Arwyr Ancora – deunydd clwb gwyliau

ADNODDAU CLWB GWYLIAU AR GYFER PLANT RHWNG 5 AC 11 OED

Beth am fynd ati dros y gwyliau i drefnu clwb gwyliau Cristnogol yn eich eglwys ar gyfer plant 7-11 oed?

Yn y pecyn cynhwysfawr rydym wedi ei baratoi mae rhaglen gyflawn o ddeunydd clwb gwyliau sy’n mynd â ni i fyd Arwyr Ancora. Gellir unai cynnal wythnos lawn (5 diwrnod) neu gynnal un diwrnod ar thema arbennig o fywyd Iesu.

Bydd plant eich clwb gwyliau’n cael y cyfle gwych i fod yn Arwyr Ancora, a chwilio am y stori-drysorau sydd ar goll. Trwy eu gwaith fel Arwyr, bydd y plant yn cyfarfod â Iesu, ac yn cael cyfle i ystyried eu rhan nhw yn y stori fwyaf erioed. Gan ddechrau gyda geni Iesu a gorffen gyda’r atgyfodiad, mae’r clwb gwyliau’n rhoi cyfle i’r plant glywed yr efengyl ac yn eu gwahodd i ystyried eu hymateb eu hunain.

Mae CASGLU’R TRYSOR yn addas ar gyfer plant o bob oed ac ar bob cam ar daith ffydd. Mae ARWYR ANCORA: CASGLU’R TRYSOR yn rhaglen hawdd ei haddasu. Mae’n cynnwys crefftau, gêmau, darganfod y Beibl, trafodaethau mewn grwpiau bach, syniadau creadigol ar gyfer gweddi a chyfoeth o adnoddau eraill am ddim – popeth y mae arnoch ei angen i wneud eich clwb gwyliau’n llwyddiant ysgubol.

Hefyd mae dau lyfr gweithgareddau pwrpasol (ar gyfer pob plentyn unigol) sy’n cynnwys yr holl ddarlleniadau o’r Beibl y bydd arnoch eu hangen ar gyfer CASGLU’R TRYSOR, gyda phosau, gweithgareddau a chyfleoedd i ymateb i’r storïau. Gellir eu defnyddio yn y clwb a gartref. Cliciwch isod i archebu’r adnoddau:

Arwyr Ancora: Casglu’r Trysor (Rhalgen Clwb Gwyliau)
Cliciwch yma i brynu copi caled trwy’r post o gwales.com
Arwyr Ancora: Casglu’r Trysor – Storfa Drysor (5 i 8 oed)
Cliciwch yma i brynu copi caled trwy’r post o gwales.com
Arwyr Ancora: Casglu’r Trysor – Cist Trysor (8 i 11 oed)
Cliciwch yma i brynu copi caled trwy’r post o gwales.com

Mae telerau arbennig ar gael i eglwysi sydd am redeg clwb gwyliau yn eu heglwys. Gellir archebu copiau o Storfa Drysor a Cist Trysor am £1 yr un (yn lle £2.50) drwy gysylltu gyda Cyngor Ysgolion Sul.

Mae’r rhaglen wedi’i seilio ar app y gêm ARWYR ANCORA. Gallwch gynnal y clwb heb gyfeirio at y gêm ond mae’r llyfr yn cynnwys awgrymiadau am sut y gallwch ddefnyddio’r gêm i ychwanegu at y gweithgareddau.

Am fwy o wybodaeth am Arwyr Ancora cliciwch ar www.arwyrancora.com