Bedydd

Beth yw Bedydd?
Rydym yn credu bod plant yn rhodd werthfawr gan Dduw. Mae bob person yn arbennig, ac mae gwasanaeth bedydd yn nodi dechrau taith ryfeddol iddynt.

Gallwch gael eich bedyddio fel plentyn neu fel oedolyn. Cafodd Iesu ei hun ei fedyddio yn Afon Iorddonen, ac mae llawer o oedolion sy’n cael eu bedyddio yn gwneud hynny fel cyfle i’w ddilyn a datgan eu ffydd Gristnogol yn gyhoeddus.

Mae babanod a phlant ifanc iawn yn rhy ifanc i wneud yr ymrwymiad hwn drostyn nhw’u hunain, felly mae rhieni neu warcheidwaid, a’u rhieni bedydd, yn gwneud y datganiad hwnnw o ymrwymiad i’r ffydd Gristnogol drostyn nhw.

Gofynnir i rieni, gwarcheidwaid a rhieni bedydd sy’n dod â phlant i gael eu bedyddio ymrwymo i rannu eu taith arbennig gyda nhw. Bydd gofyn iddyn nhw ymrwymo i weddïo dros eu plentyn, a’i helpu i ddeall mwy am Iesu a’r ffydd Gristnogol. Byddant hefyd yn ymrwymo i’w helpu i lywio ei ffordd drwy fywyd yn erbyn cefndir o ffydd, gobaith a chariad, ac i’w helpu i ddod yn rhan o deulu ehangach yr eglwys.

Trefn Gwasanaeth
Mae gan bob enwad a thraddodiad ei ffurf arbennig o wasanaeth. Mae’r rhain ar gael yr enwadau perthnasol. Atodir yma enghraifft o wasanaeth allan o’r llyfr ‘Molwch yr Arglwydd’, sef llyfr gwasanaeth yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr.

Gwasanaeth bedydd plant ac oedolion (PDF)

Gwasanaeth cyflwyno plentyn (PDF)

Beiblau i'w cyflwyno
Bydd llawer yn cyflwyno Beiblau ar achlysur Bedydd. Cliciwch isod i weld samplau o’r hyn sydd ar gael.
Beiblau Plant