Dyma dair tudalen i’w lawrlwytho sy’n rhoi cofrestr presenoldeb ysgolion sul. Mae digon o le i gofrestru 15 ar bob taflen. Ffeil PDF i chi argraffu adref.
Cofrestr Ysgol SulYma ceir rhai syniadau i chi, arweinwyr Ysgol Sul, ar sut i geisio denu mwy o blant, ac i gadw eu diddordeb yn yr Ysgol Sul. Efallai eich bod yn gwneithredu rhai o’r syniadau hyn yn barod, serch hynny, gobeithio y bydd yma ambell syniad fydd o gymorth i chi ddenu mwy o blant, ac i gryfhau presenoldeb y plant sydd yn mynychu.
Mwy o wybodaeth am Hybu’r Ysgol SulBeth am gychwyn Ysgol Sul newydd?
– sefydliad sydd wedi bod yn rhan annatod o’r Gymuned Gymraeg ers dros 200 mlynedd!
Os ydych yn rhedeg clwb gwyliau i blant 12 mlwydd oed ac iau, yna mae angen i chi gysylltu â Arolygiaeth Gofal Cymru i roi gwybod iddynt er mwyn sicrhau nad oes angen cofrestru’r gweithgaredd.
Canllawiau Rhedeg Clybiau Gwyliau CristnogolFel Cyngor sydd â chyfrifoldeb a baich dros Addysg Gristnogol byddwn yn trefnu Sul Addysg yn flynyddol, gan ofyn i eglwysi neilltuo amser i feddwl ac i weddïo dros eu gwaith gyda phlant a ieuenctid.
Dyma’r Sul hefyd y mae Cyngor Ysgolion Sul yn gwneud ei apêl ariannol blynyddol i’r eglwysi.
Sul AddysgYma ceir nifer o bosteri ar ffurf PDF neu JPG i’ch helpu i lunio posteri lliwgar ar gyfer hysbysebu eich digwyddiadau. Byddwn yn ychwanegu at y rhestr yn dymhorol.
Posteri i lawrlwytho