Cefnogaeth i weithwyr plant

Os ydych yn gweithio gyda phlant a ieuenctid yn yr eglwys dyma gyfrolau allai fod o gymorth i chi sy’n sôn am faterion ymarferol ac ysbrydol mewn perthynas a gweithio gyda phlant mewn ysgol sul / clwb plant / ieuenctid.

Newid Bywydau
Mae Cyngor Ysgolion Sul yn falch iawn o’r cyfle i gael cydweithio gyda Choleg St Padarn, Caerdydd, i hyrwyddo a hybu llyfr Cymraeg newydd gan Mark Griffiths yn dwyn y teitl Newid Bywydau. Mae Mark wedi bod yn ffigwr amlwg ym maes gweinidogaeth plant ac ieuenctid ers nifer fawr o flynyddoedd, gan gyhoeddi cyfrolau ar ysbrydolrwydd plant, sut i weinidogaethu ymhlith plant, a sawl cyfrol ymarferol o wersi Beiblaidd i blant. Magwyd Mark yn Ne Cymru, ond treuliodd flynyddoedd lawer yn gweinidogaethu yn Lloegr, ac yn arwain gweinidogaeth New Wine.

Erbyn hyn ef yw hyfforddwr ar waith plant, ieuenctid a theuluoedd i goleg Sant Padarn yng Nghaerdydd, sef adain hyfforddiant yr Eglwys yng Nghymru. Rhai blynyddoedd yn ôl fe gyhoeddodd Mark lyfr i gwmni cyhoeddi Lion Publishing yn dwyn y teitl Changing Lives, touching hearts, sef llyfr yn cynnig canllawiau ymarferol ar sut i weithio yn genhadol ymhlith plant. Yn ystod y misoedd diwethaf aed ati i gyfieithu’r gyfrol i’r Gymraeg.

Mae Newid Bywydau yn trafod y cyfan fyddech am ei wybod am weithio gyda phlant a theuluoedd – sut, pryd, ble a pham?

Treiddia Mark Griffiths i mewn i hanes, diwinyddiaeth ac ymarfer gweinidogaeth gyda phlant a theuluoedd. Mae’n rhannu ei ddoethineb a’i flynyddoedd o brofiad yn arwain cannoedd o grwpiau gwaith plant ac o gynnal gwasanaethau mewn eglwysi. Mae’n lawlyfr sy’n llawn syniadau ac adnoddau ymarferol, gan ddangos sut i gyfathrebu gyda phlant mewn eglwys, ysgol ac yn y gymuned.

Fe’n cynorthwya i ddatblygu gweledigaeth ac i lunio strategaeth ar gyfer gweinidogaethu i blant a theuluoedd tu fewn a thu allan i strwythurau ein heglwysi, gan drafod materion fel cadw cofnodion, ymweld â chartrefi, trefnu amserlen a chynllun gwaith, pwysigrwydd gwarchod a diogelu, templedi creu gwersi bywiog a cadw diddordeb y plant.

Dyma ganllaw allweddol ac ymarferol i bawb sy’n gweithio gyda phlant.

Nid yw y gyfrol hon ar gael yn y siopau, ond mae modd archebu copi trwy yrru siec am £12 yn daladwy i Cyngor Ysgolion Sul at
Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul,
Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH
www.ysgolsul.com

Neu i dalu ar y wê er mwyn archebu copi cliciwch isod:





Dal d'afal
Mae Dal d’afal yn gyfrol ar gyfer hyfforddiant i’r sawl sy’n gweithio gyda phlant yn yr eglwys. Gellir ei redeg fel grwp rhanbarthol efo arweinydd, neu gall person hefyd ei ddilyn gyda’r unigolyn artall mewn awyrgylch mwy anffurfiol. Ceir yma 8 sesiwn o amr a hanner o hyd. Datblygwyd y cynllun gan y grŵp ymgynghorol ar weinidogaeth ymhlith plant. Mae’n ymdrin â phynciau megis datblygiad plant, sgiliau arwain, cynllunio rhaglenni, plant a’r gymuned, ymwybyddiaeth fugeiliol, ysbrydolrwydd a’r Beibl. Addasiad Cymraeg o Core Skills – For Children’s Work.
Detholiad o lyfrau eraill i'ch hannog a'ch ysbrydoli:

Children’s Spirituality – what it is and why it matters:
Rebecca Nye, pub. CHP

Using contemplative practice with children
Sonia Mainstone Cotton, pub. JKP

Children’s Ministry in the way of Jesus
Csinos and Beckwith

I wonder – Engaging a child’s curiosity about the Bible
Elizabeth Caldwell pub. Abingdon

Raising Faith
Katharine Hill & Andy Frost pub. Care for the Family

Faith in Children
Ronni Lamont pub. Lion Hudson

Messy Hospitality
Lucy Moore pub. BRF

Growing Young
Powell, Mulder & Griffin pub. BakerBooks

Preaching with All Ages
Ally Barrett pub. Canterbury Press

The Essential Guide to Family Ministry
Gail Adcock pub. BRF

Rethinking Children’s work in Churches
Edwards, Hancock & Nash pub. JKP