Dyma gasgliad unigryw sy’n cynnwys dros 400 o ganeuon i blant ac ieuenctid. Bu panel cyd-enwadol yn gyfrifol am gasglu’r deunydd a chyhoeddwyd y cyfrolau yn 2016. Mae’r ddwy gyfrol yn cynnwys dros 400 o emynau a chaneuon Cristnogol i blant ac ieuenctid.
Ceir rhai o’n ffefrynnau traddodiadol ond yn bennaf dyma gasgliad o ganeuon Cristnogol cyfoes a gomisiynwyd ar gyfer y gyfrol.
Cerddoriaeth llawn hen nodiant gyda cordiau gitâr
Yn cynnwys caneuon gan:
Arfon Wyn, Robat Arwyn, Ceri Gwyn, Euros Rhys Evans, Martyn Geraint, Arfon Jones, John Gwilym Jones, Hefin Elis, Sian Wheway, Susan Williams, Tecwyn Ifan, Mererid Hopwood, Tudur Dylan, Gwyneth Glyn, Mererid Mair a Ynyr Roberts Brigyn
Cynnig arbennig, dwy gyfol (sef y casgliad llawn) am £50.
Mae modd i Ysgolion Sul ac Ysgolion fanteisio ar gynnig arbennig gan y Cyngor Ysgolion Sul i gael set gyflawn am £50 yn cynnwys cludiant.
Cliciwch YMA i lawrlwytho ffurflen archebu.
Hefyd ar gael erbyn hyn mae casgliad cyflawn o PowerPoint’s Canu Clod ar gael i’w prynu’n ddigidol: