Mae adnoddau Beiblaidd Cyfres Amser Beibl yn gyfres o daflenni Beiblaidd lliwgar sy’n addas i blant 5-18 oed. Dyma gyfres o wersi a phosau Beiblaidd llawn hwyl i blant ac ieuenctid. Mae pedwar grwp oedran allweddol yn y gyfres, Safon 1 (5-7 oed), Safon 2 (8-10 oed), Safon 3 (11-13 oed) a Safon 4 (14+ oed).
Mae yma wersi am lawer o straeon pwysicaf a phrif gymeriadau’r Beibl. Mae cynllun tair blynedd wedi’i drefnu ar gyfer pob grwp oedran gyda chyfres o bedair gwers ar gyfer pob mis. Y bwriad yw bod y plant yn gwneud un wers yr wythnos. Mae’r gwersi’n cael eu cyflwyno mewn ffordd uniongyrchol a diddorol gyda’r nod o annog y disgyblion i astudio mwy ar y Beibl.
Gallwch lawrlwytho’r gwersi yn eu trefn trwy ddewis y grwp oedran cywir. Maent yn addas ar gyfer Ysgolion Sul a chlybiau plant, neu hefyd gellir eu defnyddio gan rieni i gyflwyno storïau Beiblaidd i’w plant. Mae Cyngor Ysgolion Sul yn ddiolchgar am y cyfle i gydweithio gyda’r tîm a fu wrthi yn paratoi y gyfres, er mwyn cyrraedd eglwysi ac Ysgolion Sul Cymru. Mae’r gwersi hyn hefyd ar gael yn Saesneg o wefan https://www.besweb.com
Y CreuNoa
Abraham
Jacob
Joseff
Moses
Josua
Ruth a Samuel
Dafydd
Elias
Eliseus
Jona
Daniel
Nadolig
Bywyd Iesu a Iesu’n dysgu
Gweinidogaeth a Gwyrthiau Iesu
Pasg
Eglwys Fore
Pedr
Paul