Bywyd â Phwrpas

Mae The Purpose Driven Life gan Rick Warren yn cael ei ystyried yn fyd-eang fel clasur Cristnogol cyfoes. Bellach, mewn partneriaeth gyda Chymanfa Bedyddwyr Arfon a Gweinidogaeth ryngwladol Rick Warren mae cyfieithiad safonol Cymraeg ar gael.

Cyflwyniad i’r llyfr
Bydd Bywyd â Phwrpas yn dy helpu i ddeall cynllun anhygoel Duw ar dy gyfer yma ar y ddaear ac i dragwyddoldeb. Bydd Rick Warren yn dy arwain ar daith ysbrydol 40-diwrnod a fydd yn dy helpu i ateb y cwestiwn, “Pam ar y ddaear ydw i yma?” Bob dydd, byddi’n dysgu mwy am sut y mae Duw wedi dy greu yn unigryw i bwrpas yr wyt ti yn unig yn medru ei gyflawni.

Mae Bywyd â Phwrpas yn cynnig doethineb o’r Beibl a fydd yn dysgu i ti pam mae dy fywyd o bwys. Bydd yn dangos i ti sut mae Duw am helpu i leihau dy straen, canolbwyntio dy egni, symleiddio dy benderfyniadau a dy baratoi ar gyfer tragwyddoldeb. Bydd ei neges oesol yn dy ysbrydoli a dy annog i fyw bywyd arwyddocaol.

Cyflwyno’r awdur
RICK WARREN yw’r bugail a sefydlodd Eglwys Saddleback yn Ne California sydd â safleoedd mewn llawer o brif ddinasoedd ar draws y byd. Ef yw awdur Bywyd â Phwrpas, sydd wedi ei gyfieithu i lawer o ieithoedd ac sydd wedi gwerthu 50 miliwn o gopïau ym mhob fformat.

Cyflwyno’r cyfieithydd
Yn ddarllenwr brwd, mae Arwel E Jones wedi bod yn ddiacon ac un o arweinwyr Eglwys Caersalem Caernarfon ers degawdau ac mae ganddo brofiad helaeth yn cyfieithu deunyddiau Cristnogol ac emynau cyfoes. Derbyniodd gais i ymgymryd â’r gwaith o gyfieithu’r llyfr hwn ac wrth gyflawni’r dasg daeth i werthfawrogiad newydd ei hun o’r clasur cyfoes hwn. Diolch iddo am ymroi i fynd ati i gyfieithu’r gyfrol er mwyn sicrhau bod cyfieithiad Cymraeg o’r gyfrol bwysig hon gennym.

Sut i gael gafael ar yr eLyfr
Mae gweinidogaeth Rick Warren yn dosbarthu y llyfr ar ffurf digidol AM DDIM. Gellir cael gafael ar y copi digidol YMA.

Sut i archebu copi caled
Gellid archebu copiau unigol yn uniongyrchol o wefan gweinidogaeth Rick Warren drwy glicio yma.

Neu, gellid archebu 10 copi am £60 drwy law Ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon, Aled Davies, drwy gysylltu ag ef: aled@ysgolsul.com / ‭07894 580192‬.