Gwers yr Ysgol Sul mewn cyfnod o hunan-ynysu – a thu hwnt!
Yn ystod tymor 2020/21 cafwyd maes llafur i oedolion wedi ei baratoi bob wythnos gan y Parchg Denzil John, Caerdydd. Cafwyd 54 gwers ganddo’n ein cyflwyno i rai o gymeriadau mwyaf cyfarwydd y Testament Newydd.
Yn ogystal â darparu gwers wythnosol a ymddangosodd yn y papurau enwadol, fe aeth ati yn ogystal i gyflwyno ffilm o bob un wers, ac mae’r ffilmiau hynny i’w gweld yma ac ar YouTube.
Mawr yw ein diolch i Denzil am y ddarpariaeth gyfoethog hon. Er na fu grwpiau’n cyfarfod mewn sawl capel lle’r arferid cynnal dosbarth oedolion, gobeithiwn y bydd modd i eraill eto yn y dyfodol droi at y deunydd hwn. Mae’n ddelfrydol fel deunydd trafod mewn seiat neu astudiaeth Feiblaidd.
Bydd yr adnodd yma yn parhau i fod ar gael a gellid cael mynediad iddo drwy sgrolio i lawr ar y dudalen hon at y blwch ‘Cymeriadau’r Testament Newydd – Maes Llafur 2020/21’

O fis Medi 2022 ymlaen, bydd y maes yn seiliedig ar y gyfrol Dehongli Bywyd a Gwaith Abraham, gan ddilyn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd gan yr Athro Gareth Lloyd Jones, sy’n ddilyniant i gyfres boblogaidd Elfed ap Nefydd Roberts, ‘Dehongli …’ ar y Testament Newydd.
Byddwn yn troi i gyfeiriad Abraham yn gyntaf, ac yna, yn 2023, yn astudio’i ail gyfrol yn y gyfres, sef Dehongli Bywyd a Gwaith Esther a Jona, cyn gorffen gyda Dehongli Bywyd a Gwaith Moses.
Yn ychwanegol at y cyfrolau hyn, fe fydd yna gyflwyniad byr i’r wers ac ambell sylw perthnasol a chyfoes yn cael eu cynnwys o fewn tudalennau’r papurau enwadol. Am 2022/23 mi fydd y gwersi hyn yn cael eu paratoi yn wythnosol ar gyfer y Cennad a’r Tyst gan y Parchedig Meirion Morris, Llandysul.
Mae’r llyfr ar gael yn eich siop lyfrau lleol neu mae modd ei brynu fel PDF digidol yma.