Her Darllen Efengyl 100
eich taith trwy’r Beibl mewn 100 diwrnod
Cynllun newydd yw ‘Her Darllen Efengyl E100’, gyda’r her o ddarllen 100 darn o’r Beibl dros gyfnod o 100 diwrnod. Dewiswyd y 100 darn yn ofalus, sy’n cynnwys 50 darn o’r Hen Destament a 50 darn o’r Testament Newydd, gyda’r gobaith o helpu’r darllenydd i ddeall stori ac ystyr cynnwys y Beibl.
Gall unigolyn ei ddilyn ar ei ben ei hun, drwy addunedu i ddarllen y 100 darn fesul diwrnod, ac yna i ddarllen y nodiadau cefndirol sy’n rhan o lyfr Efengyl 100. Bydd gwneud hyn yn ffordd effeithiol iawn o weld prif themau a negeseuon yr efengyl, ac yn fodd o ddeall y Stori Fawr a geir yn y Beibl.
Mae hwn hefyd yn gynllun i’r eglwys gyfan – ac i gyd-fynd gyda’r 100 darn, sydd wedi ei dorri i fyny i 20 thema a chyfnod yn y Beibl, mae na hefyd, ar wefan www.ysgolsul.com, cyfres o 20 pregeth ac 20 astudiaeth Feiblaidd i gyd-fynd â’r deunydd hwn. Felly yr her yw i unigolion ddarllen gwerth 5 diwrnod yn ystod yr wythnos, ac yna ar y Sul gwrando ar bregeth ar y darlleniadau hynny, neu i gyfrannu mewn astudiaeth Feiblaidd canol wythnos, i’r eglwysi hynny sy’n cyfarfod i drafod y Gair. Gellid hefyd ei ddefnyddio fel opsiwn ar gyfer dosbarthiadau ieuenctid neu oedolion yn yr Ysgol Sul.
Pris Efengyl 100 yw £8.99 y copi neu gellir prynu pecyn o 10 llyfr i’r eglwys am £50
Mae’r nodiadau pregeth ac astudiaethau Beiblaidd ar y wefan yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho (ar gael yn fuan).
CYFLWYNO EFENGYL 100
‘Rwyf wedi ceisio darllen y Beibl ar ei hyd, ond heb gyrraedd y pen draw’.
‘Rwyf wedi darllen rhannau o’r Beibl, ond yn methu gweld sut y maent yn dod ynghyd’.
‘Dydw i erioed wedi darllen y Beibl – ond mae gen i ddiddordeb i wybod beth sydd o’i fewn’.
‘Rwy’n caru’r Beibl. Rwyf am help i weld sut mae’n berthnasol i fywyd heddiw’.
Y Beibl yw llyfr pwysicaf y byd. Mae wedi gwerthu mwy o gopïau nag unrhyw gyhoeddiad a fu erioed. Mae’n gyfeirlyfr i Iddewiaeth a Christnogaeth, ac wedi effeithio ar ddiwylliant, cyfraith, celf a moesoldeb bron pob cymdeithas sy’n bod.
Mae’r Beibl yn fwy na llyfr dylanwadol, mae’n gofnod hanesyddol o’r stori bwysicaf a fu erioed: sef Duw yn ymwneud gyda’r ddynoliaeth. Er bod y Beibl yn cynnwys pob math o lenyddiaeth, ac yn cyflwyno ystod eang o gymeriadau, maent oll yn ymblethu i ddweud un stori, sef mai Duw a greodd y byd, ac mai Duw a ddarparodd y cynllun i achub y byd – cynllun a ddaeth i’w benllanw yn Iesu Grist. Dyna’r ‘stori fawr’ sy’n gwneud synnwyr o’r Beibl a’r cyfan o fywyd.
Mae Efengyl 100 yn fodd i chi ddarganfod y ‘stori fawr’ drosoch eich hunan. Mae’n eich tywys ar y daith drwy 100 o adrannau hawdd i’w darllen, wedi eu trefnu o fewn ugain o benodau, fel y gallwch weld y darnau yn disgyn i’w lle. Ar y daith, rhydd gyfleoedd i chi nodi eich syniadau ac i ddod at eich casgliadau ar sut mae’r cyfan yn berthnasol i chi heddiw.