Cefnogaeth ac anogaeth i unigolion, teuluoedd, ysgolion Sul ac eglwysi.
Ar y dudalen hon:
- Ymateb i COVID-19
- Adnoddau Defosiynol i’w defnyddio mewn cyfnod o hunan-ynysu
- Eglwysi sy’n ffrydio oedfaon ar lein
- Adnoddau ac Annogaeth ar y Cyfryngau Cymdeithasol
- Adnoddau Ysgolion Sul
- Adnoddau digidol
- Gweddiau a myfyrdodau ynglŷn â’r Coronafeirws
Mae rhai eglwysi wedi dechrau darlledu oedfa byr ar YouTube. Isod ceir rhestr o’r sianelu YouTube hynny yn ogystal â ‘podlediadau’ o bregethau ac anerchiadau y mae modd gwrando arnynt ar y we. Mae na gyfoeth o bregethau yma o draddodiadau ac enwadau gwahanol. Ceir ffilmiau o begethau diweddar hefyd weedi eu paratoi gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru a ffilm dwy awr Gymraeg ar fywyd Iesu trwy lygaid Luc.
Cofiwn hefyd am yr oedfa wythnosol ar Radio Cymru a’r Oedfa foreol ar S4C am 11yb.
Cliciwch yma i weld y rhestr o’r hyn sydd ar gael.
Mae gan y Cyngor Ysgolion Sul sianel deledu – TCC – Teledu Cristnogol Cymru sy’n tynnu at ei gilydd yr holl gynnwys sydd wedi ei greu gan eglwysi a mudiadau o ar draws y wlad. Cliciwch YMA i fynd i’r wefan.
Yn ddiweddar, wrth i fethu cynnal ein hoedfaon cyhoeddus yn ein heglwysi, datblygwyd ffyrdd newydd a gwahanol o ymgynull i addoli, sef trwy ffrydio a recordio oedfaon cyflawn a myfyrdodau. Isod ceir rhestr o dudalennau Facebook lle mae gweinidogion ac eglwysi yn ffrydio deunydd defosiynol yn fyw yn Gymraeg.
Cyngor ar sut i baratoi a ffrydio gwasanaethau byw (PDF)
Ar hyn o bryd rydym yn ymwybodol o’r Eglwysi isod sy’n ffrydio neu rannu oedfaon ar y Sul ar eu cyfrifon Facebook neu YouTube:
Cofiwch bod yna wledd o ddeunydd ar gael i’w gwylio ar unrhyw adeg ond cofiwch wneud dilyn oedfaon a darpariaeth eich eglwys leol yn flaenoriaeth trwy y cyfnod yma:
Noder: Mae nifer o oedfaon eraill y gwyddom amdanynt ond sydd ar hyn o bryd ar dudalenau preifat, dyma rai ohonynt isod. Efallai bydd rhaid gofyn am ganiatâd cyn ymuno a gwylio:
Os hoffech i’ch eglwys chi neu unrhyw eglwys arall y gwyddoch amdano gael ei chynnwys yn y rhestr hon anfonwch neges i ni: aled@ysgolsul.com

Y mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi gosod i fyny lein ffôn ar gyfer rhannu oedfa gyfan yno yn wythnosol. Y cyfan mae pobl angen ei wneud yw deialu 02920101564. O ddeialu ar y ffôn adref ni fydd y galwad yn costio dim. O ddeialu ar ffôn mudol, ni fydd cost am y munudau, ond, mi fydd ambell rwydwaith yn codi Mobile Network Connection Rate. Dylid nodi, rhag ofn fod yna bobl yn deialu o dramor, fod yna gost y funud i hynny, yn amrywio o 2.1c yn Awstralia i 26c yn Croatia!! Yr ydym yn gosod y gwasanaeth hwn i fynny yn arbennig ar gyfer y rhai syd heb fynediad, neu sydd yn cael cysylltu ag oedfaon ar y we yn anodd. Rhowch wybod i blant/ffrindiau aelodau hŷn ayb. Medrwch ffonio’r rhif i glywed yr oedfa ar unrhyw amser.
Mae nifer o eglwysi wedi troi i ddefnyddio gwasanaeth fideo gynadledda fel Zoom am y tro cyntaf yn ddiweddar. Mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi paratoi dwy ddogfen ddefnyddiol iawn yn mynd trwy’r camau o sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ac hefyd sut i ddiogelu ymarfer saff a diogel tra’n defnyddio y gwasanaethau. Mae yr egwyddorion cyffredinol yn berthnasol hefyd i wasanaethau tebyg fel Skype, grwpiau WhatsApp a Microsoft Teams.
[su_icon icon=”icon: file-word-o” size=”8″][/su_icon]Cadw’n ddiogel wrth ddefnyddio Zoom arlein
[su_icon icon=”icon: file-word-o” size=”8″][/su_icon]Sut i ddefnyddio Zoom Cynadledda Fideo
Tudalen Facebook Beibl Byw/Cristnogaeth CymruTudalen yw hon i helpu ac annog pobl i ddarllen y Beibl – yma byddwn yn rhannu myfyrdodau tymhorol i’r harwain trwy y prif wyliau Cristnogol, myfyrdodau i’n harwain at y Beibl ac ambell air o anogaeth, emyn cyfoes neu pytiau i wneud i ni feddwl am berthnasedd y Beibl i’n bywydau heddiw.
Tudalen Facebook ‘Beibl.net’Tudalen yw hon er mwyn rhannu adnodau a darnau o’r Beibl allan o fersiwn beibl.net gan Arfon Jones. Yn ogystal â rhannu adnod a llun yn ddyddiol byddwn hefyd yn rhannu darnau o’r Beibl i’n harwain trwy y prif wyliau Cristnogol, ac yn rhannu Salmau a darnau eraill i’n hannog a’n hysbrydoli ar adegau arbennig.
Tudalen Facebook ‘Cyngor Ysgolion Sul / Cyhoeddiadau’r Gair’Tudalen yw hon yn bennaf ar gyfer rhannu gwybodaeth a newyddion am adnoddau a digwyddiadau Cristnogol yng Nghymru. Trwy ddilyn hon cewch eich cadw mewn cysylltiad gyda’r hyn sy’n digwydd yn y byd Cristnogol Cymraeg. Bydd gwybodaeth am adnoddau i eglwysi ac Ygolion Sul yma yn rheolaidd. Hon yw tudalen swyddogol Cyngor Ysgolion Sul a Cyhoeddiadaui’r Gair.
Tudalen ‘Gair o Weddi’Tudalen yw hon lle byddwn yn rhannu gweddi ddyddiol newydd a gwreiddiol bob dydd. Weithiau ceir gweddi fer a llun, ac weithiau ceir gweddi fwy maith. Byddwn yn ceisio ymateb i ddigwyddiadau’r cyfnod ac yn ceisio dilyn rhediad y flwyddyn Gristnogol hefyd.
Tudalen ‘Emynau Gobaith’Ar dudalen Facebook Emynau Gobaith byddwn yn rhannu geiriau emynau Cymraeg – rhai ohonynt o hen lyfrau emynau enwadol na aeth i mewn i Caneuon Ffydd. Byddwn hefyd yn rhannu penillion i’n hysbrydoli, ynghyd â linciau i emynau a chaneuon newydd oddi ar YouTube, ac ar ein sianel deledu Teledu Cristnogol Cymru.
Cyngor Ysgolion Sul ar TwitterOs ydych chi’n ddefnyddiwr Twitter mae croeso i chi ddilyn ein cyfri ac ymuno gyda’r sgwrs. Byddwn yn rhannu adnodau, myfyrdodau a dyfyniadau ysbrydoledig yn achlysurol ar y cyfri hwn.
Mae y Cyngor Ysgolion Sul wedi creu sianel deledu Gristnogol Gymraeg sy’n tynnu at ei gilydd yr holl ddeunydd sydd gael ar gael ar lein gan wahanol eglwysi, mudiadau a darlledwyr
Ar y sianel hon mae modd gwrando ar gerddoriaeth Gristnogol, gwylio cartŵns Beiblaidd i blant, gwrando ar fyfyrdodau Beiblaidd, cyfle i wylio oedfaon cyflawn a rhagleni canu cynulleidfaol. Bellach mae dros 600 eitem ar y sianel hon. Cliciwch yma i weld beth sydd ar gael.Rydym yn ddiolchgar i griw o bobl sydd wrthi yn paratoi gwersi ar gyfer cynnal Ysgol Sul yn y cartref.
Mae Delyth Murphy a Helen Oswy Roberts yn cyd-weithio i gyfieithu adnodd Max7 (‘Color thru the Life of Jesus’) sef llawer o’r adnoddau a ymddangosodd ar wefan beibl.net yn y gorffennol.
Mae y taflenni diweddaraf isod ac mae y set yn llawn yn ein hadran gwersi Ysgol Sul ar gair.cymru – cliciwch yma.
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]11. Iesu’n Dysgu’r Bobl (1) – max7[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]10. GWYRTH GYNTAF IESU – max7
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]08. TEMTIAD IESU – max7
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]06. IESU YN Y DEML – max7
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]04. Geni Iesu – max7
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]02. NEWYDDION DA – max7
Rydym hefyd yn ddiolchgar i Andy Hughes, Susan Williams, Jennifer Roberts, Cass Meurig a Nia Williams am baratoi y gyfres isod fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr argyfwng.
Cliciwch y botwm isod i weld y casgliad llawn a lawrlwytho’r adnoddau:
Cymuned Bach
Diolch i griw o weithwyr plant ac ieuenctid o ardal Llanelwedd, o dan nawdd yr Eglwys Yng Nghymru sy’n cynhyrchu adnoddau wythnosol ar gyfer ysgolion Sul / ffydd yn y cartref ar eu tudalen Cymuned Bach. Mae’r adnoddau Cymraeg isod i chi eu lawrlwytho. Mae modd cael yr adnoddau cyfatebol yn Saesneg hefyd trwy fynd i dudalen facebook Cymuned Bach.
Mae mwy o ddewis o adnoddau ar ein adran gwersi Ysgol Sul ar gair.cymru cliciwch yma.
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Esgyniad[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Atodiad i’r Esgyniad [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Lasarus [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Pasg
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Atodiad i Pasg [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Dydd Gwener y Groglith
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Atodiad i Dydd Gwener y Groglith [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Sul y Blodau
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Atodiad i Sul y Blodau [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Sul y Mamau
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Ychwanegiad i Sul y Mamau [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Rhodd y weddw [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Dewi Sant [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Concro Jericho [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Moses a’r mor coch [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Moses a’r 10 pla [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Moses a’r Berth yn llosgi [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Y dywysoges a’r babi [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Y darn arian oedd ar goll [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Yr adeiladwr call a’r adeiladwr twp [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Adfent 4 – Heddwch [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Adfent 3 – Llawenydd [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Adfent 2 – Ffydd [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Adfent 1 – Gobaith [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Crist y Brenin [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Priodas (1) [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]DIWRNOD Y COFIO [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Golau [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Cymod [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Cynhaeaf [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Y Cymun [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Conffirmasiwn [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Bedydd [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Nol i Ysgol Iesu archarwr [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Belt a Llurig [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Arfwisg Duw [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Dweud wrth eraill [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Ymchwilio’r Beibl [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Duw gyda ni [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Sul y Tadau [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Gobaith – Hanes Noa [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Wythnos Cymorth Cristnogol [su_icon icon=”icon: file-pdf-o” size=”8″]Wythnos gofalwyr Ffydd yn y cartref ar adeg Coronafeirws – Adnodd gan Godventura
[su_icon icon=”icon: file-word-o” size=”8″][/su_icon]Ffydd yn y cartref ar adeg Coronafeirws – Godventure Cymraeg
Diolch i Siwan Sloman am ei gyfieithu.
Wrth y bwrdd gyda’n gilydd
Dyma adnoddau teuluol gwych gan Esgobaeth Bangor yn Gymraeg (ac yn Saesneg hefyd).
Mae yr adnoddau diweddaru yn cael eu rhannu fel dolen ar eu tudalen Facebook – cliciwch yma i weld.
Cyflwyno Teyrnas y Teulu
Sianel newydd Youtube i blant wedi ei greu gan Jack Newbould o MIC, sef Cyflwyno Teyrnas y Teulu. Sianel yn cyflwyno gemau a crefft dros y we i blant. Chwiliwch ar Youtube am sianel M.I.C.
Sgwrs ar gyfer pobl ifanc ac oedolion ifanc wedi ei baratoi gan Elusen Trobwynt:Ar gael i wylio ar eu tudalen Facebook
Gan na fydd ysgolion Sul a chlybiau plant ac ieuenctid yn cyfarfod, beth am gynnal gweithgaredd ar yr aelwyd? Mae adnoddau Amser Beibl yn ddelfrydol ar gyfer hyn, lle mae modd argraffu taflenni gwersi addas ar gyfer pob oed o dan 5 hyd at 16 oed.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae ambell ffilm Gristnogol ar gael hefyd i’w gwylio fel teulu: Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae App Beiblaidd Arwyr Ancora hefyd yn ffordd ddifyr i blant chwarae gem tra yn dysgu hanesion am fywyd Iesu: Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae ROOTS wedi paratoi adnoddau ar gyfer addoli gartref, gan gynnwys adnoddau Sul y mamau a’r Grawys hyd y Pasg.
We have added some FREE resources via our homepage which are available to ALL which include
– Prayers, reflections, questions to ponder
– Family time talking points and activities
– Seasonal resources, e.g. Mothering Sunday
www.rootsontheweb.com/lectionary/2020/106-march-april-2020-a/lent-4-mothering-sunday/worshipathome
Myfyrdod wythnosol o adnoddau Roots:
[su_icon icon=”icon: file-word-o” size=”8″]Bywyd ar ei orau – Gwasanaeth ROOTS i’r cartref
[su_icon icon=”icon: file-word-o” size=”8″]Ar y ffordd i Emaus – Gwasanaeth ROOTS i’r cartref
Ceir mwy o syniadau ar ein gwefan yn ein hadran ar ffydd yn y cartref Ffeiliau PDF:
‘Sefyll o dan adain cariad Duw, a ddaw â hedd i ni’
Duw Gyda Ni Myfyrdod gan Peter Thomas
EDRYCH A GWELD Myfyrdod gan y Parch Jim Clarke
Gweddi ynglŷn â’r Coronafeirws UAC
Pwyntiau Gweddi ar gyfer argyfwng y Coronafeirws
Myfyrdod bygythiad y Coronafeirws – Emyr Gwyn Evans
Am y cyngor diweddaraf am y feirws cofiwch ymweld â gwefan eich enwad ac arweiniad diweddaraf y Llywodraeth.
Eglwys Bresbyteraidd Cymru
https://www.ebcpcw.cymru/cy/coronafeirws/
Undeb Bedyddwyr Cymru
http://www.buw.org.uk/24-mawrth-2020-diweddariad-coronafeirws/
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
https://annibynwyr.org/cyfarwyddyd-i-eglwysi-au-gweinidogion/
Yr Eglwys yng Nghymru
https://www.churchinwales.org.uk/cy/clergy-and-members/coronavirus-covid-19-guidance/
Yr Eglwys Fethodistaidd
https://www.methodist.org.uk/about-us/coronavirus/official-guidance/
Cytun: eglwysi ynghyd yng Nghymru
http://www.cytun.co.uk/hafan/covid-19-2/
Cynghrair Efengylaidd
https://www.eauk.org/coronavirus?ref=top
Fel Cristnogion, credwn fod cymdeithas yn holl bwysig. Er na fedrwn gyfarfod yn y capel/eglwys, mae yna wledd o adnoddau a chyfryngau amgen ar gael i’n cynorthwyo yn ein hymdrechion i gysylltu, arfogi ac ysbrydoli ein gilydd.
Gweler isod rhestr o adnoddau ac awgrymiadau sy’n cynnwys cyfeiriadau at adnoddau digidol megis gwasanaethau, myfyrdodau a darlleniadau ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol yr eglwysi yn ogystal â rhestr o raglenni radio a theledu i’r sawl sydd heb fynediad i’r we. Rydym hefyd wedi cynnwys ychydig o awgrymiadau ar sut y gallwch ymateb i’r sefyllfa drwy ddefnyddio cyfryngau digidol neu gyfryngau traddodiadol.
Mawr obeithiwn y bydd y rhestr isod yn gymorth ac ysbrydoliaeth i unigolion ac eglwysi. Bydd y rhestr hon hefyd yn cael ei diweddaru yn gyson. Os hoffech ychwanegu unrhyw adnoddau neu awgrymiadau, byddwn yn falch o glywed gennych!
Anfonwch unrhyw awgrymiadau at: aled@ysgolsul.com
Golyga hyn felly dros y misoedd nesaf y bydd angen gwneud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol wrth i ni geisio byw fel Cristnogion sy’n ffyddlon i Iesu ac yn ceisio hefyd i’w wasanaethu yn y byd.
Er na chynhelir oedfaon, dosbarthiadau Ysgol Sul ayyb dros y misoedd nesaf, mae ffyrdd eraill y gallwn geisio bod yn addolwyr a disgyblion ffyddlon i Iesu.
Ceir yr ymateb ddiweddaraf gan Lywodraeth y DU trwy ddilyn y ddolen ganlynol:
https://www.gov.uk/government/publications/covid-19-guidance-on-social-distancing-and-for-vulnerable-people/guidance-on-social-distancing-for-everyone-in-the-uk-and-protecting-older-people-and-vulnerable-adults
Cymorth i ddelio gyda unigrwydd a straen
Mewn cyfnod o hunan-ynysu, lle gall unigrwydd neu straen byw ar aelwyd lle mae bywyd yn anodd arwain at anhwylderau salwch meddwl. Mae’r mudiad Rehab4addiction wedi paratoi canllawiau ac arweiniad i gefnogi rhai sy’n teimlo’r strtaen ar hyn o bryd. Ceir mwy o wybodaeth trwy fynd i: https://www.rehab4addiction.co.uk/coronavirus/mental-health-coronavirus a lawrlwytho’r wybodaeth.






