Pigion o lyfrau Cristnogol newydd i blant ac arweinwyr ar gyfer 2019
Pigion o lyfrau Cristnogol newydd i oedolion ar gyfer 2019
Mae Cyhoeddiadau’r Gair newydd ddatgelu ei raglen gyhoeddi ar gyfer y flwyddyn, ac yma cawn gip ar rai o’r teitlau hynny, ar gyfer oedolion yn benodol, sydd ar y ffordd ganddynt yn ystod y misoedd nesaf.
Yr Alwad Cyfrannwyr amrywiol, wedi ei olygu gan Aled Davies a Beti-Wyn James
Cyfrol o fywgraffiadau 18 o weinidogion Cymru, yn olrhain hanes eu galwad i’r weinidogaeth a sut mae hynny wedi ei wireddu dros amser. Pris: £8.99.
Geiriau Ffydd 3 gan John Treharne
Mae hon yn gyfrol wreiddiol, sy’n cwblhau cyfres o drioleg o lyfrau. Yn y gyfrol gyntaf cafwyd 100 o fyfyrdodau ar rai o eiriau mwyaf allweddol a phwysig o eiddo Iesu, tra bod yr ail gyfrol wedi canolbwyntio ar 100 o fyfyrdodau yn seiliedig ar rai o adnodau nodedig o gyfnod yr Eglwys Fore. Yn y gyfrol newydd hon, yr hyn a geir eto yw 100 o fyfyrdodau, y tro yma yn canolbwyntio ar 100 adnod nodedig o’r Hen Destament, gan ymweld â phob un o’r 39 llyfr yn yr Hen Destament yn eu tro. Hon fydd y gyfrol a fydd yn cael ei ddefnyddio fel maes llafur i ddosbarth yr Ysgol Sul ar gyfer yr oedolion o fis Medi eleni ymlaen. Bydd ar gael yn ystod mis Mai, a’i phris yn £9.99
Myfyrdodau Ffydd ar Waith gan Denzil I John
Mae hon yn gyfrol wreiddiol arall gan Denzil John, ac yn dilyn fformat ei lyfr blaenorol, Gair Disglair Duw. Yma ceir 52 myfyrdod, pob un ohonynt yn cynnig arweiniad ar sut i roi ein ffydd ar waith. Ychydig flynyddoedd yn ôl trefnwyd ymgyrch gan yr enwadau yng Nghymru yn dwyn y teitl ‘Beibl Byw’, ac yna dilynwyd hyn gan ymgyrch ‘Byw’r Beibl’. Her i bob un ohonom yw ceisio newid y drefn a chwilio am ffyrdd o addasu gweithgarwch yr eglwysi fel bod addoliad, gwasanaethu cymdeithas a chenhadaeth yr eglwys leol yn edrych allan i’r byd. Dyma oedd y symbyliad i’r awdur wrth fynd ati i baratoi y gyfrol hon, sef i i hyrwyddo’r meddylfryd o ‘Fyw’r Beibl’. Trefnir y gyfrol yn fras i dymhorau’r flwyddyn, gan gynnwys cyfeiriadau at ddigwyddiadau cenhadol eglwysi yng Nghymru a thu hwnt. Gobeithir bydd y syniadau o fewn y myfyrdodau hyn yn sbarduno eraill i ystyried sut y gallant droi ei ffydd yn weithredoedd ymarferol a gweithredol er mwyn adeiladu Teyrnas Dduw yn ein plith. Bydd y gyfrol allan erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ar gael am £9.99
Pererin Wyf, sef cyfrol o wasanaethau yn ein herio i ddilyn Iesu heddiw gan Huw John Hughes.
Cyfrol yw hon sy’n cynnwys 52 o wasanaethau, un ar gyfer pob wythnos o’r flwyddyn, a’r rhain yn wasanaethau gwahanol i’r cyffredin a hynny am sawl rheswm. Maent wedi eu paratoi ar gyfer cynulleidfaoedd o niferoedd bychain lle mae cyfle i bob un gymryd rhan. Ymhob gwasanaeth mae cyfle i weddïo, canu, darllen, gwrando a thrafod (yn hytrach na phregeth neu anerchiad). Mae rhan gyntaf y gyfrol yn ymdrin â bywyd Iesu o’i enedigaeth i’r groes a’r atgyfodiad a’r ail ran yn ymwneud â’i ddysgeidiaeth gan fanylu ar gynnwys y Bregeth ar y Mynydd. Amcan y gyfrol yw cyflwyno Iesu’r chwyldroadwr sy’n dal i herio ein cyfnod ni. Dyma gyfle i aelodau gynnal gwasanaethau ymhlith ei gilydd a hynny trwy ddod at ei gilydd mewn cylch neu o gwmpas bwrdd fel bod pob un yn wynebu ei gilydd. Gellir dewis arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain y gwasanaethau a rhoi cyfle i bawb sy’n dymuno i gymryd rhan – darllen, gweddïo a chanu’r emynau. Bydd y trafodaethau sy’n dilyn hefyd yn rhoi cyfle i bob unigolyn gael cyfle i ddweud ei ddweud, i ofyn cwestiwn, i fyfyrio ond yn bennaf i olrhain beth ydi neges a her Iesu ar ein cyfer heddiw. Bydd y gyfrol yn y siopau fis Mai, ac ar gael am £9.99.
O Eden i Baradwys, sef cyfrol wreiddiol wedi ei baratoi gan D Hugh Matthews.
Taith drwy’r Beibl a geir yma, o lyfr Genesis i lyfr Datguddiad, gydag ambell gilfach lle teimlwyd y byddai’n dda i aros, a cheisio rhoi blas o’r hyn sydd ar gael yn y llyfr. Fel gyda phob llyfr taith, ceisir dweud gair am y lle ble’r arhoswn, a thynnu sylw at rywbeth o ddiddordeb ymhob llyfr o’r Hen Destament a’r Newydd, gan gynnwys y llyfrau a anwybyddir gennym yn aml. Ceisiwyd dewis stori sy’n anghyfarwydd, ac os digwydd ein bod yn cofio’r stori ei hun, ceisir tynnu sylw at rywbeth hynod ynddi. Nid oes cyfle i aros yn hir ym mhobman, ond ceisiwyd ymweld â phob un o’r 66 o lyfrau a geir yn y Beibl. Bydd y gyfrol ar gael yn ystod mis Mai, ai bris yn £9.99.
Sut mae bod yn Weinidog Eglwys
Cyfol yn seiliedig ar waith prifathro coleg diwinyddol gyda’r Bedyddwyr, sef y Parch Nigel Wright yw hon, ac wedi ei addasu i’r Gymraeg gan weinidog profiadol arall, sef y Parch Olaf Davies.
Yn y gyfrol hon ceisia’r awdur daflu goleuni neilltuol ar yr hyn sy’n gynwysedig ar ddod yn weinidog ac yna ar gyflawni’r alwedigaeth mewn ffordd gyfrifol a chyson. Y mae’n tynnu ar ddealltwriaeth eang o ddechreuadau gweinidogaeth a’r modd mae’r eglwysi wedi ystyried eu gwaith, ac wrth gwrs ar brofiad helaeth o weithio fel gweinidog a hyfforddi eraill ar gyfer y gwaith.
Wrth baratoi y gyfrol rodd gan yr awdur gwmni o bobl mewn golwg a fyddai yn cael y llyfr hwn o gymorth iddynt. Yn gyntaf, y mae’r sawl sy’n profi ac yn ystyried galwad i’r weinidogaeth. Ychydig amser yn ôl byddai’r cwmni hwn yn cynnwys yr ifanc a’r gwrywaidd ond erbyn hyn y mae’r rhai sy’n ystyried y weinidogaeth llawn mor debygol o fod yn fenywaidd ac yn aml nid yn ifanc ond ymgeiswyr o’r genhedlaeth hŷn. Gobeithir hefyd y bydd y rhai a fu’n ymwneud â gwaith y weinidogaeth eisoes yn gweld gwerth yn y llyfr hwn. Mae i gyfnod canol gweinidogaeth fel i ganol oed ei heriau arbennig. Mae hon hefyd yn addas i’r rhai sydd bellach wedi ymddeol o’r weinidogaeth ond yn parhau i ystyried ei hun yn weinidog er yn cydnabod ei fod bellach yn eistedd yn y sedd gefn, ond yn dal i gyfrannu mewn ffordd ychydig yn wahanol. Bydd y gyfrol ar gael yn ystod mis mai, pris £8.99
Meddai Olaf Davies wedi iddo ddarllen y gyfrol wreiddiol: … awn mor bell a dweud y dylai hwn fod yn ddarllen hanfodol i’r gweinidog newydd ei ordeinio ac i rywrai fel fi sydd newydd ymddeol. Dylai hon fod ar restr ‘darllen hanfodol’ unrhyw goleg diwinyddol yng Nghymru.
Y Tir Ysgythrol gan Desmond Davies
Gwasanaethodd Desmond Davies fel gweinidog ffyddlon gyda’r Bedyddwyr trwy gydol ei oes, ac fe’i ystyrir yn bregethwr, hanesydd ac ysgolhaig. Yn y gyfrol hon aeth ati i grynhoi nifer o’i bregethau, gan eu troi i fod yn wasanaethau cyflawn, sy’n cynnwys darlleniadau a gweddïau. Mae yma hefyd gasgliad o emynau gwreiddiol ganddo, gan gynnwys rhai ar gyfer y Nadolig a’r Pasg. Bydd y gyfrol ar gael o fis Mai ymlaen, pris £8.99
Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones gan Rhys Llwyd
Astudiaeth o genedlaetholdeb Gristnogol y diweddar Athro Dr R. Tudur Jones (1921-1998), gan Rhys Llwyd. Mewn oes pan fo syniadau am hunaniaeth, cenedlaetholdeb a ffydd yn cynhyrchu gwleidyddiaeth adweithiol, bwriad y gyfrol hon yw cynorthwyo Cristnogion heddiw i graffu ar eu syniadau gwleidyddol o safbwynt diwinyddiaeth Gristnogol. Pris £9.99.
MAES LLAFUR YR YSGOL SUL I OEDOLION
O fis Medi 2018 ymlaen byddwn yn dilyn cyfrol Dehongli Bywyd a Gwaith Timotheus gan Elfed ap Nefydd Roberts. Ar gael yn eich siop Gymraeg leol neu i’w archebu ar-lein trwy gwales drwy glicio yma. Mae modd prynnu copi ar ffurf PDF i’w lawrlwytho’n syth o’n siop ddigidol hefyd drwy glicio yma.
LLYFR CANU CRISTNOGOL NEWYDD I BLANT: CANU CLOD!
Erbyn hyn mae’r gyfrol Canu Clod! 1 a 2 allan yn y siopau! Mae’r cyfrolau hyn yn cynnwys dros 440 o ganeuon Cristnogol sy’n addas i blant ac ieuenctid. Cofiwch bod y llyfrau ar gael trwy unrhyw siop Gymraeg neu Gristnogol. Am fwy o fanylion neu i archebu cliciwch YMA.
Hefyd ar gael erbyn hyn mae casgliad cyflawn o PowerPoint’s Canu Clod ar gael i’w prynu’n ddigidol.
Hefyd i ymddangos yn ystod 2018 mae cyfres o draciau cefndir Canu Clod ar gyfer cyfeiliant!