Darllen y Beibl gyda phlant ac ieuenctid

Darllen y Beibl
Elfen bwysig o ddatblygiad ffydd plant a phobl ifanc yw dysgu darllen a deall y Beibl. Yn yr adran hon ceir rhai syniadau, canllawiau ac awgrymiadau o Feiblau gwahanol. Cofiwch hefyd bod modd ‘darllen’ y Beibl trwy wrando a gwylio. Erbyn hyn mae modd gwrando ar lawer o gynnwys beibl.net ar wefan ac ar ApBeibl. Hefyd mae llawer o ffilmiau Beiblaidd ar gael ar y we i’w gwylio am ddim. Ewch i…

Ond wedi dweud hynny, mae’n bwysig bod plant yn deall bod y Beibl yn lyfr arbennig – yn Air Duw, ac felly o oed cynnar mae’n syniad da i’w cyflwyno i’r syniad o un llyfr sy’n cynnwys holl stori Duw. Gellir cychwyn y daith gyda Beibl lliw, yna defnyddio copi o beibl.net mewn 365 o storïau, sy’n cynnwys 365 darn o’r Beibl yn hytrach nag aralleiriad, ac yna symud ymlaen yn y pendraw i gyflwyno copi cyflawn o beibl.net iddynt.

Mae nifer o lyfrau hefyd y gellir eu defnyddio ochr yn ochr â’r Beibl, sy’n cynnig canllawiau ac esboniad ar gynnwys llyfrau, heb son am gynlluniau darllen addas ar gyfer plant.

Cofiwch am wefan www.beibl.net lle mae testun cyfan y Beibl ar gael a llawer o nodiadau a chanllawiau sy’n gymorth i ddarllen y Beibl.
Cofiwch hefyd am App Beibl sydd ar gael ar y ffôn clyfar a thabledi (iPad etc…).
Mae gan YouVersion Beibl i Blant ar eu gwefan hefyd.
Dyma wefan sy’n cynnwys canllawiau a syniadau am ddarllen y Beibl yn Saesneg: http://www.going4growth.com/growth_in_faith_and_worship/bible
Sut i ddarllen y Beibl?
Dyma ganllaw hwylus yn rhoi cynghorion ar sut i gychwyn darllen y Beibl:
Sut i ddarllen y Beibl (PDF)
Dyma ffilm fer sy’n ganllaw hwylus ar sut i gychwyn darllen y Beibl:
Sut ddylwn i ddechra darllen y Beibl (Lawrlwytho MP4)
Cynllun Darllen ar gyfer Ieuenctid
Rhai adnoddau defnyddiol