Cyhoeddir gwerslyfrau newydd yn rheolaidd ar gyfer plant, ieuenctid ac oedolion.
Beibl Gweithgaredd yr Anturwyr Bach (gwales.com)
Beibl Gweithgaredd yr Anturwyr Mawr (gwales.com)
I gyd fynd gyda’r Beiblau Gweithgaredd gellid defnyddio Gwerslyfr Stori Duw i Blant dan 11 oed ar gyfer deunydd y wers.
Mae modd lawrlwytho gwerslyfrau Ysgol Sul o’r wê hefyd, cliciwch ar y bocs isod:
Cyfres Werslyfrau Stori Duw
£19.99
Ar y ddisg gyfrifiadurol hon mae digon o wersi Ysgol Sul ar gyfer dwy flynedd o waith. Cyfres o 7 gwerslyfr sy’n cynnwys 50 o wersi Ysgol Sul sy’n cyflwyno prif storïau’r Beibl ar gyfer plant meithrin, plant 5-11 oed a ieuenctid 11-15 oed. Dros 400 o brojectau crefft a 200 o luniau i’w lliwio yn gynwysiedig.
Cyfres Golau ar y Gair
£19.99
Ar y ddisg gyfrifiadurol hon mae digon o wersi Ysgol Sul ar gyfer pedair blynedd o waith. Cyfres o 40 gwerslyfr sy’n cynnwys 120 o wersi Ysgol Sul sy’n cyflwyno prif storïau’r Beibl ar gyfer plant meithrin, plant 5-11 oed a ieuenctid 11-15 oed.
Beibl Bach i Blant
£13.99
64 cyflwyniad PowerPoint ar gyfer y cyfrifiadur yn seiliedig ar storïau allan o ‘Beibl Bach i Blant’, yn cynnwys dros 400 o luniau lliwgar.
Beibl Newydd y Storiwr
£9.99
Yn y bocs yma ceir 4 CD Sain sy’n cynnwys 70 o storiau Beiblaidd yn cael eu darllen gan Catherine aran, Martyn Geraint, Mair Tomos Ifans a Wynford Ellis Owen.
Cliciwch yma i wrando ar sampl o stori ‘Yn y Dechrau’.
Beibl Bach i Blant – CD Sain
£9.99
64 o storïau allan o ‘Beibl Bach i Blant’ yn cael eu darllen gan Aled Davies.