Sefydlwyd Cyngor Ysgolion Sul yn 1966, a hynny gan 5 enwad Cristnogol Cymraeg sef:
- Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
- Undeb Bedyddwyr Cymru
- Eglwys Bresbyteraidd Cymru
- Yr Eglwys Fethodistaidd
- Yr Eglwys yng Nghymru
Fe’i sefydlwyd er mwyn hyrwyddo gwaith ysgolion Sul ac addysg Gristnogol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Datblygwyd y weledigaeth ymhellach yn 1992 trwy sefydlu Cyhoeddiadau’r Gair, sef cwmni cyhoeddi Cristnogol cydenwadol.
Ar hyn o bryd mae gan Cyngor Ysgolion Sul 3 panel yn weithredol, sef:
- Panel datblygu adnoddau gweinidogaeth
- Panel datblygu adnoddau cenhadaeth
- Panel hybu, hyfforddi a hyrwyddo
Y mae’r Cyngor yn amcanu i gyflawni:
Cefnogi gwaith yr eglwys leol trwy gyhoeddi ystod eang o adnoddau pwrpasol ar gyfer yr Ysgol Sul a’r eglwys, yr ysgol a’r cartref, gan gynnwys cyhoeddi gwerslyfrau i blant ac ieuenctid fel rhan o gynllun dysgu pwrpasol. Trefnir nifer o ddigwyddiadau arddangos ledled Cymru i hybu’r adnoddau hyn, gan gynnwys cynnal stondin adnoddau mewn cydweithrediad gyda Cytûn yn y prif wyliau cenedlaethol Cymreig sef yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd, a’r Sioe Frenhinol. Trefnir yn ogystal diwrnodau gwobrwyo Medalau Gee i ffyddloniaid yr Ysgol Sul yn flynyddol yn y de a’r gogledd.
Mae gan Cyngor Ysgolion Sul 5 gwefan mae’n gyfrifol amdanynt, dyma ffilm fer sydd yn eu cyflwyno:
www.ysgolsul.com
Gwefan swyddogol y Cyngor, sy’n cynnwys gwybodaeth a newyddion am ein gwaith yn ogystal â siop ar lein a siop ddigidol i brynu llyfrau ac adnoddau digidol i’w lawr lwytho.
www.cristnogaeth.cymru
Gwefan gyffredinol sy’n ffynhonnell gwybodaeth am bopeth ac unrhyw beth yn ymwneud â Christnogaeth yng Nghymru.
www.gair.cymru
Gwefan sy’n cynnwys deunydd Cristnogol Cymraeg i’w lawr lwytho yn rhad ac am ddim, gan gynnwys gwersi ysgol Sul, gwasanaethau ar gyfer cynnal oedfaon, gweddïau a myfyrdodau, ffilmiau, cyflwyniadau PowerPoint, deunydd defosiwn dyddiol, gwasanaethau ar gyfer ysgolion a sgyrsiau plant.
www.beibl.net
Gwefan sy’n cynnwys testun y Beibl cyfoes beibl.net ynghyd â llawer o adnoddau cysylltiol eraill.
www.gobaith.cymru
Gwefan sy’n cynnwys dros fil o emynau a chaneuon Cristnogol cyfoes ar ffurf geiriau yn unig ac fel ffeiliau Powerpoint y mae modd eu lawr lwytho yn rhad ac am ddim.
Ymhlith cyfrifoldebau y gweithwyr a’r paneli rydym yn amcanu i gyflawni’r canlynol:
- Cyhoeddi ystod eang o adnoddau Cristnogol ar gyfer y cartref, ysgol ac Ysgol Sul a’r eglwys
- Cyhoeddi gwerslyfrau i blant a ieuenctid fel rhan o gynllun dysgu pwrpasol
- Cynnal nosweithiau adnoddau ledled Cymru ar gychwyn tymor newydd yr YS i hybu adnoddau newydd
- Paratoi deunyddiau addoliad Cymraeg ar gyfer eglwysi Cymru
- Cyd-lynu gwefan gwersi ysgol Sul am ddim: AmserBeibl
- Cynnal canolfan adnoddau Cristnogol yn y Gymraeg – gan gynnwys cynhyrchu catalog, cynnal gwefan, a chynnig gwasanaeth drwy’r post
- Cynnal arddangosfeydd adnoddau llyfrau Saesneg ym maes gwaith plant ledled Cymru
- Rhwydweithio a ‘bod yn lais o Gymru’ yn y fforwm Prydeinig (CGMC) ac Ewropeaidd (ECCE) ym maes gwaith plant
- Cynnal stondin adnoddau yn y prif wyliau cenedlaethol Cymreig gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd, a’r Sioe Frenhinol
- Paratoi maes llafur/esboniad Ysgol Sul blynyddol ar gyfer yr oedolion, gan ofalu bod nodiadau wythnosol yn y papurau enwadol
- Trefnu Sul Addysg blynyddol i roi sylw ac annog bobl i weddïo dros addysg Gristnogol
- Cyhoeddi cynlluniau hyfforddiant i athrawon ysgol Sul
- Cydweithio gyda’r enwadau i ofalu bod yr eglwysi a’r Ysgolion Sul yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch plant