
Ar gyfer y Nadolig mae Cyngor Ysgolion Sul wedi paratoi cyfres newydd o adnoddau a fydd yn galluogi Eglwysi i gyflwyno neges a llawenydd y Nadolig o fewn ein cymunedau mewn ffordd drawiadol ac effeithiol.
Yn ganolbwynt i’r cyfan mae cylchgrawn lliwgar 16 tudalen sy’n cynnwys darlleniadau Beiblaidd, erthygl yn sôn am ‘Beth yw’r Nadolig?’ gan Arfon Jones, posau, croesair, rysáit Cacen Nadolig, cerddi, gweddïau, tudalen i’r plant a nifer o erthyglau diddorol. Mae modd prynu copïau o’r cylchgrawn am 99c yr un, neu becynnau o 100 gopi am £50 (50c yr un). Mae modd hefyd archebu copïau gyda thudalen gefn a all gynnwys manylion lleol eich eglwys/amseroedd oedfaon Nadolig ayyb… Os am archebu rhai penodol i’ch eglwys/ardal rhaid archebu isafswm o 250 copi am £250, neu 500 copi am £350 neu 1,000 copi am £500. Ni ellir argraffu niferoedd gwahanol i’r rhain.
Yn ogystal hefyd mae baner liwgar ar gyfer ei harddangos tu allan i’ch capel (2 fedr wrth 0.5 medr) ar gael am £25 yr un.
Gweld ac archebu holl adnoddau ‘Clywch lu’r nef!’Yn ganolbwynt i’r cyfan mae cylchgrawn lliwgar 16 tudalen sy’n cynnwys darlleniadau Beiblaidd, erthygl yn sôn am ‘Beth yw’r Nadolig?’ gan Arfon Jones, posau, croesair, rysáit Cacen Nadolig, cerddi, gweddïau, tudalen i’r plant a nifer o erthyglau diddorol.
Gweld ac archebu holl adnoddau ‘O! Llawenhawn’
Mae’r gyfres yn cynnwys y ffilmiau canlynol:
- ‘Pam Dathlu’r Nadolig?’ – Ffilm fer 6 munud gan Arfon Jones
- Darlleniad o Mathew 1:18-25 (Geni Iesu y Meseia) ar ffilm
- Darlleniad o Luc 2:18-25 (Y Bugeiliaid a’r Angylion) ar ffilm
- ‘Yn y Dechreuad…’ – Myfyrdod 3 munud ar ffilm
- ‘Gweddi’r Nadolig’ – Gweddi addas 3 munud yn cael ei chyflwyno ar ffilm
Cliciwch YMA am ffurflen archebu adnoddau Nadolig.
Dyma samplau o’r comics:
Comic Beiblaidd Plant 2020 (sef addasiad ac ail-argraffiad o Comic Beiblaidd Plant blaenorol)
Mae Seren Bethlehem yn addas ar gyfer oed 5 i 8 oed. Mae’r comic hwn yn cynnwys stori’r Nadolig ar ffurf comic a thudalennau sy’n cynnwys crefftau nadolig ac amrywiol bosau a gweithgareddau ynghyd â stori’r Nadolig.
Hefyd mae Arwyr Ancora: Comic Beiblaidd y Nadolig sy’n addas ar gyfer 7 i 11 oed. Mae’r Comic hwn hefyd yn cyflwyno plant i app Beiblaidd Arwyr Ancora sydd ar gael yn Gymraeg.
Dyma sampl o’r comic:
Hefyd ar gael mae Comic Stori’r Nadolig sy’n addas ar gyfer oed 5 i 8 oed. Mae’r comic hwn yn cynnwys stori’r Nadolig ar ffurf comic a thudalennau sy’n cynnwys crefftau nadolig ac amrywiol bosau a gweithgareddau ynghyd â stori’r Nadolig.
Dyma sampl o’r comic:
Hefyd mae comic â gynhyrchwyd ar y cyd gyda Scripture Union Cymru ar gael sef Comic Beiblaidd Nadolig. Mae hwn yn gomic lliwgar 16 tudalen sy’n cynnwys stori’r Nadolig ar ffurf comic a thudalennau sy’n cynnwys cwis nadolig, ffeithiau am y Nadolig ac amrywiol bosau.
Dyma sampl o’r comic:
Dyma sampl o’r llyfryn:
ADNODDAU PLANT I’W CYFLWYNO ADEG Y NADOLIG
Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth.
CARDIAU NADOLIG
Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth a ffurflen archebu.
Wele, cawsom y Meseia
Hefyd ar gyfer oedolion mae llyfrynau lliwgar: ‘Wele cawsom y Meseia’ sy’n lyfryn 20 tudalen lliw llawn sy’n cynnwys darlleniadau, gweddiau a myfyrdodau Nadoligaidd. Maent ar gael am 50c yr un neu pecyn o 100 am £30. Cliciwch YMA am ffurflen archebu.
Dyma sampl o ‘Wele, cawsom y Meseia’: