Cyfres y Beibl: Profwch stori well
Taith saith rhan drwy stori fawr y Beibl ar gyfer yr eglwys gyfan.
Mae stori bywyd yn llawn cwestiynau – beth sy’n dod â rhyddid, heddwch a gobaith ar gyfer y dyfodol? Helpwch eich eglwys a’ch cymuned i brofi stori well trwy ddarganfod perthnasedd bythol y Beibl. Mewn partneriaeth ag Cymdeithas y Beibl ac Eglwys Caersalem Caernarfon, rydym yn cynnig adnoddau am ddim gan gynnwys:
- Ffilmiau tystiolaeth pwerus
- Ffilmiau pregeth
- Ffilmiau grŵp bach a chanllaw trafodaeth
- Cynlluniau gwersi plant
- Cyfres o gerddi a ffilmiau creadigol
- Llyfr y gyfres gan Andrew Ollerton (Saesneg)
Trosolwg o’r Gyfres
Dros gyfnod o saith wythnos, mae Cyfres y Beibl yn cyflwyno stori gyfan y Beibl i bobl. Mae pob wythnos yn cyffwrdd â themâu allweddol ac yn eu cysylltu ag anghenion dynol cyffredinol. Yn wyneb hyn, rydyn ni’n argymell gwahodd gwesteion (yn yr eglwys neu ar-lein) er mwyn iddyn nhw hefyd allu profi grym a pherthnasedd y Beibl. Mae cyfres o adnoddau creadigol hyblyg ar gael i chi eu dewis a’u defnyddio i greu eich gwasanaethau. Meddyliwch amdano fel bwydlen a dewiswch yr hyn rydych chi’n meddwl fydd yn gweithio orau yn eich cyd-destun.
www.cyfresybeibl.com