Arwyr Ancora – App Beiblaidd
Mae Cyngor Ysgolion Sul yn falch o gefnogi a noddi App Beiblaidd ARWYR ANCORA sef App rhad ac am ddim i blant.
YDYCH CHI YN BAROD I ANTURIO I FYD ARWYR ANCORA?
Mae Ap Beiblaidd i blant ar gael yn y Gymraeg, sef Arwyr Ancora. Fersiwn Cymraeg o Ap Beiblaidd Guardians of Ancora, a ddatblygwyd gan Scripture Union, yw Arwyr Ancora. Hwn yw yr Ap mwyaf uchelgeisiol yn y Gymraeg, ac wedi ei anelu ar gyfer plant 7-12 oed. Mae yn ffrwyth cydweithio rhwng Scripture Union a nifer o’r enwadau a mudiadau Critnogol yng Nghymru.
Mae’r Ap Guardians of Ancora, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Scripture Union yn 2015 wedi ennill ei le fel y prif ap gemau Cristnogol i blant ledled y byd, ac eisoes wedi gweld dros miliwn o blant yn cofrestru fel chwaraewyr.
Mae’r Ap yn cynnwys anturiaethau a gemau sy’n tywys yr Arwyr i mewn i fyd y Beibl, gan eu cyflwyno i gymeriadau dychmygol fel Ffabwla a’r Urddfeistr, sydd, yn eu tro, yn cyflwyno’r Arwyr i gymeriadau pwysig yn y Beibl. Trwy gwblhau tasgau arbennig mae gwobrau fel ffilmiau bonws i’w hennill.
O fewn yr Ap mae 11 cwest Beiblaidd, gyda storïau, cwisiau, ffilmiau i’w gwylio a gemau i’w chwarae. Tra mae byd Ancora a’i gymeriadau, fel Ffabwla, Macsen, y Sbarbwch, y Sbarcod a’r Urddfeistr i gyd yn ddychmygol, mae’r storïau a gyflwynir i gyd o’r Beibl, ac yn ffyddlon a chywir i’r storïau gwreiddiol. Pan mae’r chwaraewr yn derbyn yr her i fynd ar gwest i ddod o hyd i stori er mwyn ei dychwelyd i’r Goleudwr yn Ancora, stori o’r Beibl yw honno bob tro. Cyflwynir 11 stori o fywyd Iesu o fewn yr Ap, sef:
- Hanes y Nadolig – angylion a bugeiliaid
- Tŷ Pedr
- Gweddi – sut i sgwrsio gyda Duw?
- Hanes Iesu a Jairus
- Hanes Iesu a’r pysgotwyr
- Hanes Iesu a’r swyddog Rhufeinig
- Hanes Iesu’n bwydo’r dorf
- Hanes Iesu yn maddau ac iacháu
- Hanes y Pasg: y ffordd i’r groes, ac Mae Iesu’n fyw!
Mae yna gân arbennig hefyd wedi ei recordio gan Martyn a Meilyr Geraint, sef addasiad o gân Mark Read a Doug Horley ac wedi ei gyfieithu gan Arfon Jones, sef Ni ydy Arwyr Ancora.
Lawrlwytho Cân Arwyr Ancora (Ffeil .MP4 200Mb)
Dyma ddoleni i osod yr App ar eich dyfeisiadau symudol. Ar ôl lawrlwytho ‘Guardians of Ancora’ bydd opsiwn i chi ddewis ‘Cymraeg’ er mwyn chwarae ‘Arwyr Ancora’:
App i ddyfeisiadau Apple – Guardians of Ancora App i ddyfeisiadau Android – Guardians of AncoraBeth am fynd ati dros y gwyliau i drefnu clwb gwyliau Cristnogol yn eich eglwys ar gyfer plant 7-11 oed?
Yn y pecyn cynhwysfawr rydym wedi ei baratoi mae rhaglen gyflawn o ddeunydd clwb gwyliau sy’n mynd â ni i fyd Arwyr Ancora. Gellir unai cynnal wythnos lawn (5 diwrnod) neu gynnal un diwrnod ar thema arbennig o fywyd Iesu.
Bydd plant eich clwb gwyliau’n cael y cyfle gwych i fod yn Arwyr Ancora, a chwilio am y stori-drysorau sydd ar goll. Trwy eu gwaith fel Arwyr, bydd y plant yn cyfarfod â Iesu, ac yn cael cyfle i ystyried eu rhan nhw yn y stori fwyaf erioed. Gan ddechrau gyda geni Iesu a gorffen gyda’r atgyfodiad, mae’r clwb gwyliau’n rhoi cyfle i’r plant glywed yr efengyl ac yn eu gwahodd i ystyried eu hymateb eu hunain.
Mae CASGLU’R TRYSOR yn addas ar gyfer plant o bob oed ac ar bob cam ar daith ffydd. Mae ARWYR ANCORA: CASGLU’R TRYSOR yn rhaglen hawdd ei haddasu. Mae’n cynnwys crefftau, gêmau, darganfod y Beibl, trafodaethau mewn grwpiau bach, syniadau creadigol ar gyfer gweddi a chyfoeth o adnoddau eraill am ddim – popeth y mae arnoch ei angen i wneud eich clwb gwyliau’n llwyddiant ysgubol.
Hefyd mae dau lyfr gweithgareddau pwrpasol (ar gyfer pob plentyn unigol) sy’n cynnwys yr holl ddarlleniadau o’r Beibl y bydd arnoch eu hangen ar gyfer CASGLU’R TRYSOR, gyda phosau, gweithgareddau a chyfleoedd i ymateb i’r storïau. Gellir eu defnyddio yn y clwb a gartref. Cliciwch isod i archebu’r adnoddau:
Cliciwch yma i brynu copi caled trwy’r post o gwales.com
Arwyr Ancora: Casglu’r Trysor – Storfa Drysor (5 i 8 oed)
Cliciwch yma i brynu copi caled trwy’r post o gwales.com
Arwyr Ancora: Casglu’r Trysor – Cist Trysor (8 i 11 oed)
Cliciwch yma i brynu copi caled trwy’r post o gwales.com
Mae telerau arbennig ar gael i eglwysi sydd am redeg clwb gwyliau yn eu heglwys. Gellir archebu copiau o Storfa Drysor a Cist Trysor am £1 yr un (yn lle £2.50) drwy gysylltu gyda Cyngor Ysgolion Sul.
Am fwy o wybodaeth am Arwyr Ancora cliciwch ar www.arwyrancora.com
Clwb Gwyliau Arwyr Ancora – Casglu’r Trysor
Erbyn hyn mae adnoddau Clwb Gwyliau Arwyr Ancora ar gael yn y Gymraeg. Ceir tri llyfr yn y gyfres, un llyfr ar gyfer arweinwyr sy’n cynnwys pob peth fydd angen arnoch i gynnwys clwb gwyliau Cristnogol dros gyfnod o wythnos, neu fel pump diwrnod unigol. Mae’r deunydd yn dilyn hanes bywyd Iesu gan gynnwys stori’r Nadolig, ei fywyd a’i weinidogaeth a hanes y Pasg. Ceir hefyd dau lyfr gwaith lliwgar i blant 5-8 oed a 8-11 oed.
Arwyr Ancora: Casglu’r Trysor (Rhalgen Clwb Gwyliau)
Cliciwch yma i brynu copi caled trwy’r post o gwales.com
Arwyr Ancora: Casglu’r Trysor – Storfa Drysor (5 i 8 oed)
Cliciwch yma i brynu copi caled trwy’r post o gwales.com
Arwyr Ancora: Casglu’r Trysor – Cist Trysor (8 i 11 oed)
Cliciwch yma i brynu copi caled trwy’r post o gwales.com
Mae telerau arbennig ar gael i eglwysi sydd am redeg clwb gwyliau yn eu heglwys. Gellir archebu copiau o Storfa Drysor a Cist Trysor am £1 yr un (yn lle £2.50) drwy gysylltu gyda Cyngor Ysgolion Sul.