Cenhadaeth Y Pasg

Adnoddau Cenhadol Y Pasg - Haleliwia! Cododd Crist yn fyw
Ar gyfer y Pasg mae Cyngor Ysgolion Sul wedi paratoi cyfres o adnoddau a fydd yn galluogi Eglwysi i gyflwyno neges a llawenydd y Pasg o fewn ein cymunedau mewn ffordd drawiadol ac effeithiol.

Yn ganolbwynt i’r cyfan mae cylchgrawn lliwgar 16 tudalen sy’n cynnwys darlleniadau Beiblaidd, erthygl yn sôn am ‘Pam cofio marwolaeth Iesu?’ gan Arfon Jones, posau, croesair, rysáit Cacen Feiblaidd, gweddïau, tudalen i’r plant a nifer o erthyglau diddorol. Mae modd prynu copïau o’r cylchgrawn am 99c yr un, neu becynnau o 100 gopi am £50 (50c yr un).

Yn ogystal hefyd mae baner liwgar ar gyfer ei harddangos tu allan i’ch capel (2 fedr wrth 0.5 medr) ar gael am £25 yr un. Neu faner tu mewn (roller banner) am £50 yr un. Mae cerdyn Pasg hefyd ar gael yn yr un cynllun os am eu defnyddio i’w hanfon ar ran yr eglwys.

Ffurflen archebu adnoddau Pasg – Haleliwia! Cododd Crist yn fyw

Isod mae sampl o gynnwys y cylchgrawn (gall gymryd peth amser i lwytho’n iawn):

Caneuon Pasg Andy Hughes
Casgliad o ganeuon gwreiddiol Cymraeg yn edrych ar stori’r Pasg ar ffurf ffilmiau neu traciau sain gyda rhai caneuon yn cynnwys copiau Hen Nodiant.
Caneuon Pasg Andy Hughes
Bu farw Iesu drosof fi? (Adnodd Scripture Union)
Mae Bu Farw Iesu Drosof Fi? yn gerdd sy’n adrodd pam y bu farw Iesu, sut y cododd o farw a sut y gwnaeth y cyfan drosom. Mae’n cynnwys darluniau llinell trawiadol i blant eu lliwio wrth fyfyrio ar y geiriau.

Ar gael mewn pecynnau o ddeg, mae’r llyfrau bach hardd hyn yn ddelfrydol ar gyfer rhannu’r newyddion da am Iesu gyda phlant yn eich cymuned, yn eich ysgol leol a’r rhai sy’n mynychu eich digwyddiadau Pasg.

Bu Farw Iesu Drosof Fi (PowerPoint)

Bu Farw Iesu Drosof Fi – Pecyn Adnoddau (PDF)

Ffilm Gymraeg Bu Iesu farw drosof fi

https://content.scriptureunion.org.uk/resource/bu-farw-iesu-drosof-fi

Llyfr Lliwio y Pasg Cyntaf
Llyfr Lliwio y Pasg Cyntaf
Bethan James
Mae llyfr lliwio newydd ar gael sy’n cyflwyno stori’r Pasg ynghyd a 12 llun i’w lliwio. Anrheg delfrydol i blant 5-11 oed. Pris arferol £1.99 ond telerau arbennig ar gael drwy gysylltu â Chyngor Ysgolion Sul.
Comics Beiblaidd ar gyfer y Pasg
Mae nifer o gomics Beiblaidd ar gyfer y Pasg ar gael i’w cyflwyno i blant. Maent yn ddelfrydol i’w cyflwyno i blant oed cynradd ac ar gael am y pris arbennig o 60c yr un mewn pecynnau o 10, neu 99c yr un. Gellir hefyd archebu pecynau mawr o 50 am £25 neu 100 am £40. Gellir trefnu eu cludo i ganolfannau arbennig neu os bydd angen eu postio bydd rhaid codi cludiant ychwanegol.

Cliciwch YMA am ffurflen archebu adnoddau Pasg.

Dyma samplau o’r comics:

Mae Seren Jerwsalem yn addas ar gyfer oed 5 i 8 oed. Mae’r comic hwn yn cynnwys stori’r Pasg ar ffurf comic a thudalennau sy’n cynnwys crefftau nadolig ac amrywiol bosau a gweithgareddau ynghyd â stori’r Pasg.

Hefyd ar gael mae Arwyr Ancora: Comic Beiblaidd y Pasg sy’n addas ar gyfer 7 i 11 oed. Mae’r Comic hwn hefyd yn cyflwyno plant i app Beiblaidd Arwyr Ancora sydd ar gael yn Gymraeg.

Dyma sampl o’r comic:

Comic Y Pasg

Mae Comic Y Pasg yn addas ar gyfer oed 5 i 8 oed. Mae’r comic hwn yn cynnwys stori’r Pasg ar ffurf comic a thudalennau sy’n cynnwys crefftau nadolig ac amrywiol bosau a gweithgareddau ynghyd â stori’r Pasg.


'Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw'
Mae ‘Mi wn fod fy Mhrynwr yn Fyw’ yn llyfryn lliwgar yn cynnwys darlleniadau a myfyrdodau yn pwysleisio pwysigrwydd y Pasg ar gyfer oedolion.

Cliciwch yma i weld taflen sy’n cynnwys gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael ynghyd â ffurflenni archebu.