Heddiw, mae diddordeb newydd yn y ffydd Gristnogol, ac yn fwy penodol, ym mherson Iesu. Dros ddwy fil o flynyddoedd ers ei eni, mae ganddo fwy na dau biliwn o ddilynwyr. Bydd Cristnogion bob amser yn cael eu cyfareddu gan sylfaenydd eu ffydd ac Arglwydd eu bywydau. Ond yn awr, mae adfywiad yn y diddordeb gan rai nad ydyn nhw’n mynychu addoldy.
Mae nifer yn gofyn cwestiynau am Iesu. Ai dim ond dyn oedd Iesu, ynteu ai ef yw Mab Duw? Os ydyw, beth yw goblygiadau hyn ar ein bywydau o ddydd i ddydd?
Mae’r cwrs Alffa yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau allweddol sy’n rhan ganolog o’r ffydd Gristnogol, sydd wedi ei lunio ar gyfer rhai nad ydyn nhw’n mynychu addoldy, y rhai sy’n ceisio canfod rhagor am Gristnogaeth, a’r rhai sydd wedi dechrau arddel ffydd yn Iesu Grist yn ddiweddar. Rydym wedi gwylio gyda syndod wrth i Alpha ledaenu i dros 50,000 o gyrsiau ledled y byd. Mae miliynau o ddynion a merched o bob oedran sydd wedi dechrau cymryd rhan yn y cwrs, ac sy’n llawn cwestiynau am Gristnogaeth, wedi canfod Duw fel eu Tad, Iesu Grist fel eu Gwaredwr a’u Harglwydd, a’r Ysbryd Glân fel yr un sy’n dod i fyw o’u mewn.
Cwestiynau Bywyd
Testun: Huw Tegid Roberts
Pris: £6.99, 200tt, cm
Canllawiau i’r bywyd Cristnogol.
Llyfr i gyd-fynd â chwrs Alffa.
Cliciwch YMA i archebu ar Gwales.
Llawlyfr Alffa
Testun: Rhys Llwyd. Pris: £1.50.
Llawlyfr i roi i bawb sy’n dilyn y Cwrs Alffa.
Cliciwch YMA i archebu ar Gwales.
Llawlyfr Hyfforddi
Testun: Rhys Llwyd. Pris: £2.00.
Llawlyfr i arweinwyr a chynorthwywyr
y Cwrs Alffa.
Cliciwch YMA i archebu ar Gwales.
Pam Iesu?
Testun: Lyn Lewis-Dafis. Pris: 50c.
Cyflwyniad byr i’r ffydd Gristnogol i ennyn diddordeb ar gyfer y Cwrs Alffa.
Cliciwch YMA i archebu ar Gwales.
Mae cyfres o DVD’s Saesneg ar gael gan Nicky Gumbel a llawer o adnoddau eraill cysylltiol. Cliciwch yma i fynd i Siop Alpha neu cysylltwch a’r Cyngor Ysgolion Sul i archebu’r adnoddau Cymraeg.
Deunydd hyrwyddo eich Cwrs Alffa
Rydym wedi cynhyrchu posteri ar ffurf JPG sy’n addas i’w gosod fel cefndir i greu poster neu garden gwahoddiad i’ch Cwrs Alffa chi. Lawrlwythwch y JPGs a’u gosod fel cefndir yn Word, Publisher neu raglen debyg. Hefyd, cliciwch yma i lawrlwytho PDF 6 x 2 troedfedd, addas ar gyfer cynhyrchu baner PVC i arddangos tu allan eich capel/eglwys yn hyrwyddo’ch Cwrs Alffa.