
Mae’r cylchgrawn dwy-ieithog hwn ar gael yn rhad ac am ddim i eglwysi yng Nghymru sydd am fentro i atgoffa’n cenedl mai Sant Cristnogol oedd Dewi, a’i fryd ar dystio i’r newyddion da am Iesu Grist.
Cliciwch YMA i weld sampl o’r cylchgrawn (PDF)
Mae cyflenwad ar gyfer eglwysi’r gogledd ar gael gan Cyngor Ysgolion Sul tra bod cyflenwad ar gyfer eglwysi’r de ar gael o swyddfa Undeb bedyddwyr Cymru yng Nghaerfyrddin. Trwy gysylltu, bydd modd hefyd i’w cludo i ganolfannau eraill ar hyd y de a’r gogledd.
Gogledd: Aled Davies – aled@ysgolsul.com / 01766 819120
De: Simeon Baker neu Christian Williams (Swyddfa Undeb Bedyddwyr Cymru) – 01267 245660
Mae Hope yn ceisio annog eglwysi i bontio â’u cymuned gan ddefnyddio dathliadau gwahanol y flwyddyn. Mae’r cylchgrawn yn cynnwys cyfweliad â’r cyn chwaraewr rygbi Garin Jenkins, erthygl ar y chwaraewr pêl-droed Rabbi Matondo, hanes yr emyn Calon Lân a rysáit Bara Brith. Mae cyfeiriad gwefan ar y daflen hefyd a fydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i bobl sydd eisiau gwybod mwy am y ffydd Gristnogol. Rydym yn credu bod potensial i bontio dathlu Cymreictod â chenhadaeth ar Fawrth 1af.
Cenhadaeth ar Ddydd Gŵyl Dewi
Unwaith eto, mae ‘Hope Together’ yn helpu eglwysi yng Nghymru i genhadu yn ystod dathliadau Gŵyl Ddewi.
Mae cylchgrawn dwyieithog wedi ei gynhyrchu i annog eglwysi i rannu gobaith yr efengyl yn ein cartrefi, pentrefi a threfi.
Sut i wneud y mwyaf o Ddydd Gŵyl Dewi fel cyfle i genhadu?
Dyma rai syniadau y mae croeso i chi eu defnyddio a’u haddasu i’ch cyd-destun unigryw chi. Yn y pendraw, chi fydd yn gwybod a fydd syniad yn gweithio yn eich cymuned. Os oes rhywbeth yn gweithio’n dda, rhowch wybod i ni fel y gallwn rannu arfer da ymysg ein gilydd.
Dosbarthu i’ch stryd leol
Mae dosbarthu taflenni yn rhywbeth a fyddai’n bosib i bron bob
eglwys ei wneud. Gellir gwneud hyn yn eang neu’n gyfyngedig i ardal fach iawn. Gallai aelodau’r eglwys ddosbarthu’r daflen ar eu stryd eu hunain neu efallai y gallech ddewis stâd o dai newydd neu ardal boblog a chynnwys gwahoddiad syml i’r eglwys yn y cylchgrawn er mwyn codi ymwybyddiaeth yn y gymuned. Er mwyn rhannu’r gwaith o ddosbarthu, beth am rannu’r cylchgronau i fwndeli ar gyfer strydoedd penodol a gofyn i aelodau gymryd cyfrifoldeb dros un neu ddwy stryd. Os hoffech osgoi gweld eich gwahoddiad yn y bin ailgylchu, ystyriwch rhoi’r cylchgrawn a’r gwahoddiad mewn amlen gyda neges fer arni neu dim ond wyneb hapus☺.
Rhowch y cylchgrawn ynghyd â rhodd fach
Gydag ychydig mwy o ddewrder, gallech ddosbarthu’r cylchgrawn yn bersonol ynghyd â rhodd fach. Beth am roi daffodil neu ddwy neu hyd yn oed cacen gry’ (Welshcake) mewn napcyn. Mae pobl yn fwy parod i gymryd taflen gyda chyfarchiad cynnes neu rhodd fechan. Mae dymuno ‘Dydd Gŵyl Dewi Hapus oddi wrth yr eglwysi lleol’ yn ffordd wych i ddechrau. Beth am wahodd pobl i ddigwyddiad dros y Pasg fel bod cyfle i gysylltu eto?
Swper Cawl
Bydd pob eglwys yn adnabod rhywun sy’n gallu coginio cawl anhygoel. Wedi ei weini gyda chaws a bara, mae’n bryd syml sy’n berffaith i’w rannu. Beth am gynnal swper cawl a gwahodd cymdogion a ffrindiau? Does dim rhaid iddo fod ar yr un diwrnod a gallech gynnwys un o’r syniadau isod i’w gwneud yn noson hwyliog.
‘Cwis Cymru Gyfan’
Noson gwis ar thema unrhyw beth i’w wneud â Chymru. Cofiwch y byddwn ar ganol pencampwriaeth y chwe gwlad, gallech hyd yn oed rannu’r tîm i gynrychioli’r gwledydd a bod cwestiwn bonws gan un wlad i wlad arall!
‘Noson i Flasu’r Gymraeg’
Mae llawer o bobl yn awyddus i ddysgu ychydig o Gymraeg. Beth am gynnal noson flasu hwyliog gyda help siaradwr Cymraeg? Gallech weini cawl blasus a danteithion fel bara brith a bwydydd eraill sy’n gysylltiedig â’n gwlad.

Darllenwch y stori am y mynach doeth a ddaeth yn nawddsant Cymru. Yn y llyfr cyffrous yma cawn ychydig o hanes ei fagwraeth a rhai o’r traddodiadau sy’n gysylltiedig â dydd ein nawddsant sef Mawrth y 1af.
Er mwyn cymryd mantais o’r pris arbennig yma cysylltwch gyda’r Cyngor Ysgolion Sul: aled@ysgolsul.com / 01766 819120