Roots

Yn ogystal â chyhoeddi adnoddau Cymraeg mae Cyngor Ysgolion Sul yn rhan o gonsortiwm sy’n cyhoeddi deunydd dysgu ac addoli ar gyfer yr Eglwys gyfan sef deunydd Roots. Cyhoeddir dau gylchgrawn yn ddeufisol sef un ar gyfer athrawon Ysgol Sul ac un ar gyfer arweinwyr addoliad. Yn ogystal, mae gwefan sy’n cynnwys miloedd o weddïau a myfyrdodau yn cael ei ddiweddaru’n wythnosol. Am fwy o wybodaeth neu i danysgrifio cliciwch yma.

ROOTS yn Gymraeg
Mae gweddiau wythnosol a taflen waith i blant bellach ar gael yn Gymraeg, ac yno yn rhad ac am ddim i bawb sy’n tanysgrifio i’r cylchgrawn.

Mae tanysgrifwyr i’r cylchgrawn ROOTS yn medru lawrlwytho deunydd wythnosol yn Gymraeg. Isod ceir sampl o un wythnos o weddïau a thaflen waith.
Am sampl o weddïau oedolion cliciwch YMA (PDF)
Am sampl o weddïau plant cliciwch YMA (PDF)
Am sampl o daflen waith a lliwio i blant cliciwch YMA (PDF)

What is ROOTS?

ROOTS publishes two lectionary-based, bi-monthly magazines: Adult & All Age and Children & Young People plus a supporting website. A current (2017) annual subscription to Roots costs £49.50 for Adult & All Age and £49.50 for Children and Young People. A joint subscription to both magazines is also available for £89.50. Subscribers also get access to the ROOTS website at no additional cost.

ROOTS has published worship and learning materials since 2002 and offers an unique and comprehensive ecumenical resource package.

Flexible resources for every week
ROOTS provides materials for every Sunday of the year based on the Bible readings in the Revised Common Lectionary (RCL). Alternative materials are offered when the Church of England’s Common Worship Lectionary differs from the RCL.

for different styles and patterns of worship
ROOTS resources are written by experienced ordained and lay practitioners from across the denominations. The materials can be adapted easily to fit different types of worship, size of congregation or group and age range.

for all ages across the church community
ROOTS resources support worship and learning with adults, all ages together, with groups of children and young people.

Unlimited access to website
Your subscription to the ROOTS magazines gives you access to all the relevant online material –
there is a huge bank of resources in this website.

ROOTS is a joint Churches initiative, and is supported by Churches Together in Britain and Ireland together with representatives from Churches and church publishers.
ROOTS for Churches Ltd is a charitable company.

ROOTS materials are written by experienced ordained and lay practitioners from all denominations and traditions, and are flexible and easily adapted to suit a wide range of patterns and styles of worship and learning.

ROOTS is a partnership of denominations and other Christian Organisations:
The Methodist Church
The Archbishops’ Council of the Church of England
The United Reformed Church
Churches Together in Britain and Ireland
The Council for Sunday Schools and Christian Education in Wales
Christian Education

ROOTS for Churches Ltd
The ROOTS magazines and website are published by ROOTS for Churches Ltd.
Registered Office: 39 Eccleston Square, London SW1V 1PB.
Telephone: 0845 680 4095
Registered Charity No 1097466; Company Registered in England, Limited by Guarantee No 4346069

Ar droad y mileniwm daeth criw o gyhoeddwyr at ei gilydd, gan gynnwys Cyngor Ysgolion Sul / Cyhoeddiadau’r Gair, a hynny i drafod adnoddau dysgu ac addoli ar gyfer plant, ieuenctid a phob oed. Ar y pryd roedd sawl adnodd un ai wedi diflannu neu mewn perygl o ddod i ben. Gofynnwyd i ddau ohonom, sef Judy Jarvis o’r Eglwys Fethodistaidd, a minnau (yn rhinwedd fy swydd fel Llywydd Rhwydwaith Plant CTBI ar y pryd) i fynd ati i baratoi cynllun, a allai yn y pendraw arwain at ddatblygu adnodd newydd. Wedi i ni wneud hynny, a chreu cyllideb a ddangosai bod angen dros £200,000 i sefydlu’r fenter a phenodi golygyddion, bu’n rhaid wedyn troi at yr enwadau i weld a oeddent am gefnogi’r fenter. Ymatebodd 5 enwad yn gadarnhaol, sef Eglwys Lloegr, Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Yr Eglwys Fethodistaidd, Christian Education (sef yr hen Gyngor Ysgolion Sul yn Lloegr), a ninnau fel Cyngor Ysgolion Sul.

Roedd CTBI hefyd yn barod i weithredu fel aelodau cysylltiol. Llwyddwyd i sicrhau benthyciadau gan y 5 partner, a sefydlwyd elusen a chwmni newydd yn dwyn y teitl Roots for Churches. Aed ati i gyflogi 3 aelod rhan amser o staff, ac o fewn 18 mis roedd rhifyn 1 o ddau gylchgrawn wedi ei gyhoeddi a’i ddosbarthu. Roedd cryn amheuaeth ar y pryd a allai’r fenter newydd hon lwyddo, ac o ran y partneriaid, doedd na fawr o ddisgwyliad y byddai’r benthyciadau byth yn cael eu talu yn ôl. Ond dros y 10 mlynedd ddilynol, datblygwyd yr adnodd i gynnwys gwefan gynhwysfawr, ac fe adeiladwyd ar y nifer o danysgrifwyr. Llwyddwyd i ad-dalu’r holl fenthyciadau yn ôl i’r partneriaid yn llawn, ac erbyn hyn mae gan Roots 5 aelod o staff llawn amser a sawl gweithiwr rhan-amser. Bob deufis dosbarthir dros 12,000 o’r cylchgrawn ac mae’r banc adnoddau ar y wefan yn adeiladu o rifyn i rifyn. Chwe blynedd nôl cymerwyd cam arall wrth ofalu bod yr holl weddïau ar gyfer y Sul, ynghyd â dwy daflen waith ar gyfer pob wythnos hefyd ar gael yn Gymraeg.

Bellach aeth 18 mlynedd heibio ers sefydlu Roots, a braf oedd cael dathlu carreg filltir yn ddiweddar wrth gyhoeddi ein canfed rhifyn. Newyddion diweddar calonogol hefyd i ni yng Nghymru yw bod un o’r ddau olygydd ar y cylchgrawn yn Gymraes. Ym mis Mawrth penodwyd Clare Williams fel y golygydd plant ac ieuenctid. Cyn ei phenodi fe dreuliodd Clare rhai blynyddoedd yn gweithio fel Swyddog Plant i Esgobaeth Tyddewi. Dymunwn yn dda i Clare yn ei swydd newydd, ac i Roots ar gyrraedd y 100. Cofiwch am yr holl adnoddau Cymraeg sydd ar y wefan, a bod modd tanysgrifio trwy ymweld â www.rootsontheweb.com

Aled Davies,
Cyfarwyddwr cwmni Roots for Churches