Yn ôl i bob sesiwn
Lawrlwytho HD Lawrlwytho SD
Sesiwn 1: Pam Gweddïo?
Cliciwch isod i lawrlwytho’r sesiwn fel dogfen PDF gyflawn.
Canllaw Astudio Grwpiau Bach – Sesiwn 1 (PDF)
Sesiwn 1:
Pam Gweddïo?
Canllaw Astudio Grwpiau Bach
1. Cyflwynwch y sesiwn
5 munud
Adnod allweddol – “Arglwydd, dysg ni i weddïo” – Luc 11:1
- Yn y sesiwn gyntaf hon o’r Cwrs Gweddi, byddwn yn dadbacio pwysigrwydd gweddi a’r gwahanol bynciau a drafodir ar draws y cwrs.
- Dechreuwch y sesiwn trwy agor mewn gweddi.
2. Gwyliwch y Fideo
20 munud
Darnau o’r Beibl
Luc 11:1-4, Mathew 6:6-8, Rhufeiniaid 8:26-28
Pwyntiau crynhoi
- Gallwn ofyn i Iesu ein helpu i ddysgu sut i weddïo.
- Mae gweddïo fel blwch offer – mae llawer o wahanol ffyrdd o weddïo.
- Cadwch hi’n syml. Cadwch hi’n real. Daliwch ati.
3. Cwestiynau Trafod
20 munud
Cwestiwn: Beth oedd fwyaf defnyddiol neu fwyaf heriol yn y fideo i chi?
Cwestiwn: Beth sy’n anodd i chwi mewn gweddi? Beth sy’n hawdd i chi?
Pam ydych chi’n meddwl gall gweddi deimlo’n galed yn aml?
Dywed Pete mai’r cyngor gorau yw “Cadw pethau’n syml, ei gadw’n real a’i gadw i fyny.”
Cadwch ef yn syml: “mae eich bywyd gweddi ar ei orau ar ei symlaf”
Cwestiwn: Am beth yr ydych yn siarad yn bennaf â Duw ?
Cadwch bethau’n real: “Peidiwch â chwarae rôl gerbron Duw”
Cwestiwn: A ydych yn teimlo fod yn rhaid i chwi ymddwyn yn neilltuol gerbron Duw wrth weddïo ? Pam neu pam lai?
Daliwch ati: “Peidiwch â rhoi’r gorau i weddïo’n rhy fuan”
Cwestiwn:A ydych yn ei chael yn her i ddyfalbarhau mewn gweddi ? Sut gallwn ni gael ein hannog i ddal ati?
4. Gweithredu
15 munud
Rhannwch yn grwpiau bach, a rhannwch un ffordd yr hoffech chi dyfu mewn gweddi a’ch perthynas â Duw dros y cwrs.
Nodyn i’r arweinydd
Efallai yr hoffech chi hefyd ysgrifennu eich nodau, fel y gallwch chi ailymweld â nhw ar ddiwedd y cwrs.
Adnoddau ychwanegol: Pam gweddïo?
Gellir dod o hyd i’r rhain yn prayercourse.org/toolshed
- “How to pray the Lord’s Prayer”- Sut i Weddïo Gweddi’r Arglwydd
- “How to have a quiet time” – Sut i Gael Amser Tawel
- “How to pray the Examen” – Sut i Weddïo’r “Examen”