Medalau Gee

Cyflwyniad i'r Medalau Gee
Cyflwynir medalau Gee yn flynyddol i ffyddloniaid yr Ysgol Sul, er cof am Thomas a Sussanah Gee. Cyhoeddwr, perchennog newyddiaduron a golygydd Cymreig o Ddinbych oedd Thomas Gee. Datblygodd Gwasg Gee i fod yn un o’r gweisg pwysicaf yn hanes Cymru, a bu’r wasg yn ddylanwadol iawn am bron i ddwy ganrif, ers ei sefydlu yn nhref Rhuthun. Priododd â Susannah, merch Plas Coch, Llanychan. Cafodd y ddau wyth o blant. Cafodd ei fagu fel eglwyswr, ond yn 1830 ymunodd â’r Methodistiaid Calfinaidd. Credodd a hyrwyddodd y syniad o ddirwest a sefydlodd system i wobrwyo aelodau ffyddlon o’r capel gyda’r hyn a adnabyddir heddiw fel ‘Medalau Gee’. Pan symudodd yn ôl i Ddinbych yn 1838, dechreuodd bregethu gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, ond ni chymerodd ofalaeth ar gapel. Ymhlith y clasuron a ddaeth o’r wasg yr oedd deg cyfrol o’r Gwyddoniadur Cymreig a gostiodd tuag £20,000 i’w gyhoeddi (cyfystyr a £2.5 miliwn yn arian heddiw!); a’r ‘Faner’, sef prif bapur newydd Cymraeg Cymru am dros gant a hanner o flynyddoedd.

Bu Cyngor Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru yn cydweithio gyda’r teulu i gyflwyno Medalau Gee i ffyddloniaid yr ysgol Sul ers 1906. Hwn oedd yr hysbyseb a ymddangosodd yn y Faner yn 1905: Caniatewch i ni hysbysu fod Miss Gee (sef merch Thomas a Sussanah) am roddi pum medal arian i aelodau hynaf yr Ysgol Sul er coffadwriaeth am ei thad a’i mam. Dyma’r amodau i geisio amdanynt: Rhaid i’r ymgeisyddi fod yn 70 oed, ac yn parhau i fynychu yr Ysgol. Rhaid i’r cais gael cymeradwyaeth arolygwr yr Ysgol y mae yr ymgeisydd yn aelod ohoni, a chymeradwyaeth Ysgrifennydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion fyddo’n fwyaf cylfeus iddo. Rhenir y medalau yng nghyfarfod blynyddol Cynghrair Eglwyisi Rhyddion Gogledd Cymru, yr hwn a gynhelir nesaf ym Magillt, Mai 3, 1906.

Yn 2002 cychwynodd Cyngor Ysgolion Sul yr arferiad o gyflwyno medal i rai oedd wedi rhoi cyfraniad arbennig, a hynny ar lefel genedlaethol, i waith yr ysgol Sul a chafwyd cytundeb Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Cyfwynwyd Medalau er Anrhydedd fel a ganlyn: Y Parchedig J Haines Davies, Elisabeth Lloyd James a Rheinallt Thomas, Elfed Hughes, Y Parchedigion Gareth Maelor Jones, Vincent Watkins, Huw John Hughes, Trefor Lewis, Edward David Morgan, Derwyn Morris Jones a Miss Beti Griffiths, Y Parchedigion Ddr Elfed ap Nefydd Roberts ac Angharad Roberts ac Arfon Jones, Y Parchedigion J Ronald Williams, Catrin ac Ifan Roberts a Mr Nigel Davies.

Ers 2018 daeth gweinyddu’r cynllun Medalau Gee yn gyfangwbl o dan ofal Cyngor Ysgolion Sul. Dros y blynyddoedd bu Cyngor Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru a De Cymru (gan gyflwyno medalau Doris Bevan yn y de) yn gwneud y gymwynas honno ond wrth ddirwyn y ddau gyngor i ben penderfynwyd trosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r Cyngor Ysgolion Sul. O 2018 ymlaen trefnwyd dau gyfarfod blynyddol, un yn y gogledd ac un yn y de yn ystod mis Medi. Gwahoddir ceisiadau am fedalau gan aelodau sydd dros 75 oed ac yn dal i fynychu’r Ysgol Sul. Datblygiad pellach, wrth drosglwydo’r cyfrifoldeb o’r Cyngor Eglwysi Rhyddion i Cyngor Ysgolion Sul yw bod modd i aelodau o’r Eglwys yng Nghymru hefyd wneud cais am fedalau. Mae croeso i Ysgolion Sul enwebu medalwyr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ond rhaid i unrhyw gais ar gyfer y flwyddyn gyfredol fod mewn llaw erbyn diwedd Mehefin y flwyddyn honno a chyflwynir y medalau yn ystod mis Medi/Hydref.

Gwneud Cais ar gyfer 2023
Mae croeso i ysgolion Sul enwebu medalwyr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ond rhaid i unrhyw gais ar gyfer y flwyddyn gyfredol fod mewn llaw erbyn diwedd Mehefin y flwyddyn honno a chyflwynir y medalau yn ystod mis Medi/Hydref.

Ers 2018 daeth gweinyddu’r cynllun Medalau Gee o dan ofal Cyngor Ysgolion Sul. Dros y blynyddoedd bu Cyngor Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru a De Cymru yn gwneud y gymwynas honno ond wrth ddirwyn y ddau gyngor i ben penderfynwyd trosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r Cyngor Ysgolion Sul. O 2019 ymlaen trefnir dau gyfarfod blynyddol, un yn y gogledd ac un yn y de yn ystod mis Medi. Gwahoddir ceisiadau am fedalau gan aelodau sydd dros 75 oed ac yn dal i fynychu’r Ysgol Sul. Isod gweler ffurflenni cais i’w lawrlwytho a’u dychwelyd.

Ffurflen Gais Medalau Gee (PDF)

Ffurflen Gais Medalau Gee (Word)

Cyfarfodydd 2022
GWOBRWYO ENILLWYR MEDAL GEE 2022

Eleni cyflwynir 22 o Fedalau Gee i’r sawl a enwir isod. Diolchwn iddynt am eu ffyddlondeb a’u gweithgarwch dros achos Iesu Grist.

Llongyfarchiaau i’r holl enillwyr eleni:
Aledwen Myra Davies, Capel Saron, Dinbych
Gwilym Davies, Ysgol Sul y Parc, y Bala
Olwen Davies, Ysgol Sul y Parc, y Bala
Heulwen Mai Edwards, Capel y Groes, Dinbych
Lloyd Edwards, Capel y Groes, Dinbych
Gwerfil Alwena Evans, Ysgol Sul Peniel, Llanuwchllyn
Nesta Elizabeth Evans, Capel Saron, Dinbych
Jean Elizabeth Hughes, Capel Lôn y Felin, Llangefni
Awel Jones, Ysgol Sul Peniel, Llanuwchllyn
Elfair Jane Jones, Bethel, Mynachlog-ddu
Gillian Jones, Capel Lôn y Felin, Llangefni
John Gwynfor Jones, Capel y Groes, Dinbych
John Trefor Jones, Ysgol Sul yr Awr Fawr, Llanuwchllyn
Meinir Hedd Jones, Capel y Groes, Dinbych
Patricia Jones-Evans, Capel Brynllynfell, Cwmllynfell
Wendy Jones, Ysgol Sul yr Awr Fawr, Llanuwchllyn
Beryl Morris, Capel Cefn Berain, Dinbych
Gwyneth Parry, Ysgol Sul yr Awr Fawr, Llanuwchllyn
Mary Annwen Thomas, Ysgol Sul yr Awr Fawr, Llanuwchllyn
Helen Mary Williams, Capel Lôn y Felin, Llangefni
Margaret Helen Williams, Capel Lôn y Felin, Llangefni

Hefyd cyflwynir medalau anrhydedd gan Cyngor Ysgolion Sul i:
Y Parchg Tom Defis, Cymorth Cristnogol
Dr Isoline Greenhalgh ar ran y teulu Gee

Trefnir a gweinyddir y Medalau Gee gan Cyngor Ysgolion Sul Cymru
Cofiwch bod modd enwebu eraill i dderbyn medalau ar gyfer 2023 ar unrhyw adeg i fyny at Mehefin 30 2023. Cynhelir y cyfarfodydd gwobrwyo eto flwyddyn nesaf Medi 2023. Mae’r canllawiau a ffurflen enwebu ar gael o wefan www.ysgolsul.com

Cyfarfodydd 2021

Medalau Gee 2021: de a gogledd

Ar gyfer 2021 cyflwynwyd y medalau yn lleol i’r sawl a enwebwyd. Dyma restr o’r rhai a dderbyniodd fedalau yn 2021.

Gogledd:
Iola Margaret Roberts, Jerwsalem, Mynydd Mechell, Ynys Môn
Grace Jones, Carmel Penysarn, Ynys Môn
Olwen Owen, Carmel Penysarn, Ynys Môn
Brenda Gibson, Capel y Groes ac Ebeneser, Wrecsam
Gwenfron Jones, Capel y Groes ac Ebeneser, Wrecsam
Llinos Powell Jones, Capel y Groes ac Ebeneser, Wrecsam

De:
Thomas Alan Campden, Soar, Cwmpengraig, Pen-boyr
Dewi T Ll Davies, Aberduar, Llanybydder
Janet Evans, Noddfa Llanbedr Pont Steffan
Vera Lewis, Eglwys St Tysul Llandysul
Daniel Keith Williams, Capel Newydd, Llanddarog
Marian Margaret Williams, Capel Newydd, Llanddarog
Alun Lloyd Voyle, Capel Newydd, Llanddarog
Margaret Beryl Voyle, Capel Newydd, Llanddarog
Alun Williams, Capel Newydd, Llanddarog
Lily May Thomas, Capel Penybont, Caerfyrddin
Bethan Eurddydd Thomas, Gellimanwydd, Rhydaman

Cyflwynir 3 medal gan Cyngor Ysgolion Sul i unigolion a wnaeth gyfraniad arbennig i waith plant ac ieuenctid yng Nghymru, ac eleni cyflwynir medalau i:
Mr Nigel Davies, Caerfyrddin
Parch Catrin Roberts, Caerdydd
Parch Ifan Roberts, Caerdydd

Cyfarfodydd y gorffennol
Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru
Cyfarfodydd cyflwyno a gwobrwyo
Medalau Gee 2019

Gobrwywyd 33 o fedalau Thomas a Suzannah Gee eleni, a hynny mewn dwy seremoni, a gynhaliwyd ym Mangor a Chaerfyrddin yn ystod mis Medi.
Isod rhestrir enwau y 33 a dderbyniodd eu anrhydeddu eleni.

Meirick Lloyd Davies, capel Cefn Meiriadog, Dinbych
Cadfan Edwards, capel Carmel, Moelfre, Abergele
Ann Evans, capel Bosra, Penisarwaun
Doreen Evans, eglwys Unedig Llansannan
Margaret Glenys Goddard, capel Jerwsalem, Cerrigydrudion
Dilys Wyn Griffith, capel Mynydd Seion, Abergele
Eluned Griffiths, capel Bethlehem, Carreglefn
Anwen Hughes, capel Bethel, Melin y Coed
Doris Hughes, capel Gilead, Belan, Bodwrog
Janet Maureen Hughes, capel Seion, Llanrwst
John Eric Hughes, capel Mynydd Seion, Abergele
Meirwen Hughes, capel Mynydd Seion, Abergele
John Owen Hughes, capel Bethlehem, Carreglefn
Llinos Meirionwen Hughes, capel Cefn Berain, Dinbych
Vivian Jones Hughes, capel Bethlehem, Carreglefn
Ceinlys Jones, eglwys Unedig Llansanan
Catherine Jones, capel Gilead, Belan, Bodwrog
Gruffydd Rees Jones, eglwys Unedig Llansannan
Gwynant Jones, eglwys Unedig Llansannan
Gareth Jones, capel Lôn y Felin, Llangefni
Huw Jones, capel Bethesda, Yr Wyddgrug
Robert John Jones, capel Gilead, Belan, Bodwrog
William Bryn Jones, capel Gilead, Belan, Bodwrog
Mair Elizabeth Lewis, capel Heol y Parc, Rhuthun
Llinos Roberts, capel Cefn Meiriadog, Dinbych
Thomas Rowlands, capel Parc, Llandyfrydog, Môn
Mair Selway, capel Bethesda, Yr Wyddgrug
Betty Williams, eglwys Unedig Llansannan
Eluned Margaret Williams, capel Seion, Llanrwst
Mary Williams, capel Gilead, Belan, Bodwrog
Delun Callon, capel Tabernacl, Caerdydd
Elizabeth Ann Davies, capel Peniel, Caerfyrddin
Robin Gwyndaf, capel Tabernacl, Caerdydd
Brynmor James Harries, capel Penybont, Casblaidd
Elizabeth Ann Jones, capel Tabernacl, Pencader
Eirlys Bebb, capel Y Drindod, Cockfosters

Gyda diolch,
Aled Davies, Cyfarwyddwr Cyngor Ysgolion Sul

Medalau er Anrhydedd
Mae Cyngor Eglwysi Rhyddion y Gogledd wedi cyfwyno Medalau Gee i ffyddloniaid yr ysgol Sul er 1906. Cyfwynwyd medal arbennig gan Gyngor yr Eglwysi Rhyddion i’r Parch. J. Haines Davies am ei waith unigryw i’r Cyngor hwnnw a gwaith yr ysgol Sul yng Nghymru pan ymddeolodd fel ysgrifennydd y Cyngor. Ymhen rhai blynyddoedd, derbyniodd y Cyngor Ysgolion Sul awgrym Aled Davies fod y Cyngor yn cyfwyno medal i rai oedd wedi rhoi cyfraniad arbennig, a hynny ar lefel genedlaethol, i waith yr ysgol Sul a chafwyd cytundeb Cyngor yr Eglwysi Rhyddion.

Cyfwynwyd Medalau er Anrhydedd fel a ganlyn:

2004 Elisabeth Lloyd James a Rheinallt Thomas
2005 Elfed Hughes
2006 Y Parchedigion Gareth Maelor Jones a Vincent Watkins
2010 Y Parchedigion Huw John Hughes, Trefor Lewis ac
Edward David Morgan
2011 Y Parchedig Derwyn Morris Jones a Miss Beti Griffiths
2013 Y Parchedig Ddr Elfed ap Nefydd Roberts
2015 Y Barchedig Angharad Roberts ac Arfon Jones
2016 Y Parchedig J Ronald Williams
2020 Y Parchedigion Catrin ac Ifan Roberts a Mr Nigel Davies
2022 Y Parchedig Tom Defis a Dr Isoline Greenhalgh