Gwaith Cyhoeddiadau’r Gair

Cyhoeddiadau’r Gair

Mae Cyhoeddiadau’r Gair yn gwmni cyhoeddi o dan adain Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru; elusen sy’n cynrychioli’r prif enwadau Cymraeg yng Nghymru. Sefydlwyd y Cyngor ym 1966 i hyrwyddo gwaith yr ysgolion Sul drwy gyfrwng y Gymraeg, a sefydlwyd Cyhoeddiadau’r Gair ym 1992, gyda’r bwriad o gyhoeddi a hyrwyddo llyfrau Cristnogol Cymraeg. Erbyn hyn mae wedi cyhoeddi dros 700 o deitlau Cymraeg a dros miliwn o lyfrau mewn print. Mae yna raglen lawn o gyhoeddi cyson gan y wasg, gyda dros 40 o deitlau yn cael eu cyhoeddi yn flynyddol. Mae’r gwaith yn cael ei gyfarwyddo gan Banel Cyhoeddi sy’n cyfarfod yn rheolaidd, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r holl enwadau sy’n rhan o’r Cyngor, ac yn cael ei reoli o ddydd i ddydd gan Aled Davies, Cyfarwydwr y Wasg. Mae cydweithio agos iawn gyda Cyngor Llyfrau Cymru, a hwy sy’n gyfrifol am ein marchnata a dosbarthu. Rydym hefyd yn derbyn grantiau ganddynt ar gyfer awduron, golygyddion, cysodi a chynhyrchu.

Ymhlith yr arlwy rydym yn anelu i gyhoeddi llyfrau lliw i blant a ieuenctid, llyfrau lliwio a posau, Beiblau lliw ar gyfer pob oed, llyfrau gweddi a gwasanaethau, deunydd ar gyfer clybiau plant a ieuenctid, ynghyd â llawlyfrau hyfforddiant i athrawon Ysgol Sul. Y prif flaenoriaeth fodd bynnag yw gofalu bod gwerslyfrau addas i blant, ieuenctid ac oedolion Cymru, ac mae yna Banel Gwerslyfrau yn cyfarwyddo’r gwaith hwnnw hefyd.

Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau mae dewis eang o gardiau Nadolig, cardiau cyfarch Cristnogol a chardiau bugeiliol arbennigol ar gael.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi taflenni a phosteri lliw ar gyfer yr eglwys a’r Ysgol Sul ac anrhegion i blant – mygiau, beiros, waledi, pensiliau a llawer mwy.

O dan gadeiryddiaeth Mr. Rheinallt Thomas mae gan y Wasg banel cyhoeddi sy’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod ein rhaglen gyhoeddi flynyddol.

Mae ein holl deitlau ar gael i’w prynu trwy unrhyw siop leol Gymraeg neu Gristnogol, a gellir eu harchebu ar y we trwy www.gwales.com.

Mae llawer o’r teitlau hefyd ar gael o wefanau nwyddau fel Amazon.

Os yw ysgol, ysgol Sul neu eglwys am brynu cyflenwad sylweddol o deitl ar gyfer eu cyflwyno i blant ayyb, yna cysylltwch yn uniongyrchol gyda ni ar aled@ysgolsul.com gan ein bod yn medru cynnig telerau ffafriol iawn pan maent yn cael eu rhoi mewn ffordd genhadol.

Mae ein holl deitlau hefyd ar gael i’w cyflenwi i siopau.

Dylid cyfeirio pob ymholiad yn ymwneud â chyflenwi siopau i sylw ein cyfanwerthwyr, sef Cyngor Llyfrau Cymru
Uned 16 Parc Menter Glanyrafon | Aberystwyth | Ceredigion | SY23 3AQ
Ffôn 01970 624455
www.llyfrau.cymru