Adnoddau Cristingl

Beth am gynnal gwasanaeth Cristingl eleni? Mae cynnal gwasanaeth Cristingl yn hen draddodiad yn deillio o’r Almaen. Isod ceir yr holl adnoddau sydd angen arnoch i gynnal y gwasanaeth arbennig hwn yn nhymor yr Adfent eleni.

Yn ogystal â’r holl ddeunydd Cymraeg isod mae’r Children’s Society yn cynhyrchu llu o adnoddau newydd bob blwyddyn, mae linc i’w gwefan isod:
Children’s Society – Christingle

Beth yw Cristingl?
Mae dathlu Cristingl yn ffordd o rannu neges y ffydd Gristnogol. Golyga Cristingl ‘Goleuni Crist’ ac mae’n symbol o’r ffydd Gristnogol. Blynyddoedd maith yn ôl, gofynwyd i blant fynd â anrheg i’w osod wrth y crud yn yr Eglwys. Doedd gan un teulu ddim arian i brynu anrhegion ond roedden nhw’n benderfynol o fynd â rhywbeth.

Daeth hyd i oren y teimlent a fyddai’n addas, ond pan welsant ei fod wedi llwydo ychydig ar y top, roedden nhw’n siomedig. Fodd bynnag, fe wnaethant benderfynu tynnu’r darn wedi llwydo a gosod cannwyll ar ei ben i’w droi’n llusern. Gan feddwl ei fod yn edrych braidd yn ddiflas, tynnodd un o’r merched ddarn o ruban coch o’i gwallt a’i glymu o amgylch yr oren. Cawsant ychydig o drafferth ei osod yn ei le, felly, fe wnaethant ei roi yn sownd gyda pedwar ffon bach a gosod ychydig o rhesin ar eu blaenau.

Aethant â’r llusern i’r eglwys gan ofni beth fyddai ymateb y plant eraill. Fodd bynnag, roedd yr offeiriad yn hynod o falch o’u hanrheg a dywedodd wrth y gynulleidfa mor arbennig ydoedd oherwydd y rhesymau canlynol:

[su_panel shadow=”0px 3px 10px rgba(0, 0, 0, 0.25)”] Mae’r oren yn grwn fel y byd.

Mae’r gannwyll yn dal a syth ac yn rhoi goleuni yn y tywyllwch fel cariad Duw.

Mae’r ruban yn mynd o amgylch y ‘byd’ ac yn symbol o waed Crist pan fu
farw drosom ar y groes.

Mae’r pedwar ffon yn pwyntio i gyfeiriadau gwahanol ac yn cynrychioli
Gogledd, De, Dwyrain a’r Gorllewin- ac hefyd yn cynrychioli y pedwar tymor.

Mae’r ffrwythau a’r cnau (ac ambell dro melysion!) yn cynrychioli
ffrwythau’r ddaear, wedi eu maethu gan yr haul a’r glaw.[/su_panel]

Gwasanaeth Cristingl
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Gwasanaeth Cristingl
Sesiwn Cristingl Llan Llanast
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Sesiwn Cristingl Llan Llanast
Gweithgareddau Crefft Cristingl
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Gweithgareddau Crefft Cristingl
Taflenni lliwio a phosau Cristingl
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Taflenni lliwio Cristingl
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Chwilair Cristingl
Cân a cherdd y Cristingl
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Cân Y Cristingl
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Cerdd Y Cristingl – Myrddin ap Dafydd
Neges Cristingl - Gwir ystyr y Nadolig
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Neges Cristingl – Gwir ystyr y Nadolig
Gwasanaeth Cristingl Gwyl Fair y Canhwyllau
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Gwasanaeth Cristingl Gwyl Fair y Canhwyllau
Deunydd Hyrwyddo Gwasanaeth Cristingl
[su_icon icon=”icon: file-pdf-o” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Poster PDF
[su_icon icon=”icon: image” color=”#ff3b40″ size=”12″] [/su_icon]Poster JPG
Gwybodaeth a chymorth ymarferol
[su_icon icon=”icon: link” color=”#ff3b40″ size=”12″]Eden – Gwefan sy’n gwerthu canhwyllhau ar gyfer gwasanaeth Cristingl
Sut i wneud Cristingl – ffilm fer gyda chyfarwyddiadau gyda Naiomi Wood

Sgwrs Cristingl gyda’r Canon Emlyn Williams:

Ffilmiau byr yn olrhain ychydig o hanes a chefndir y Cristingl