Cyfres Stori Duw
Mae gan Cyngor Ysgolion Sul Cymru banel cydenwadol sy’n cyfarfod yn rheolaidd i weithio ar ddeunydd gwerslyfrau ar gyfer Ysgolion Sul Cymru, gan ddwyn ynghyd arbenigwyr ym maes addysg Gristnogol. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Panel hwn wedi bod wrthi yn cynllunio cyfres newydd sbon o werslyfrau, sef Cyfres Stori Duw, a fydd yn rhoi panorama i ni o daith fawr stori Duw. Bydd y flwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar yr Hen Destament, gan gyrraedd y Nadolig erbyn diwedd y flwyddyn. Yna bydd yr ail flwyddyn yn canolbwyntio ar fywyd a dysgeidiaeth Iesu a chyffro’r Eglwys Fore.
Rydym ni’n diolch i Geraint Tudur am gynhyrchu’r ffilm sy’n cyflwyno’r gyfres.
Cliciwch ar deitlau’r cyfrolau isod er mwyn mynd trwodd i wefan Gwales lle medrir eu harchebu ar-lein. Os am argraffu sampler 25 tudalen sy’n cynnwys un gwers o bob gwerslyfr cliciwch isod:
Sampler Stori Duw (Lawrlwytho PDF)
Mae nifer o werslyfrau a llyfrau atodol newydd yn rhan o’r gyfres, gan gynnwys:
Ar gyfer dan 5:
Gwerslyfr Stori Duw i blant dan 5 – gwerslyfr sy’n cynnwys 50 o wersi, yn cynnwys stori, amser chwarae, amser dysgu, rhigwm a gweddi, ynghyd â llun a gweithgaredd.
I gyd-fynd â’r gwerslyfr, mae yna lyfr crefft sy’n cynnwys tua 200 o syniadau crefft yn nhrefn y Beibl, sef Llyfr Crefft Stori Duw i blant bach.
Ar gyfer dan 11:
Gwerslyfr Stori Duw i blant 6-11 oed – gwerslyfr sy’n cynnwys 50 o storÏau, yn cynnwys gwers gyflawn, ynghyd â llun a gweithgaredd. I gyd-fynd â’r gwerslyfr, mae yna lyfr crefft sy’n cynnwys tua 200 o syniadau crefft yn nhrefn y Beibl, sef Llyfr Crefft Stori Duw i blant.
Ar gyfer dan 15:
Gwerslyfr Stori Duw i Ieuenctid – gwerslyfr sy’n cynnwys 50 o sesiynau / astudiaethau Beiblaidd ar gyfer pobl ifanc oed uwchradd.
Yn ychwanegol mae yna opsiwn i brynu Beiblau gweithgaredd ar gyfer yr oed cynradd, sef Beibl Gweithgaredd y Plant Lleiaf i blant dan 7 oed a Beibl Gweithgaredd y Plant i blant dan 11 oed. Mae dau feibl lliw wedi cael eu paratoi hefyd ar gyfer cyflwyno’r stori gyfan, sef Beibl Lliw Stori Duw a Beibl Bach Stori Duw. Mae’r ddau Feibl arbennig yma yn cyflwyno’r stori eto fel un stori fawr, gan blethu a phontio holl storïau’r Beibl. Cyfrol arall sy’n rhan o’r cynllun yw Oedfaon Stori Duw, sef cyfrol o wasanaethau teuluol sy’n seiliedig ar 20 cyfnod yn hanes y Beibl. Mae Stori Fawr Duw hefyd yn gyfeirlyfr defnyddiol sy’n esbonio’r stori a’r daith, trwy gyfrwng mapiau a ffeithiau hanesyddol. Mae DVD ar gael hefyd, sef DVD Stori Duw, sy’n cynnwys 52 stori pum munud yn cael eu hadrodd gan Mici Plwm. Yn ogystal mae cyflwyniadau Powerpoint ar gael, fel ffordd arall i gyflwyno’r storiau, yn cynnwys cyflwyniadau ar 64 o brif storiau’r Beibl: sef Cyfres Powerpoint: Beibl Bach i Blant. Ar gyfer ei arddangos fel adnodd gweledol ar wal yr Ysgol Sul mae yna linell amser sy’n cynnwys 16 panel lliwgar yn cynrychioli cyfnodau gwahanol yn hanes y Beibl, sef Llinell Amser y Beibl.
Mae’r oedolion hefyd yn dilyn yr un trywydd am gyfnod o ddwy flynedd, ac eto mae 2 adnodd ar gael, sef addasiad Meirion Morris o lyfr John Stott Drwy’r Beibl, Drwy’r Flwyddyn a Cydymaith Stori Duw gan Huw John Hughes, sef cyfres o 92 gwers i fynd â ni trwy’r maes dros y 2 flynedd.
Credwn fel panel bod hwn yn gyfle gwych i gyflwyno Stori Fawr Duw i blant, ieuenctid ac oedolion o bob oed, gan bwysleisio cynllun achubol Duw ar gyfer ei fyd. Ar gyfer y plant oed cynradd cyhoeddwyd llyfryn hefyd, sef Stori Fawr Duw, sy’n gomic 32 tudalen, yn adrodd yn effeithiol iawn y stori fawr mewn ffordd gwbl gryno a syml – rhagflas perffaith ar gyfer cychwyn y gyfres. Mae’r adnoddau hyn i gyd ar gael o’ch siop Gymraeg leol neu’n uniongyrchol gan Cyngor Ysgolion Sul.
Cofiwch ein bod hefyd ar gael i’ch cynghori ar adnoddau ac ar unrhyw agwedd o waith yr Ysgol Sul – cofiwch gysylltu.
Pob bendith gyda’r gwaith,
Aled Davies
Cyfarwyddwr
Rhagfyr 2011
Ffurflen Archebu Cynllun Gwerslyfrau Stori Duw (PDF)
Manylion pellach ar gael drwy gysylltu â Cyngor Ysgolion Sul:
Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH
Ffôn: (01766) 819120 neu aled@ysgolsul.com