Derbyn a Chonffermasiwn

Pwysigrwydd paratoi ar gyfer aelodaeth

Tasg eithriadol bwysig, ac eto tasg hynod anodd, yw cynnal Dosbarth Derbyn neu Ddosbarth Cymunwyr Ifanc – mor anodd fel nad ydi pob gweinidog yn cynnal dosbarth o unrhyw fath, dim ond bodloni ar un sgwrs fer anffurfiol wythnos neu ddwy o flaen llaw. Amcan dosbarth yw cynorthwyo rhai sydd wedi dod i oed i benderfynu drostynt eu hunain a ydynt yn dymuno dod yn aelodau cyflawn o’r Eglwys ai peidio.

Hwy eu hunain sydd i benderfynu a ydynt yn barod i wneud proffes o ffydd yn Iesu Grist a dod yn rhan lawn o deulu’r ffydd, nid eu rhieni na neb arall o’r teulu sydd i benderfynu drostynt! Gan mor bwysig yw iddynt ddod i benderfyniad cyfrifol, mantais i hyrwyddo trafodaeth yw i bob aelod o’r dosbarth fod â chopi i’w galluogi i baratoi ar gyfer pob cyfarfod a chymryd rhan yn rhydd ym mhob trafodaeth.

Mae llwyddiant neu fethiant dosbarth yn dibynnu ar fedru cychwyn a chynnal trafodaeth. Does dim byd gwaeth na chynnal dosbarth o chwech, dyweder, a’r un o’r chwech yn barod i ddweud dim! Mae bod â chopi bob un yn golygu y gellir trefnu i aelodau ddweud eu barn ar bwnc neu ddau o flaen llaw.

Llawlyfr sydd wedi ei baratoi yw ‘Derbyn a Dilyn Iesu’ gan Elfed ap Nefydd Roberts sy’n cynnwys 10 sesiwn cyflawn:
– Pam cael eich derbyn?
– Pam credu yn Nuw?
– Pwy ydi Iesu Grist?
– Y Groes a’r Atgyfodiad
– Pwy ydi’r Ysbryd Glân?
– Pam yr Eglwys?
– Ydi’r Beibl yn wir?
– Ydi gweddïo’n bwysig?
– Addoli a’r sacramentau
– Byw y bywyd cristnogol

Derbyn a dilyn Iesu: Cwrs paratoi i gymunwyr ifanc Elfed ap Nefydd Roberts
Dyma adnodd ar gyfer gweinidogion ac arweinwyr, sy’n lawlyfr hwylus i baratoi pobl ifanc ar gyfer dod yn aelodau cyflawn o eglwys Iesu Grist.

Dilyn Iesu gan James Jones
(Addasiad Cymraeg gan Jim ac Edwina Clarke)
Arweiniad cryno mewn 31 o gamau i ddysgeidiaeth Gristnogol sylfaenol. Darluniau du-a-gwyn. Addas ar gyfer pobl ifanc a rhai hŷn. Cliciwch YMA i brynnu’r llyfr ar Gwales.


Cred a Bedydd gan Victor Jack
Hefyd ar gyfer paratoi pobl o draddodiad y Bedyddwyr mae cwrs 6 wythnos ‘Cred a Bedydd’ gan Victor Jack ar gael o Swyddfa Undeb Bedyddwyr Cymru yng Nghaerfyrddin.Manylion cyswllt –
Ffôn: 0345 222 1514
Ebost: post@ubc.cymru

Trefn Gwasanaeth
Mae gan bob enwad a thraddodiad ei ffurf arbennig o wasanaeth. Mae’r rhain ar gael yr enwadau perthnasol. Atodir yma enghraifft o wasanaeth allan o’r llyfr ‘Molwch yr Arglwydd’, sef llyfr gwasanaeth yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr.

Gwasanaeth derbyn aelodau (PDF)

Y Gyffes Fer o’n Ffydd
Y Gyffes Fer o’n Ffydd

Credwn yn Nuw Dad Hollalluog,
creawdwr a llywodraethwr pob peth.

Credwn yn Iesu Grist,
ei unig-anedig Fab,
ein Harglwydd a’n Gwaredwr.
Trwy ei fywyd, ei farwolaeth ar y groes, a’i atgyfodiad,
gorchfygodd bechod ac angau,
gan faddau i ni ein pechodau,
a’n cymodi â Duw.

Credwn yn yr Ysbryd Glân.
Trwyddo ef y mae Crist yn preswylio yn y credinwyr,
gan eu sancteiddio yn y gwirionedd.

Credwn yn yr Eglwys,
corff Crist a chymdeithas y saint;
yn yr Ysgrythurau Sanctaidd,
yng ngweinidogaeth y Gair a’r Sacramentau.

Credwn yn nyfodiad teyrnas Dduw,
ac yng ngobaith gwynfydedig y bywyd tragwyddol,
trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

Credwn mai diben pennaf dyn
yw gogoneddu Duw,
a’i fwynhau byth ac yn dragywydd.

Pam cael eich derbyn?
1. Pwrpas Dosbarth Derbyn
Pwrpas Dosbarth Derbyn ydi i’ch helpu chi i benderfynu ydych chi am ddod yn aelod ‘cyflawn’ o’r eglwys Gristnogol. Cyn gwneud hynny rhaid trafod beth ydi ystyr ‘cael eich derbyn’. Mae rhai eglwysi yn defnyddio’r gair ‘conffirmio’ neu’n sôn am am wneud ‘proffes o ffydd’. Gwahanol dermau i ddisgrifio’r un weithred ydi’r rhain. Mae dod yn aelod cyflawn yn golygu eich bod yn derbyn Iesu Grist yn Waredwr ac yn Arglwydd ar eich bywyd a’ch bod am fod yn rhan o’r gymuned o rai sy’n ei broffesu a’i ddilyn, sef yr eglwys.

2. Cadarnhau addewidion eich Bedydd neu Gyflwyno
Fe ddaethoch yn rhan o deulu’r eglwys pan gawsoch chi eich bedyddio neu’ch cyflwyno. Ond gan i hynny ddigwydd pan oeddech yn rhy fach i ddeall beth oedd yn digwydd, fe wnaeth eich rhieni addewidion ar eich rhan. Yn bennaf, roedden nhw’n addo eich magu yn y ffydd Gristnogol er mwyn i chi, ymhen amser, fedru penderfynu drosoch eich hunain a oeddech am dderbyn a dilyn Iesu. Wrth gael eich derbyn rydych yn cyflawni ac yn cadarnhau yr hyn a wnaed drosoch pan gawsoch eich bedyddio. Rydych yn dweud ‘Ie’ i’r hyn a wnaeth eich rhieni ar eich rhan bryd hynny.

3. Dylanwad eglwys a chartref
Felly, eich cyffyrddiad cyntaf â’r eglwys oedd eich bedydd neu eich cyflwyno. Ond o hynny ymlaen efallai buoch yn dod i’r Ysgol Sul ac i’r capel ac yn troi ymysg plant a phobl ifanc a phobl mewn oed o fewn gweithgareddau’r eglwys, a thrwy’r cysylltiadau yna fe ddaethoch o dan ddylanwad addoliad a ffydd a bywyd yr eglwys.
Ond un dylanwad yn unig ymhlith llawer o rai eraill oedd dylanwad yr eglwys. Bu llawer o ddylanwadau eraill ar waith ar eich bywyd a’ch cymeriad – rhieni a chartref, ffrindiau, ysgol, athrawon, teledu, ffilmiau a fideos, diwylliant ieuenctid, a nifer o ffactorau eraill. Dydym ni ddim yn ymwybodol o bob un o’r dylanwadau yma na faint y maen nhw’n effeithio arnom ni. Yr hyn sy’n bwysig ydi ein bod yn dysgu gwahaniaethu rhwng dylanwadau sy’n dda ac yn llesol a dylanwadau sy’n cael effaith ddrwg arnom ni.
Wrth gael eich derbyn rydych chi’n cydnabod gwerth dylanwad yr eglwys a’ch cartref a’ch rhieni yn rhoi i chi argyhoeddiadau a safonau a gwerthoedd arbennig i’w derbyn a’u dilyn.

4. Proffesu ffydd yn Iesu
Un amod pwysig cael ein derbyn ydi ein bod ni’n credu yn Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr ein bywyd. Byddwn yn trafod ystyr hyn yn llawnach wrth i ni fynd trwy’r cwrs. Nid yw proffesu ffydd yn Iesu Grist yn golygu ein bod ni, o angenrheidrwydd, yn medru derbyn popeth y mae Cristnogaeth wedi ei ddysgu am Iesu erioed. Mae Iesu yn fwy na’n dehongliad ni ohono. Ystyr proffesu ffydd yn Iesu ydi dweud ein bod yn credu mai trwy Iesu y down ni i adnabod Duw, i adnabod ein hunain a’n hangen, ac i ganfod ystyr a chyfeiriad i’n bywyd trwy ei ddilyn ef. Mae gennym i gyd arwyr a phobl dda yr ydym yn eu hedmygu ac am eu hefelychu. Ystyr bod yn Gristion ydi cydnabod mai Iesu ydi’r un sy’n hawlio’n hymrwymiad a’n ffydd a’n hufudd-dod ni yn fwy na neb arall.

5. Dod yn ‘Gyflawn’ Aelod
Er i ni fod yn rhan o’r eglwys ers ein bedydd, wrth benderfynu cael ein derbyn rydym ni’n ymrwymo i chwarae’n rhan yn llawn o fewn ei bywyd. Mae dod yn ‘gyflawn’ aelod yn golygu y cawn bleidleisio, dal swyddi yn yr eglwys, cael ein dewis ar bwyllgorau, ac ati. Mae gan bob un ohonom ddoniau y medrwn eu defnyddio i hybu gwaith yr eglwys ac y mae angen ein cyfraniad ni. Ar yr un pryd mae cyfrifoldeb arnom ni i fod mor ffyddlon ag y medrwn ni i wasanaethau a gweithgarwch yr eglwys a chefnogi gwaith a thystiolaeth ein heglwys leol.
Nid peth unigolyddol ydi’r bywyd Cristnogol. Fedrwch chi ddim byw y bywyd Cristnogol ar eich pen eich hun, mwy nag y medrwch chi chwarae pêl-droed yn iawn ar eich pen eich hun. Rhaid bod yn aelod o’r tîm. Yn yr un ffordd, fedrwn ni ddim dilyn Iesu Grist heb fod yn rhan o’r gymdeithas sy’n cynrychioli Crist yn y byd a heb gymryd ein lle o fewn cwmni ein cyd-Gristnogion.

GWEDDI
Arglwydd Iesu,
diolch i ti am bob dylanwad da a fu arnom:
am gariad a gofal rhieni,
am gwmni ffrindiau,
am ffydd a chymdeithas dy eglwys.

Helpa ni i weld dy law di ar waith yn y dylanwadau hyn,
i ymateb i’th gariad mawr tuag atom,
i’th dderbyn i’n bywyd yn Arglwydd ac yn Waredwr,
ac i gymryd ein lle o fewn teulu dy bobl. Amen.

Anrhegion i'w cyflwyno
Bydd llawer o eglwysi yn prynu llyfr fel cofnod o achlysur bedydd/derbyn/conffyrmasiwn. Dymuniad llawer yw cyflwyno copi o Feibl Cymraeg. Rydym yn awgrymu y byddai beibl.net neu’r fersiwn ieuenctid o beibl.net yn fwy addas o ran ieithwedd. Fodd bynnag, bydd llawer hefyd yn cyflwyno copïau o’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig (2004). Opsiwn arall i rai fydd cyflwyno copi o Ganeuon Ffydd iddynt gan hyderu y byddant yn ei ddefnyddio wrth fynychu oedfaon.

Mae nifer o lyfrau defnyddiol iawn i helpu pobl ifanc ar eu taith ffydd ar gael. Dyma ddetholiad o rai o’r llyfrau rydym yn eu cymeradwyo:

42 Diwrnod i Fynd i’r Afael a Dilyn Iesu… ac Yna ei Basio Ymlaen
Cyfrol ar gyfer ieuenctid heddiw yn cyflwyno’r ffydd Gristnogol mewn 42 o benodau cryno. Mae hon yn gyfrol ddelfrydol i helpu pobl ifanc ar eu taith ffydd. Mae’n cynnwys adrannau ar bwysigrwydd themau fel darllen y Beibl, perthyn i eglwys, cyfrannu a rhoi ac hefyd yn ymdrin a llawer o bynciau megis maddeuant, cariad, didwylledd a rhyddid.
Dolen i brynu’r gyfrol ar gwales.

Antur Trwy’r Beibl
Cyflwyniad darluniadol lliw llawn i hanesion Beiblaidd mewn arddull fywiog ac iaith gyfoes, yn cynnwys pytiau byrion o wybodaeth hanesyddol ac esboniadol diddorol am ddigwyddiadau a chymeriadau’r Beibl, o Lyfr Genesis i Lyfr y Datguddiad, ynghyd â ffotograffau o olygfeydd yng ngwlad Israel a lluniau gan arlunwyr enwog, cartŵnau a chyfeiriadau at ddarlleniadau Beiblaidd.
Dolen i brynu’r gyfrol ar gwales.

Cydymaith Cryno i’r Beibl
Llawlyfr cynhwysfawr yn rhoi cefndir pob llyfr yn y Beibl, yn cynnwys lluniau, mapiau a siartiau. Wrth i chi deithio trwy diroedd ac oesau’r Beibl, byddwch yn darganfod llawer am fywydau’r bobl, pa fwydydd roeddent yn eu bwyta, sut gartrefi oedd ganddynt, y dillad a wisgent a’r gwaith a gyflawnent. Addasiad Cymraeg Eleri Huws o Candle Bible Handbook.
Dolen i brynu’r gyfrol ar gwales.

Llawlyfr y Beibl
Cydymaith cynhwysfawr, dibynadwy i’r Beibl, mewn cyfrol liwgar, llawn gwybodaeth, yn cynnwys lluniau lliw a du-a-gwyn, mapiau a siartiau; adnodd anhepgor i bawb sy’n darllen y Beibl.
Dolen i brynu’r gyfrol ar gwales.

Drwy’r Beibl, Drwy’r Flwyddyn
Addasiad o Through the Bible Through the Year gan John Stott. Ceir yma 365 o fyfyrdodau, yn tywys y darllenydd drwy’r Beibl yn ei drefn gronolegol. Mae’n cyfeirio at y prif wyliau eglwysig ac yn delio â phrif feini canolog y ffydd Gristnogol. Cyfrol a fyddai’n gwneud anrheg wych.
Dolen i brynu’r gyfrol ar gwales.