Mae gennym nifer o ffilmiau a chaneuon i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim ar gyfer cyflwyno straeon Beiblaidd. Cliciwch ar y botymau isod:
Mae miloedd o ffilmiau ar gael i’w gwylio ar ein sianel deledu TCC:
Corrie Ten Boom: Cyfres ‘Torchlighters’
Pan ymosodd byddin Hitler ar yr Iseldiroedd yn 1940 penderfynodd y teulu TenBoom guddio Iddewon yn eu cartref. Achubwyd tua 800 o Iddewon. Bu farw Betsie Ten Boom yng Nghwersyll Ravensbruck, tra bod Corrie wedi goroesi a threulio ei bywyd yn teithio’r byd yn dweud eu hanes. Stori o ffydd, gobaith a chariad mewn cyfnod tywyll iawn.
Cliciwch YMA i lawrlwytho’r ffilm
Neu mae modd gwylio isod:
Dyma ffilm heriol i’w dangos i gynulleidfaoedd eglwysig i annog pobl i ystyried lle a rôl plant o fewn teulu’r eglwys. Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffilm.
Dyma ffilm 15 munud sy’n rhannu holl stori’r Beibl fel un stori gyflawn. Addas i’w dangos mewn oedfa deulu, clwb plant, ysgol neu ysgol sul neu adref gyda’r plant.
Casgliad o Ganeuon Ysbrydol Cymraeg sydd ar YouTube:
Dyma gyflwyniad 5 munud sy’n sôn sut mae mynd ati i gychwyn Ysgol Sul o’r newydd a’r hyn sydd gan Cyngor Ysgolion Sul i’w gynnig.
Dyma gyflwyniad byr ar gynllun gwerslyfrau Stori Duw sy’n mynd drwy’r Beibl mewn cyfnod o 40 gwers.