Fel Cyngor sydd â chyfrifoldeb a baich dros Addysg Gristnogol byddwn yn trefnu Sul Addysg yn flynyddol, gan ofyn i eglwysi neilltuo amser i feddwl ac i weddïo dros eu gwaith gyda phlant a ieuenctid. Gwahoddwn eglwys i neulltuo rhan o wasanaeth yn ystod y flwyddyn i roi sylw i ‘Sul Addysg’, – bydd hyn yn rhoi cyfle i eglwys i ddiolch am gyfraniad addysg Gristnogol i fywydau eu hieuenctid, i ystyried ei werth heddiw, ac i weddïo dros bawb sy’n cyflwyno a derbyn yr addysg hwn. Isod mae gwasanaeth pwrpasol i chi ei argraffu ar gyfer cynnal oedfa arbennig.
Dyma’r Sul hefyd y mae Cyngor Ysgolion Sul yn gwneud ei apêl ariannol blynyddol i’r eglwysi.
Diolchwn am bob cyfraniad at y gwaith dros y blynyddoedd diwethaf – mae’r rhoddion yma erbyn hyn yn gwbl allweddol i ddatblygiad ein gwaith. Gwerthfawrogir bob rhodd a dderbynnir at y gwaith.
Gwasanaeth ar gyfer Sul Addysg
Paratowyd y gwasanaeth gan y Parch Denzil John, Caerffili.
Gweddi agoriadol: Arglwydd pob dysg a deall, gofynnwn am dy arweiniad yn yr oedfa hon, wrth i ni geisio dy arweiniad. Tynn ni atat wrth i ni geisio gwrando arnat a derbyn dy fendith a’th neges . Amen.
Emyn: 3 (C Ff) – Drysau Mawl
Agorwn ddrysau mawl
Arweinydd: Rhoddwyd sylw mewn nifer o eglwysi i Sul Addysg yng Nghymru a Lloegr dros y ganrif ddiwethaf, gan dderbyn fod addysg yn greiddiol i fywyd unigolyn, eglwys a chymdeithas. Yn yr oedfa hon byddwn yn diolch am bawb sy’n cyfrannu i’r sustemau addysgol yn ein hardal, yng Nghymru ac ar draws y byd. Faint o ysgolion sy’n gwasanaethu ein hardal ni?
Cyflwyniad lleol:
Gwahodd plant ymlaen i ddarllen darnau wedi eu paratoi yn barod i sôn am yr ysgolion lleol. Efallai mai gwahodd athrawon fyddai orau mewn rhai sefyllfaoedd i sôn am Ysgolion Meithrin, Cynradd, ac Uwchradd.
Gallai fod yn haws i’r arweinydd ofyn i’r cynrychiolwyr, faint o ddisgyblion sydd ym mhob ysgol, faint o athrawon, ac ers pryd bu’r ysgol yn bodoli. Byddai’n hyfryd clywed brawddeg neu ddwy yn nodi unrhyw ddigwyddiad penodol yn hanes yr ysgol dros y 12 mis diwethaf.
Gweddi:
Arglwydd Iesu, diolchwn am bob ysgol yn ein hardal, ac am yr athrawon sy’n gweithio ynddynt. Gwyddom eu bod wedi treulio lawer o amser yn paratoi eu hunain ar gyfer y gwaith o addysgu disgyblion. Diolchwn hefyd am bob un sy’n gweithio fel cynorthwywyr, gofalwyr a glanhawyr yn yr ysgolion, ac yn cynnig gofal a chyfeiriad i’r disgyblion bob dydd.
Cofiwn am ardaloedd lle nad oes darpariaeth ddigonol, a hynny mewn gwledydd ar draws y byd. Wrth i ysgolion Cymru fedru fanteisio ar gyfarpar cyfrifiadurol ac yn medru elwa o’r adnoddau diweddaraf, sylweddolwn ein bod yn byw mewn gwlad freintiedig. Yn ein hoedfa heddiw, cofiwn fod rhai disgyblion heb y manteision hyn. Gweddïwn y bydd i lywodraethau ddarganfod ffyrdd o sicrhau gwell darpariaeth i bawb. Gwrando’n gweddi, yn enw Iesu. Amen.
Emyn: BRONWEN 640 (C Ff) PLASIR D’AMOUR
Diolchwn Dduw
am holl ysgolion ein gwlad
a’r addysg a ddaw i bob un
yn rhydd a rhad.
Diolchwn am
athrawon ymhob lle,
A’u gofal didwyll a ffyddlon
mewn gwlad a thre’.
Rhyfeddwn Iôr
at holl adnoddau’r gwaith
Sy’n meithrin disgyblion pob cyfnod
ar hyd eu taith.
Ti Iesu Grist
Yw’r athro gorau sydd,
Gad i ni dreulio ein horiau
Yn arfer ffydd. DIJ
Arweinydd: Faint o’r plant bach sydd wedi clywed stori y tri mochyn bach a’r blaidd. Roeddynt am adael cartref, ac adeiladu eu tai eu hunain. Cododd y cyntaf dŷ allan o wellt, a’r ail dŷ allan o frigau, ond adeiladodd y trydydd dŷ allan o friciau. Llwyddodd y blaidd i chwythu’r ddau dŷ cyntaf i lawr, ond methodd yn llwyr â chwythu’r tŷ o ddefnydd cryf, ac wedi ei adeiladu ar sylfaen gadarn.
(Gallai’r plant lleiaf ddysgu’r geiriau canlynnol ar dôn ‘Diolch diolch Iesu’, a chyfeilio gydag offerynnau taro.)
Diolch am yr ysgol (x2)
Diolch am yr ysgol yw ein cân
Diolch diolch Iesu, diolch diolch Iesu
Diolch am yr ysgol yw ein cân.
Dioch am ein ffrindiau
Diolch wnawn am Iesu.
Arweinydd: Mae addysg fel adeiladu tŷ, mae angen gosod y seiliau yn ddiogel, ac yna codi un rhes o friciau ar ben yr un blaenorol. Mae sylfaen ar dir cadarn yn hanfodo i godi tŷ. Pa werth yw codi tŷ ar dir simsan fel tywod neu fwyd. Rhannodd Iesu ddameg yn dweud hyn, beth am wrando arni.
Darllen: Mathew 7: 24-29
Arweinydd: (Wrth i’r arweinydd gyflwyno’r sylwadau hyn, gellir i’r geiriau a’r delweddau ymddangos ar y sgrin, neu wedi eu hargraffu ar bapur wedi eu gosod ar focsys ‘sgidiau gwag mewn rhes ar fwrdd. Efallai byddai ambell grŵp yn medru trefnu i rywrai arall ddod ymlaen a darllen y nodiadau wrth osod y bocs ar y bwrdd.)
Cywirdeb: Mae pob darn o wybodaeth yn gorfod bod yn gywir, neu nid yw o unrhyw werth. Pa bwrpas cyflwyno ffaith mewn gwers os nad yw’n wir. Mae dau a dau yn gwneud pedwar, ym mhob gwedd ar fathemateg. Dim ond un ffordd sydd i sillafu geiriau yn gywir, ac nid yw afal sy’n aeddfed yn mynd i fyny Yr un yw gwirionedd disgyrchiant ym mhobman ar draws y byd.
Mae’r Cristion yn bendant yn credu mai Gwirionedd yw Iesu, a phan ddywed ef ei fod yn ffordd, yn wirionedd ac yn fywyd, mae’n dweud y gallwn ddibynnu arno. Dywed yr emynydd nad ’Ie a nage’ i’w drafod, yw’r berthynas rhwng Duw a dyn, ond profiad gwir a pherthnasol. Dyma un o sylfeini ein cred.
Gonestrwydd: Cam peryglus yw dweud celwydd. Unwaith bydd celwydd wedi cael ei ddweud, bydd y twyllwr yn gorfod bod yn gyson, a rhyw ddydd, bydd rhywun arall yn siŵr o weld y twyll. Ni ellir bod yn anonest wrth fynegi barn, boed wth ymateb i ddarn o lenyddiaeth neu gelfyddyd.
Mae angen bod yn onest o flaen dyn a Duw. Cawn ein derbyn yn well wrth gyfaddef ein camgymeriad. Mae’r Beibl yn sôn am gyffesu, gan sylweddoli ein bod yn amherffaith mewn sawl ffordd.
Parch: Carreg sylfaen ym myd Addysg yw parch. Bydd gofyn i athrawon a disgyblion barchu ei gilydd er mwyn i gymdeithas ysgol ddatblygu. Mae’r sawl sy’n amharchu eraill, yn amharchu’r hunan. Pan ddigwydd hynny, mae’r person yn cerdded llwybr peryglus. Bydd angen parchu ffeithiau a dysgu drwy ystyried y wybodaeth a gyflwynir a’r profiadau a ddaw ar daith bywyd.
Bydd parch yn gam i gyfeiriad cyd-fyw mewn heddwch. Pan fydd dau berson neu dwy gymdeithas yn anghydweld hyd at gweryla, mae casineb yn cael cyfle i ddatblygu. Pan ddaw parch rhwng dau, mae modd adeiladu pont, a honno yn ail greu cymdeithas eto. Dyna wnaeth Duw ym mherson Iesu Grist, sef pontio rhyngddo a dynion,
Ymddiriedaeth: Bydd pawb sy’n teithio mewn bws, ar drên neu awyren yn ymddiried yn y cerbyd ac yn y bobl sy’n gyfrifol amdano. Wrth fwyta bwyd, byddwn yn ymddiried bod y bwyd wedi cael ei baratoi mewn cegin lân gan ddefnyddio cynhwysion iach a ffres. Bydd angen i bob disgybl ymddiried yn yr athrawon wrth iddynt gyflwyno gwers a chynnig gwybodaeth neu addysg newydd. Rhaid ymddiried bod yr athro yn cyflwyno’r gwir.
Mae pob Cristion yn ymddiried yn Nuw, gan gredu ei fod yn gofalu amdanom. Ni wyddom beth sydd o’n blaen unrhyw ddiwrnod, ond mae Duw yn dweud ei fod gyda ni bob amser.
Dyfalbarhad: Weithiau byddwn yn gorfod cyfaddef ein bod wedi methu deall rhyw bwynt mewn gwers, neu yn ei chael yn anodd cael darn cerddorol yn gywir ar yr offeryn cerdd ar y cynnig cyntaf. Mae angen llawer o ymarfer i ddysgu sgiliau newydd. Mae’r hen ddywediad ‘Dyfal donc a dyrr y garreg’ yn berthnasol mewn sawl sefyllfa.
Mewn ysgol a choleg, mae cyfle i ni ddysgu o’n camgymeriadau. Mae’r un peth yn wir mewn bywyd hefyd, ac wrth gyfaddef ein beiau, gallwn ddysgu sut y gallwn fod yn fwy trugarog a maddeugar ein hunain.
Emyn: Deganwy – C Ff 95
Clodforwn di, o Athro mwyn,
A swyn dy rhyfedd eiriau,
Sy’n cymell plant y byd at Dduw
A byw i’w ddymuniadau
Fe’n gelwaist gynt i arfer ffydd
Yn rhydd o’r wedd hunanol;
Gan ddangos parch at bawb drwy’r byd
Mewn ysbryd cariad grasol.
Cyffeswn Arglwydd nad yw’n rhwydd
I lwyddo byw fel Iesu,
Ond ymddiriedwn y cawn rodd
Dy nodded di i’n helpu.
Rhag inni flino ar y daith
A’r gwaith fel tystion teyrnas,
Boed inni brofi’r Ysbryd Glân
I’n hannog yn dy bwrpas. DIJ
Gweddi:
Addysgwr bywyd,
cywira’n camau a chyfeiria ni o’r newydd ar ein taith ysbrydol. Helpa i ni weld dy esiampl di bob dydd, ac y cawn ymarfer bod yn debyg iti.
Bendithia ni yn dy bwrpas dy hun. Amen
(Gweithgaredd wedi’r oedfa i blant cynradd, fyddai defnyddio blociau pren neu blastig i godi wal, a gweld fod pob profiad, gwers, perthynas yn debyg i fricsen. Gallai plant hynach drafod pa werthoedd y carent ychwanegu at yr hyn a drafodwyd yn yr oedfa.)