a gwahodd eraill i gael eu hysbrydoli. Os ydych eisiau trefnu sesiwn ‘blasu’ croeso i
chi ebostio CassMeurigThomas@cinw.org.uk.
Dewch i chwarae!