Cyfrannu at y gwaith

Mae Cyngor Ysgolion Sul yn elusen gofrestredig, rhif 525766, sy’n gweithio’n agos gyda’i bum prif noddwr, sef yr enwadau Cymreig yng Nghymru, er mwyn cyflwyno’r newyddion Da am Iesu, yn bennaf i blant ac ieuenctid, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Mae llawer iawn o’r gwaith craidd mae’r Cyngor yn ei wneud yn cael ei gynnal a’i noddi gan yr enwadau. Fodd bynnag mae llawer iawn o’r gwaith cenhadol ac ymestynol rydym yn ei gyflawni yn ddibynnol i raddau helaeth ar roddion gan garedigion ac unigolion sy’n cyfrannu at y gwaith. Wrth i ni ddatblygu strategaeth genhadol newydd mae rhoddion yn fwyfwy allweddol i wneud gwaith newydd a chyfoes, gan gofleidio technoleg newydd i wneud hynny. Dros y blynyddoedd nesaf rydym yn bwriadu datblygu gwefannau newydd lle bydd llawer iawn o adnoddau yno i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim. I gyflawni hynny mae angen eich rhoddion arnom.

Mae’r rhai sy’n cyfrannu eisoes at y gwaith yn cynnwys:

  • Unigolion sy’n cyfrannu’n rheolaidd neu yn achlysurol at y gwaith
  • Eglwysi sy’n gyrru rhoddion trwy ein hapêl blynyddol ar Sul Addysg.
  • Cymanfaoedd, Cyfundebau ac Henaduriaethau sy’n gyrru rhoddion achlusurol
  • Cynghorau eglwysi, grwpiau Cytûn a noddwyr Cristnogol a fydd yn gyrru rhoddion at broject arbennig
  • Casgliadau yn dilyn oedfaon neu ddigwyddiadau arbennig.

Tybed a ydych chi wedi ystyried, ac mewn modd i gyfrannu at barhad a datblygiad ein gwaith?

Mae modd cyfrannu mewn mwy nag un ffordd:

Siec
Gellir gyrru siec yn daladwy i Cyngor Ysgolion Sul at
Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH
Archeb Banc
Gellir sefydlu archeb banc rheolaidd neu roi rhodd arbennig drwy roi yn syth ac uniongyrchol i’n cyfri banc. Manylion isod:
Stewardship
Gellir cyfrannu yn uniongyrchol ar y we trwy ddilyn y linc isod, gan wneud rhodd benodol un tro yn unig neu ddechrau rhoi’n fisol. Rydym yn defnyddio gwasanaeth y cwmni Cristnogol Stewardship i gasglu’r rhoddion yma ar ein rhan. Os ydych yn drethdalwr yna mae opsiwn i chi ofyn i Stewardship ychwanegu Rhodd Cymorth (gift aid) ar ben eich rhoddion:

Cyfrannu trwy Stewardship

Cyfrannu at ein Apêl Adnoddau Ar y Wê trwy Stewardship

PayPal
Mae modd hefyd gyrru cyfraniad yn uniongyrchol trwy PayPal yn ddi-ffws (ond ni fydd modd i ni hawlio rhodd cymorth os yn defnyddio’r dull yma o roi):





Ewyllysiau
Cofiwch hefyd bod modd cynnwys Cyngor Ysgolion Sul mewn ewyllys, ac os ydych am wneud hynny, i nodi ‘Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru, elusen gofrestredig 525766’ fel y derbynnydd.
Rhoddion gan gapeli/eglwysi
Rydym hefyd wedi bod yn ffodus ar adegau arbennig i dderbyn rhoddion gan gapeli ac eglwysi mewn cyfnod pan maent yn dwyn yr achos lleol i ben. Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd mae gan yr aelodau lleol yr hawl i wario’r arian rhydd yn y cyfrif banc ac mae cyfrannu at waith Cyngor Ysgolion Sul yn un ffordd o alluogi tystiolaeth Gristnogol Gymraeg i barhau. Gwerthfawrogir bob rhodd gan eglwysi yn y modd hwn.

Gwerthfawrogir pob rhodd, sy’n ein galluogi ni i ymestyn allan yn genhadol i Gymry Cymraeg gan gyflwyno’r newyddion Da am Iesu Grist. Mae ystadegau yn nodi bod 95% o blant ac ieuenctid Cymru heddiw heb fod yn rhan o weithgarwch Cristnogol fel Ysgol Sul a Chlwb plant. Ein her ni yn y blynyddoedd nesaf yw eu cyrraedd nhw, gan ddefnyddio pob dull posib i wneud hynny. Gwerthfawrogir POB rhodd sy’n hwyluso hynny i ddigwydd.