Mae grwpiau plant bach yn ffynnu oherwydd bod llawer o bobl yn ymroi i ddarparu gofal diogel mewn awyrgylch croesawgar lle mae rhieni, neiniau a theidiau a gofalwyr eraill, ynghyd â’u babanod a’u plant bach ddechrau profi cariad a realiti Iesu Grist. Mae llawer eglwys mewn dyled i’r arweinwyr hyn a’u cynorthwywyr am eu hymroddiad, eu cariad a’u gwaith caled. Mae llawer o bobl mewn eglwysi heddiw yn gallu olrhain dechreuadau eu taith ffydd eu hunain i gyswllt cychwynnol trwy grwp o’r math. Felly, ‘Diolch!’ ar eu rhan!
Mae grwpiau rhieni a phlant bach yn achubiaeth i lawer o rieni a gofalwyr gan eu bod yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol yn ystod yr wythnos. Oherwydd hyn, gall grwpiau gael effaith fawr ar eu bywydau, a bywydau’r plant sy’n mynychu; yn fwy na thebyg yn fwy nag y gall y rhan fwyaf o arweinwyr grŵp ei ddychmygu!
Mae grwpiau plant bach yn cynnig cefnogaeth ddefnyddiol trwy:
– Darparu amgylchedd diogel a hapus i blant chwarae, dysgu a rhyngweithio
– Bod yn lle croesawgar i bob rhiant a gofalwr wneud ffrindiau a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi
– Bod yn sail ar gyfer datblygu perthynas werthfawr gyda theuluoedd ifanc
– Cynnig achubiaeth i deuluoedd mewn argyfwng
– Cynnig cefnogaeth i rieni sy’n cael amser caled neu’n eu chael hi’n anodd delio â gofynion eu plant
– Bod yn deulu estynedig i’r rhai sy’n mynychu
– Darparu man cychwyn ar gyfer symud ymlaen, ac efallai ymestyn mewn i fywyd yr eglwys
– Gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd cymunedol
Cliciwch ar y ddolen isod er mwyn gweld yr adran sy’n delio gyda hyn:
http://www.going4growth.com/growth_in_faith_and_worship/early_years
Yn y DU, ar gyfartaledd mae gan blentyn 1,277 o ddiwrnodau rhwng genedigaeth a dechrau addysg feithrin. Gyda’n gilydd, rydyn ni eisiau ‘gwneud iddyn nhw gyfrif’ i’r plant, i’w teuluoedd ac i’r grwpiau plant bach maen nhw’n eu mynychu. Yr eglwys Gristnogol yw’r prif ddarparwr cenedlaethol ar gyfer cynnal grwpiau rhieni a phlant bach. Mae 1277 yn bodoli i gefnogi’r grwpiau hyn wrth iddynt geisio darparu amgylchedd cefnogol, diogel a hwyliog sy’n groesawgar i bawb, ac sy’n arddangos cariad Duw wrth galon eu cymunedau.