![](https://www.ysgolsul.com/wp-content/uploads/2018/09/getimg-40.jpg)
Cwlwm Celtaidd
Casgliad o weddïau yn y traddodiad Celtaidd, wedi’u casglu ynghyd gan Huw John Hughes.
![](https://www.ysgolsul.com/wp-content/uploads/2018/09/getimg-46.jpg)
Ei Orsedd Rasol Ef – Cyfrol 1: Blwyddyn A
Cyfrol gyntaf o weddïau gan Dewi Myrddin Hughes yn seiliedig ar ddarlleniadau blwyddyn A y Llithiadur. Ceir gweddi o ddiolch, eiriolaeth, cyffes a mawl ar gyfer pob Sul o’r flwyddyn.
![](https://www.ysgolsul.com/wp-content/uploads/2018/09/getimg-47.jpg)
Ei Orsedd Rasol Ef – Cyfrol 2: Blwyddyn B
Ail gyfrol o weddïau gan Dewi Myrddin Hughes yn seiliedig ar ddarlleniadau blwyddyn B y Llithiadur. Ceir gweddi o ddiolch, eiriolaeth, cyffes a mawl ar gyfer pob Sul o’r flwyddyn.
![](https://www.ysgolsul.com/wp-content/uploads/2018/09/getimg-48.jpg)
Ei Orsedd Rasol Ef – Cyfrol 3: Blwyddyn C
Trydedd gyfrol o weddïau gan Dewi Myrddin Hughes yn seiliedig ar ddarlleniadau blwyddyn C y Llithiadur. Ceir gweddi o ddiolch, eiriolaeth, cyffes a mawl ar gyfer pob Sul o’r flwyddyn.
![getimg-9](http://www.ysgolsul.com/wp-content/uploads/2015/04/getimg-9-211x300.jpg)
Gweddïau Heddwch a Chyfiawnder Guto Prys ap Gwynfor
Casgliad o dros 250 o weddïau a myfyrdodau dros heddwch a chyfiawnder, wedi eu casglu a’u golygu gan Gadeirydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru Guto Prys ap Gwynfor, yn cynnwys gweddïau gwreiddiol yn y Gymraeg a chyfieithiadau o weddïau o wahanol wledydd. Fformat: PDF
![getimg-8](http://www.ysgolsul.com/wp-content/uploads/2015/04/getimg-8-196x300.jpg)
Mil a Mwy o Weddïau Edwin C Lewis
Cyfrol gynhwysfawr o weddïau yn cwmpasu 2,000 o flynyddoedd – o’r Beibl hyd at y cyfnod presennol. Ceir gweddïau o bob rhan o’r byd, gan ddiwinyddion a diwygwyr, emynwyr ac awduron, gan gynnwys detholiad da o Gymru. Mae dros hanner y gweddïau yn addasiadau o waith yr awdur. Wedi eu casglu gan Edwin C Lewis. Fformat: PDF.
![agoriddo](https://www.ysgolsul.com/wp-content/uploads/2018/11/getimg-9.jpg)
Gweddïau’r Pedwar Tymor 2 Nick Fawcett, Eirian Dafydd a Gwilym Dafydd
Ail gasgliad o weddiau Nick Fawcett o’r casgliad Prayers for all Seasons. Gweddïau ydynt ar gyfer addoliad cyhoeddus ar gyfer unrhyw adeg o’r flwyddyn. Ceir tair adran; Y Flwyddyn Gristnogol; Bywyd a Ffydd; a Suliau Cyffredin. Fformat: PDF.