Cyhoeddwyd beibl.net gan elusen Gobaith i Gymru (GIG) a bu Arfon Jones ac eraill yn gyfrifol am gyfieithu a golygu’r testun newydd hwn. Ers i waith Gobaith i Gymru ddirwyn i ben yn 2019 trosglwyddwyd y gwaith i ofal y Cyngor Ysgolion Sul.
Cliciwch isod i ymweld a gwefan beibl.net lle mae modd darllen y testun a chael mynediad at adnoddau eraill:
beibl.net
Argraffiad iaith gyfoes / llafar beibl.net 2002/2015
Mae beibl.net yn agor Gair Duw i’r genhedlaeth ifanc. Mae’n gyfieithiad llafar syml, hawdd i’w ddarllen, o’r ysgrythurau. Mae’n galluogi pobl ifanc, dysgwyr y Gymraeg ac eraill, i ‘glywed’ a deall neges yr efengyl. Mae beibl.net yn gyfieithiad cwbl wreiddiol o’r Beibl. Dydy o ddim yn ddiwygiad o unrhyw fersiwn Gymraeg, nac yn gyfieithiad o unrhyw fersiwn Saesneg. Cafodd ei ysgrifennu’n bennaf gan Arfon Jones.
Cofiwch hefyd am ApBeibl sydd ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim i’ch ffôn/tabled.
http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9780564033270&tsid=9
Cyhoeddwyd fersiwn lliw i blant hefyd, sy’n cynnwys 365 o hanesion o’r Beibl gyda thestun Beiblaidd beibl.net
I brynu copi caled o’r Beibl ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781859947999&tsid=3
ARCHEBION BEIBL.NET I EGLWYSI AC YSGOLION SUL
Mae modd i Ysgolion Sul ac Eglwysi archebu copiau o’r tri argraffiad o beibl.net gan sicrhau prisiau gostyngol arbennig.
Yn ogystal â thestun llawn beibl.net ceir hefyd:
- Dolenni i 30 fideo (sydd ar gael ar YouTube) sy’n dadbacio themâu o’r Beibl.
- Cannoedd o elfennau rhyngweithiol drwy’r Beibl i gyd sy’n eich annog i gloddio’n ddyfnach.
- Gofod gwag er mwyn medru ysgrifennu, dwdlan a thynnu lluniau ar y dudalen.
- Cyflwyniad un dudalen i bob llyfr yn y Beibl, sy’n esbonio am beth mae’n sôn a sut mae’n ffitio i mewn i’r stori fawr.
- 32 tudalen liw o bethau allweddol i’w dysgu am y Beibl.
- Help gyda phynciau anodd, a gofod i gadw nodiadau personol.
Dyma Feibl sy’n helpu pobl ifanc i ganfod eu hymatebion eu hunain i neges oesol y Beibl mewn ffordd sy’n berthnasol i’w bywydau.
Ffilmiau beibl.net i bobl ifanc
I gyd-fynd â’r beibl newydd hwn mae Cymdeithas y Beibl wedi creu 30 o ffilmiau sy’n addas ar gyfer pobl ifanc i’w gwylio yn rhad ac am ddim.
Cliciwch YMA i fynd i sianel TCC i’w gweld.
Ydych chi’n adnabod unrhyw bobl ifanc Cymraeg eu hiaith fyddai’n hoffi gwybod mwy am y Beibl? Cymerwch gip ar beibl.net – i bobl ifanc, Beibl newydd i Ieuenctid, ar gael yn Gymraeg. Y bwriad yw helpu pobl ifanc i edrych, meddwl, dysgu, lliwio, gweithredu, creu – ac i’r
cyfan apelio at unrhyw berson ifanc, waeth pa ddull o ddarllen y Beibl sy’n cael ei ffafrio ganddynt.
Ein dymuniad yw i gyflwyno’r Beibl iddynt mewn ffordd sy’n berthnasol a diddorol, ac mewn iaith sy’n ddealladwy iddyn nhw.
Mae Beibl.net – i bobl ifanc ar gael am £19.99. Fodd bynnag mae modd cael copïau tan ddiwedd Rhagfyr am y prisiau canlynol:
1-2 copi £19.99 yr un (yn cynnwys cludiant)
3 copi neu fwy £17.50 yr un
Mae hyn yn bosib trwy gronfa nawdd Cyngor Ysgolion Sul a beibl.net.
Rhaid i bob archeb gyrraedd Cyngor Ysgolion Sul cyn Rhagfyr 31 2020.
Gellir trefnu eu cludo i fannau strategol yn rhad ac am ddim, neu codir £5 yr archeb os am eu postio trwy wasanaeth cwrier.
Os am archebu trwy’r post a thalu drwy siec lawrlwythwch y ffurflen isod a’i ddychwelyd gyda’ch taliad wedi atodi i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen. Archebu a thalu ar-lein trwy PayPal
Archebu 1 neu 2 gopi
(yn cynnwys cludiant)
yn cynnwys cludiant am ddim i ganolfan strategol yng Nghymru 3 copi neu fwy am £17.50 yr un
yn cynnwys cludiant courier am £5 ychwanegol
Dyma sampl o’r fersiwn lliw i blant:
Mae syniad pobl o beth mae cyfieithu’r Beibl yn ei olygu yn gallu bod yn gamarweiniol iawn weithiau. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae cyfieithu’r ysgrythurau bellach yn brosiect cydweithredol. Pwyllgorau sydd y tu ôl i lawer o gyfieithiadau – megis y Beibl Cymraeg Newydd, yr ESV, yr NIV, yr NLT ac yn y blaen. Er nad Pwyllgor oedd yn gyfrifol am beibl.net, dw i’n teimlo’n reit anghyfforddus pan fydd pobl yn sôn amdana i fely cyfieithydd. Er cydnabod fy mod yn bennaf gyfrifol am y gwaith, dw i’n tueddu gweld fy hun yn fwy fel ymchwilydd neu gydlynydd y prosiect. Y gwir ydy fod llawer iawn o bobl o wahanol rannau o’r byd wedi dylanwadu ar, a hyd yn oed gyfrannu at, y cyfieithiad. Dydy’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n siarad yr un gair o Gymraeg, ond gyda’r We Fyd-eang a’r holl adnoddau cyfrifiadurol sydd ar gael i ni heddiw, roeddwn yn gallu elwa ar eu dealltwriaeth o’r testun gwreiddiol, eu harbenigedd yn y maes a’u hawgrymiadau.
Roedd nifer dda o Gymry wedi cyfrannu oriau lawer o waith i’r prosiect hefyd. Alla i ddim peidio â chyfeirio at un yn arbennig, sef Angharad Roberts, o Drefor a oedd yn gyfrifol am ddrafft cyntaf wyth o lyfrau’r Hen Destament – 1 a 2 Samuel, 1 a 2 Brenhinoedd, 1 a 2 Cronicl, Ruth a Seffaneia. Ac roedd eraill wedi bod yn darllen drafftiau, cynnig awgrymiadau a chywiro gwallau – rhai ohonyn nhw’n arbenigo yn y Gymraeg fel ail iaith, eraill yn hyddysg iawn yn y testun Beiblaidd, heb sôn am nifer o ddysgwyr a phobl ifanc. Un ffrind da wnaeth ddarllen drafftiau pob un o’r 66 llyfr oedd cyn-Ymgynghorydd Addysg Ddiwinyddol Tearfund, sef Dewi Arwel Hughes.
Ond sut dechreuodd y cwbl?
Yn ôl yn yr wythdegau rôn i’n gwasanaethu yn Swyddog Ieuenctid Undeb yr Annibynwyr, ac yn teithio ar hyd a lled Cymru. Un o brif ‘gwynion’ pobl ifanc bryd hynny oedd eu bod yn cael y Beibl yn anodd i’w ddeall. Dyna pryd yr eginodd y weledigaeth o baratoi cyfieithiad deinamig, llafar o’r Beibl. Dw i’n cofio sgwrsio gyda phobl oedd yn llawer mwy hyddysg na mi yn y Roeg a’r Hebraeg, a’u hannog i ystyried drafftio cyfieithiad o’r fath, ond ddaeth dim o hynny ar y pryd.
Ar ôl gadael y coleg rôn i fy hun wedi dechrau meithrin diddordeb eithaf brwd yn yr ieithoedd Beiblaidd, a’r diddordeb hwnnw wedi tyfu dros y blynyddoedd. Yna, yn y nawdegau pan o’n i’n gweithio yn Ysgrifennydd y Cynghrair Efengylaidd yng Nghymru, ces y fraint o gydlynu cyfraniad y ‘Gweithgor Efengylaidd’ i’r broses o ddiwygio’r Beibl Cymraeg Newydd. A dyna pryd yr aildaniodd y weledigaeth o greu cyfieithiad mwy llafar.
Y bwriad gwreiddiol gen i oedd drafftio ‘cyfieithiad’ o lyfrau’r Testament Newydd, yna ei osod ar y We yn y gobaith o hybu trafodaeth ar-lein am y ffordd orau i gyfieithu’r testun Beiblaidd i iaith bob dydd. Er i mi dderbyn llawer awgrym gan unigolion, wnaeth y drafodaeth oeddwn i’n dyheu amdani ddim datblygu. Trodd y prosiect yn ymgais i ysgrifennu rhywbeth fyddai’n cael ei ystyried yn ‘bont’ i helpu pobl ifanc i ddeall neges y Beibl yn well. Er fy mod yn gweithio o’r Roeg wreiddiol roeddwn wedi dewis galw beibl.net yn ‘aralleiriad’.
Roeddwn mewn cysylltiad agos â Chymdeithas y Beibl ers dechrau’r prosiect o ddiwygio’r Beibl Cymraeg Newydd. A dyna pryd y dois yn ymwybodol o’r adnoddau cyfrifiadurol oedd ar gael i helpu cyfieithwyr y Beibl ar hyd a lled y byd. Dechreuais gyda rhaglen o’r enw Translator’s Workplace, ac yna’n ddiweddarach cefais y rhaglen gyfrifiadurol Paratext (adnodd cyfrifiadurol a ddatblygwyd gan yr United Bible Societies). Tua’r adeg yna, dan arolygaeth Ymgynghorydd Cyfieithu yr UBS dros Ewrop, perswadiwyd fi fod y gair ‘cyfieithiad’ yn fwy priodol nag ‘aralleiriad’.
Beth am y broses o gyfieithu?
Gan ddefnyddio’r rhaglen Paratext, rôn i’n drafftio’r hyn fyddwn i’n ei alw yn gyfieithiad bras o lyfr; yna sawl mis yn ddiweddarach byddwn yn ailymweld â’r llyfr a gwneud gwaith mwy manwl ar faterion fel cysondeb a chywirdeb. Roedd llawer o’r gwaith yma yn ffrwyth ymchwil a chyngor academyddion a phobl eraill o wahanol rannau o’r byd oedd yn cyfieithu’r Beibl – drwy flogiau, trafodaethau ar-lein, papurau, erthyglau ac esboniadau Beiblaidd manwl. Wedi hynny roeddwn i’nanfon ail ddrafft at ddarllenwyr, a’u sylwadau a’u hymateb nhw yn arwain wedyn at ddrafft pellach oedd yn cael ei osod ar wefan www.beibl.net. Roedd ymwelwyr â’r wefan yn cael eu gwahodd i gynnig sylwadau ar y cyfieithiad hefyd, a chafodd llawer iawn o newidiadau pellach eu gwneud dros gyfnod o amser.
Ar ôl cwblhau’r Testament Newydd a chreu gwefanwww.beibl.netyn 2002, roedd pobl yn gofyn dau gwestiwn yn gyson. Yn gyntaf, ‘Wyt ti’n bwriadu gwneud yr Hen Destament?’ ac yn ail, ‘Pryd gawn ni lyfr?’ Rôn i’n ansicr iawn o’r syniad o’i gyhoeddi ar ffurf llyfr; ond derbyniais fod galw gwirioneddol am fersiwn tebyg o’r Hen Destament. Es ati i geisio dod o hyd i bobl a allai helpu, a mynd ati fy hun i astudio Hebraeg am dair blynedd.
Cyfieithu heb ddehongli?
Un peth dw i wedi dod yn argyhoeddedig ohono wrth wneud y gwaith ydy fod elfen o ddehongli yn hanfodol i unrhyw gyfieithu. Mae’n rhaid i’r cyfieithydd benderfynu beth sy’n cael ei ddweud yn yr iaith wreiddiol, ac ar sail y ddealltwriaeth honno, ceisio cyfleu’r ystyr mor ffyddlon ac mor glir ag sy’n bosib yn yr iaith y mae’n cyfieithu iddi. Mae beibl.netyn gyfieithiad eithaf llythrennol weithiau, ond ar adegau eraill mae’n llawer mwy rhydd a deinamig. Pam? Oherwydd weithiau mae cyfieithiad llythrennol yn gallu bod yn ddryslyd, a hyd yn oed yn gamarweiniol. Dewisais beidio â chyfieithu idiomau Hebraeg yn rhy llythrennol, a phenderfynais osgoi unrhyw amwysedd. Wrth wneud hynny roeddwn yn ceisio cyfleu beth oeddwn i’n ei gredu oedd ystyr mwyaf tebygol y testun gwreiddiol yn ei gyd-destun. Rôn i hefyd yn ceisio osgoi defnyddio gormod o ‘jargon’ Cristnogol ac yn mynnu gofyn y cwestiwn, ‘Fydd hwn yn gwneud unrhyw sens i bobl y tu allan i’n heglwysi?’
Un broblem ddiddorol y bu’n rhaid ei hwynebu oedd bod yr iaith lafar yn amrywio o un rhan o Gymru i’r llall. Felly, penderfynais anelu at ryw fath o gyfaddawd rhwng y Gogledd a’r De. Roedd y penderfyniad hwn yn adlewyrchu’r bwriad gwreiddiol, sef mai adnodd ‘ar-lein’ oedd beibl.net, ac y dylai darllenwyr lawrlwytho penodau a newid rhywfaint ar yr iaith a’r eirfa i weddu i’w hardal nhw.
Mae’r Rhagarweiniad Cyffredinol i’r Beibl Cymraeg Newydd (Argraffiad Diwygiedig) (2004) yn cydnabod ‘… yr angen dybryd am fersiwn o’r Beibl â’i iaith a’i arddull yn nes at yr hyn a arferir ar lafar, ac a fyddai felly’n fwy rhydd a phoblogaidd ei naws…’ Dw i’n gobeithio fod beibl.net yn un ymdrech i ddiwallu’r angen hwnnw, ac y gall Duw ei ddefnyddio i arwain pobl newydd i berthynas real ag ef ei hun. Dw i’n dyheu am gael gweld pobl Cymru a’r iaith Gymraeg yn moli Duw unwaith eto ac yn dathlu ei gariad anhygoel tuag aton ni yn Iesu ei Fab.
Cyfieithu’r Beibl a Gweledigaeth beibl.net – Rhai ystyriaethau…
Wrth drafod y syniad o baratoi cyfieithiad newydd o’r Ysgrythur yn y Gymraeg, y cwestiwn cyntaf mae’n rhaid i ni ei ofyn ydy sut yn union mae deall y gair ‘cyfieithiad’, a beth ydy’r gwahaniaeth rhwng cyfieithiad ac aralleiriad?
Sut mae diffinio ‘cyfieithiad’? Mae wedi ei awgrymu nad ydy’r Beibl Cymraeg Newydd (Argraffiad Diwygiedig) yn gyfieithiad gan mai diweddaru, cywiro a chysoni y Beibl Cymraeg Newydd (1988) a wnaethpwyd. Yna mae rhai yn dweud nad ydy beibl.net yn gyfieithiad o gwbl, a’i fod yn ‘ddim mwy nag “aralleiriad”’.
Wedyn, sut mae diffinio ‘aralleiriad’? Pan ddechreuais i weithio ar baratoi drafftiau cynnar o efengylau beibl.net, roedd yna bobl yn awgrymu y byddai’n llawer rhwyddach mynd ati i baratoi cyfieithiad rhydd o’r aralleiriad Saesneg The Message yn y Gymraeg. Doeddwn i’n bersonol ddim yn cefnogi’r weledigaeth honno, er fy mod yn gwerthfawrogi ac yn cael bendith o ddarllen rhannau o’r Message.
Y Ffordd Ymlaen
Oes angen cyfieithiad newydd arall yn y Gymraeg? Dydw i ddim yn credu fod yna’r fath beth â ‘Beibl Aur’ gwreiddiol, efengylaidd, sy’n ateb pob gofyn.
Cefais i’r fraint o gydlynu’r Gweithgor Efengylaidd oedd yn rhan o’r broses honno i ddiwygio’r BCN. Rydym yn ddyledus iawn i’r diweddar Gordon Macdonald, Cecil Jenkins ac Iwan Rhys Jones am eu gwaith manwl a thrwyadl. Derbyniwyd 73% o ddiwygiadau’r Gweithgor. Er, dw i’n bersonol yn credu y gallai BCND fod wedi bod yn gyfieithiad gwell eto petai’r Panelau wedi cytuno i ddiwygio a symleiddio’r iaith. Roedd yr amharodrwydd i wneud hynny yn un peth wnaeth fy ysgogi i weithio ar beibl.net. Rhaid i mi gydnabod mai fi oedd yn gyfrifol am ei alw yn aralleiriad, a’r rheswm am hynny oedd nad oeddwn eisiau iddo gael ei weld fel rhywbeth oedd yn cystadlu hefo’r BCND. Y weledigaeth oedd creu ‘pont’ i helpu pobl ifanc a dysgwyr i ddeall yr Ysgrythur.
Daeth Cymdeithas y Beibl i glywed am y gwaith, a chynigiwyd adnoddau cyfrifiadurol a hyfforddiant i’m helpu gyda’r gwaith. Dydy’r rhaglenni cyfrifiadurol hyn ddim ond ar gael i bobl sy’n gweithio ar brosiectau cyfieithu cydnabyddedig. Felly roedd rhaid cael cefnogaeth y Cymdeithasau Beibl Unedig, a chefais y fraint o weithio dan arolygaeth Dr Simon Crisp, oedd ar y pryd yn Ymgynghorydd Cyfieithu gyda’r UBS. Bues i’n cyfarfod hefo fo i drafod dull y cyfieithu, a gweddau ar y cyfieithiad ei hun, a fo oedd yr un a wnaeth fynnu mai nid aralleiriad oedd beibl.net ond cyfieithiad, ac y dylwn i ei alw yn gyfieithiad.
Ar y pryd roedd yna bolisi o geisio anelu at ddau gyfieithiad ym mhob iaith – un yn fwy llythrennol a’r llall yn fwy rhydd neu ddeinamig. Mae yna gryfderau a gwendidau i’r naill ddull o gyfieithu a’r llall. Mae cyfieithiad llythrennol yn ein helpu i weld beth yn union mae’r Hebraeg a’r Roeg yn ei ddweud, ond yn tueddu arwain at arddull a geirfa annaturiol ac idiomau anghyfarwydd. Mae’r math o iaith fyddwn i’n ei galw yn ‘Beiblaeg’ yn cadw ffurfiau gramadegol y Roeg a’r Hebraeg, ond at ei gilydd yn diystyru sut mae pobl yn siarad bob dydd.
Cyfieithiad rhydd a deinamig ydy beibl.net. Mae’r pwyslais ar fynegi’r ystyr yn hytrach na cheisio cadw’n fanwl at ffurfiau gramadegol y gwreiddiol. Mae hyn yn annatod yn golygu elfen o ddehongli. Roeddwn yn cydnabod hynny pan rois y Testament Newydd ar-lein yn 2002 ac yn gwahodd pobl i gynnig beirniadaeth, gwelliannau ac awgrymiadau.
Sut aethpwyd ati?
Roeddwn yn gweithio o’r iaith Roeg a’r Hebraeg, gyda’r holl adnoddau cyfrifiadurol a’r wybodaeth roedd rhaglen fel Paratext yn eu cynnig i mi. Roeddwn hefyd yn edrych ar rychwant eang o gyfieithiadau, ac ar esboniadau oedd yn dadansoddi’r ieithoedd gwreiddiol, yn arbennig cyfrolau y Word Biblical Commentaries a’r New International Greek Testament Commentary. Roeddwn hefyd yn adeiladu ar y llu o nodiadau a thrafodaethau oedd yn ganlyniad gwaith y Gweithgor Efengylaidd ar ddiwygio’r BCN. Roedd aelodau’r Gweithgor wedi edrych yn fanwl ar bob adnod o Genesis i Ddatguddiad.
Y broses yn syml oedd 1. Ysgrifennu drafft cyntaf bras o lyfr, yna ei adael am rai misoedd. 2. Mynd yn ôl ato’n ffres i baratoi ail ddrafft mwy manwl. 3. Ei anfon at ddarllenwyr 4. Paratoi trydydd drafft ar sail sylwadau’r darllenwyr 5. Ei ddarllen ar lafar i geisio sicrhau ei fod yn llifo 6. Ei osod ar y We 7. Newidiadau pellach achlysurol. Roedd gen i egwyddor o geisio sicrhau fod pedwar categori o bobl yn darllen drafft o bob llyfr: 1. Arbenigwr Beiblaidd 2. Arbenigwr ieithyddol (Cymraeg fel ail iaith) 3. Dysgwr 4. Person ifanc. Darganfyddais yn ddiweddar fod o leiaf 77 o Gymry Cymraeg a dysgwyr wedi cyfrannu at y broses yma i ryw raddau neu’i gilydd, er bod rhaid i mi dderbyn y cyfrifoldeb am y penderfyniad terfynol bob tro.
Diolch i’r unigolion hynny i gyd am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth ar hyd yr 17 mlynedd y bues i’n gweithio ar y prosiect. A diolch yn arbennig i ddau: fy ffrind agos Dewi Arwel Hughes, ddarllenodd drwy’r cwbl yn fanwl i mi, ac Angharad Roberts, Trefor, wnaeth baratoi’r drafftiau cyntaf o lyfrau Ruth, 1, 2 Samuel, 1, 2 Brenhinoedd, 1, 2 Cronicl a Seffaneia. Fi aeth ati wedyn i gysoni arddull y llyfrau hynny wedyn hefo arddull gweddill beibl.net.
Rhaid cydnabod hefyd gyfraniad y trafodaethau rhyngwladol oedd i’w cael ar y We – yn arbennig gwaith Wayne Leman o Wycliffe a’i flog betterbibles.wordpress.com a’r Bible Translation Discussion Group. Eraill y gallwn eu henwi fyddai Peter Kirk, Mike Sangrey, Mark Strauss, David Bivin a’r holl adnoddau ar wefan Jerusalem Perspective, a hefyd ysgrifau a gwaith Ann Nyland o Awstralia, ac eraill. Yna, roedd yr adnoddau cyfrifiadurol gen i i helpu i gysoni’r cyfieithiad e.e. lle mae’r geiriad yn y Roeg yn union yr un fath mewn dwy neu dair efengyl, roeddwn yn gallu sicrhau fod geiriad y cyfieithiad yn union yr un fath. Lle roedd mân wahaniaethau yn y Roeg roeddwn yn gallu ceisio adlewyrchu’r gwahaniaethau hynny yn y cyfieithiad i ryw raddau.
O bryd i’w gilydd, lle roedd y BCND yn cynnig un ddealltwriaeth o air neu gymal arbennig, a bod dehongliad gwahanol yn gallu bod yr un mor ddilys, roeddwn yn aml yn cynnig y ‘dehongliad gwahanol’ hwnnw yn beibl.net. Enghraifft o hynny fyddai’r cymal pistis Iesou (BCND ‘ffydd yn Iesu’ ond beibl.net ‘ffyddlondeb Iesu’).
Y Gymraeg
O ran y Gymraeg, fe benderfynais geisio dilyn y canllawiau sydd i’w cael mewn llyfryn gyhoeddwyd gan CBAC rai blynyddoedd yn ôl: “Ffurfiau Ysgrifenedig Cymraeg Llafar”. Ond roeddwn hefyd yn gohebu â phobl oedd yn dysgu ar gyrsiau Wlpan, a chefais gyngor gwerthfawr gan bobl fel Bobi Jones, Helen Prosser a Bethan Clement (ACCAC). Y broblem fawr yn aml oedd penderfynu rhwng ffurfiau deheuol a ffurfiau gogleddol – ‘fo’ neu ‘fe’, ‘gyda’ neu ‘hefo’, ‘i fyny’ neu ‘lan’, ‘allan’ neu ‘mâs’ ac yn y blaen. Un o’r pethau wnaeth fy nghalonogi i wrth gael ymateb pobl oedd y ffaith fod pobl o’r Gogledd yn cwyno ei fod yn ‘rhy ddeheuol’, a phobl y De yn cwyno ei fod yn ‘rhy ogleddol’.
Wnes i erioed fwriadu i beibl.net gael ei argraffu (fel mae ei enw yn awgrymu!) Roeddwn yn ei weld yn adnodd electronig y gallai pobl ei lawrlwytho a’i addasu’n ieithyddol i siwtio eu tafodiaith leol. Roeddwn hefyd wedi gobeithio cael llawer mwy o ymateb (a beirniadaeth) nag a ges i, ac yn awyddus i droi y drafodaeth honno yn ‘broses gydweithredol’ o ddiwygio a gwella’r cyfieithiad. Ond nid dyna ddigwyddodd, ac yn y diwedd roedd y galw cynyddol amdano mewn print yn golygu nad oedd gen i ddewis. Dw i’n credu fod y derbyniad rhyfeddol gafwyd iddo yn dangos un peth yn glir – mai ystyfnigrwydd yw un o’m problemau mawr i.