Canllawiau cyflwyno heriau caethwasiaeth fodern i blant
Adnodd STORI DEWRUN
Wedi’i ysgrifennu gan Gwmni Budd Cymunedol Dewryn a’i gyhoeddi mewn partneriaeth ag Invisible Traffick “Dewryn” yw’r llyfr cyntaf yn y Gymraeg sy’n canolbwyntio ar her dybryd caethwasiaeth fodern wedi’i hanelu at blant 6 – 11 oed, a bydd yn caniatáu i rieni ac athrawon drafod mater sensitif iawn mewn ffordd gyfeillgar i blant.
Mae’r llyfr yn canolbwyntio ar brofiad ysgytwol Bella. Y mae ei mam, sy’n dioddef tlodi, yn cael ei thwyllo i ganiatáu i’w phlentyn ifanc gael ei fasnachu dramor. Mae hi o’r diwedd yn cael ei hachub oddi wrth y rhai sy’n ei hecsbloetio trwy ymyrraeth ei thedi gwerthfawr “DEWRUN” a pheiriant rhostio coffi gofalgar iawn o’r enw “RORY”.
Mae’r stori hon yn ffuglennol, ond mae’n adlewyrchu trawma bywyd go iawn y rhai sy’n dioddef ar hyn o bryd o effaith caethwasiaeth fodern.
“Mae’r Llyfr Dewr yn adnodd hyfryd i ysgolion sy’n cyd-fynd â chwricwlwm Cymru i helpu disgyblion i ddod yn ddinasyddion cyfrifol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd. Mae Dewrun yn helpu athrawon i gefnogi disgyblion i ddatblygu eu meddwl a’u dealltwriaeth eu hunain o gaethwasiaeth fodern trwy lyfr sydd wedi’i ysgrifennu’n dda, sydd wedi’i ddarlunio’n hyfryd gyda delweddau sy’n ysgogi’r meddwl. “
John Meredith, Cyfarwyddwr Addysg – Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu
“Mae’r llyfr hwn, DEWRUN, yn ffordd wych o gyfleu’r neges i blant ynglŷn â sut i gadw’n ddiogel a pheidio â dioddef caethwasiaeth.”
Stephen Chapman, Cydlynydd Gwrth-gaethwasiaeth Llywodraeth Cymru
Cewch mwy o wybodaeth ar wefan bravebeartrust.org