{"id":349,"date":"2012-03-21T12:02:26","date_gmt":"2012-03-21T12:02:26","guid":{"rendered":"http:\/\/www.ysgolsul.com\/?page_id=349"},"modified":"2012-10-03T15:02:20","modified_gmt":"2012-10-03T15:02:20","slug":"hybur-ysgol-sul","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349","title":{"rendered":"Hybu&#8217;r Ysgol Sul"},"content":{"rendered":"<p>Nod y dudalen hon yw rhoi ychydig o syniadau i chi, arweinwyr Ysgol Sul, ar sut i geisio denu mwy o blant, ac i gadw eu diddordeb yn yr Ysgol Sul. Efallai eich bod yn gwneithredu rhai o\u2019r syniadau hyn yn barod, serch hynny, gobeithio y bydd yma ambell syniad fydd o gymorth i chi ddenu mwy o blant, ac i gryfhau presenoldeb y plant sydd yn mynychu.<\/p>\n<p><strong>Ar ddechrau tymor<\/strong><\/p>\n<p><strong>Rhaglen<\/strong><br \/>\nByddai o gymorth mawr i chi fel arweinwyr ac i\u2019r a phlant a\u2019u rhieni wybod beth fydd rhaglen yr Ysgol Sul am y flwyddyn i ddod. Gallech nodi arni pryd y bydd gwyliau, gwasanaethau arbennig, trip, Sul gwobrwyo a gweithgareddau\u2019r Cyngor Ysgolion Sul. Byddai\u2019n gysylltiad da gyda gweddill cynnulleidfa\u2019r eglwys hefyd, iddynt fod yn ymwybodol o weithgarwch yr Ysgol Sul.<\/p>\n<p><strong>Hysbysebu<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Cerdyn post. Gyrrwch gerdyn post i\u2019r plant a fu\u2019n mynychu\u2019r ysgol Sul yn ystod y flwyddyn diwethaf gan ddiolch iddynt am eu ffyddlondeb a rhoi manylion pryd y bydd yr Ysgol Sul yn ailgychwyn. Cofiwch ddiolch i\u2019r rhieni ar y cerdyn am eu cefnogaeth yn gyrru\u2019r plant.<\/li>\n<li>Cysylltu gydag ysgol neu gylch meithrin. Mae llawer o ysgolion lleol yn barod iawn i gydweithredu a chaniatau i chi rannu gwahoddiadau i\u2019r plant trwy\u2019r ysgol. Cysylltwch \u00e2\u2019r pennaeth ac arweinydd y Cylch Meithrin i ofyn os yw hyn yn bosib\u2019.<\/li>\n<li>Hysbysebu yn y wasg. Rhowch hysbyseb yn eich papur lleol neu yn y papur bro yn dweud pryd ac yn lle y bydd yr Ysgol Sul, gan estyn croeso i aelodau newydd.<\/li>\n<li>Posteri. Gosodwch bosteri lliwgar o gwmpas eich ardal, gan dynnu sylw at unrhyw ddigwyddiadau hwyliog yn ystod y tymor.<\/li>\n<\/ul>\n<div><strong>Lawrlwytho gwahoddiadau<\/strong><\/div>\n<div><\/div>\n<div><a href=\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6.jpg\" data-rel=\"lightbox-image-0\" data-rl_title=\"\" data-rl_caption=\"\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-595 alignnone\" title=\"\" src=\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-1024x726.jpg\" alt=\"\" width=\"350\" height=\"248\" srcset=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-1024x726.jpg 1024w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-300x212.jpg 300w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-422x300.jpg 422w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6.jpg 1748w\" sizes=\"auto, (max-width: 350px) 100vw, 350px\" \/><\/a><\/div>\n<div><a href=\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiad4arA4.jpg\" data-rel=\"lightbox-image-1\" data-rl_title=\"\" data-rl_caption=\"\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-673 alignnone\" title=\"\" src=\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiad4arA4.jpg\" alt=\"\" width=\"357\" height=\"504\" srcset=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiad4arA4.jpg 567w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiad4arA4-212x300.jpg 212w\" sizes=\"auto, (max-width: 357px) 100vw, 357px\" \/><\/a><\/div>\n<div><a href=\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6.pdf\">Gwahoddiad maint A6 (PDF)<\/a><\/div>\n<div><a href=\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada4.pdf\">Gwahanoddiad maint A4 (PDF)<\/a><\/div>\n<div><a href=\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiad4arA4.pdf\">Pedwar gwahoddiad A6 ar A4 (PDF)<\/a><\/div>\n<p><strong>Awyrgylch<\/strong><br \/>\nEdrychwch yn ofalus ar yr ystafell ble bydd yr Ysgol Sul yn cyfarfod. A ydyw\u2019n oeraidd? yn ddi-liw? Tybed a oes posib gwella ei golwg? A fyddai\u2019n bosib\u2019 rhoi c\u00f4t o baent, neu osod posteri Cristnogol lliwgar ar y wal? Beth am osod hysbysfwrdd ar gyfer arddangos gwaith y plant. Trafodwch gyda blaenoriaid y capel i weld os oes modd gwella\u2019r adnoddau.<\/p>\n<p><strong>Amser yr ysgol Sul<\/strong><br \/>\nTybed a yw\u2019r amser a gynhelir yr ysgol Sul yr amser gorau i ddenu plant? Mae cymaint o weithgareddau a galwadau ar blant ar y Sul, efallai y byddai ystyried symud yr Ysgol Sul yn gynharach o gymorth.<\/p>\n<p><strong>Sul cynta\u2019r tymor<\/strong><br \/>\nDylai\u2019r cyfarfod cyntaf fod yn amser bywiog ac atyniadol i\u2019r plant, fel y byddant yn awyddus i ddod yn \u00f4l o Sul i Sul. Dewiswch ganeuon bywiog sy\u2019n ffefrynnau gan y plant, chwaraewch g\u00eam neu ddwy, defnyddiwch adnoddau gweledol i\u2019ch cynorthwyo i ddweud stori, paratowch ddiod a bisgedi neu gacennau neu greision i\u2019r plant.<\/p>\n<p><strong>Cysylltiad gyda chynnulleidfa\u2019r eglwys<\/strong><\/p>\n<p><strong>Amrywiaeth o ddoniau<\/strong><br \/>\nYmhob cynnulleidfa ceir amrywiaeth o ddoniau a diddordebau. Efallai fod yna:<\/p>\n<ul>\n<li>arlunwyr fyddai\u2019n creu adnoddau gweledol arbennig i gydfynd \u00e2 stor\u00efau<\/li>\n<li>berson cynnes ac annwyl fyddai wrth eu bodd yn croesawu\u2019r plant i\u2019r\u00a0Ysgol Sul<\/li>\n<li>berson trefnus fyddai\u2019n cynorthwyo gyda gweinyddiad yr Ysgol Sul,\u00a0neu\u2019n cofio i yrru cardiau Penblwydd ayb i\u2019r plant<\/li>\n<li>berson a diddordeb mewn cyfrifiaduron a allai gynorthwyo gyda chreu\u00a0adnoddau, neu greu gwefan i\u2019r Ysgol Sul<\/li>\n<li>berson fyddai\u2019n gallu gwau neu wn\u00efo pypedau.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019n bosib\u2019 i aelodau yr eglwys fod yn gefnogol i\u2019r ysgol Sul heb fod yn athro neu athrawes.<\/p>\n<p><strong>Cyfathrebu<\/strong><br \/>\nByddai\u2019n bosib\u2019 cryfhau perthynas yr Ysgol Sul gyda gweddill y gynnulleidfa pe tae cyfle i rywun o\u2019r Ysgol Sul s\u00f4n yn fyr yn ystod y cyhoeddiadau, tua unwaith y mis, am yr hyn fu\u2019n digwydd yn yr Ysgol Sul yn ystod y mis diwethaf. Buasent hefyd yn gallu s\u00f4n am beth fydd yn digwydd yn ystod y mis nesaf.<\/p>\n<p>Os oes cylchgrawn yn yr eglwys, beth am i un o\u2019r plant h\u0177n ysgrifennu erthygl byr am yr Ysgol Sul rwan ac yn y man.<\/p>\n<p><strong>Hysbysfwrdd yr Ysgol Sul<\/strong><br \/>\nByddai gosod hysbysfwrdd yn arbennig ar gyfer gwaith yr Ysgol Sul yng nghyntedd y capel yn gymorth i hysbysebu gweithgarwch yr Ysgol Sul. Byddai\u2019n le da i arddangos Polisi Diogelwch Plant, fel bod rhieni yn gweld eich bod yn cymryd gofal am eu plant o ddifri\u2019. Mae\u2019n bwysig cadw\u2019r deunydd ar yr hysbysfwrdd yn gyfredol, a pheidio a gadael hen wybodaeth arno\u2019n yn rhy hir.<\/p>\n<p><strong>Cyfarfod gweddi<\/strong><br \/>\nYdych chi\u2019n cyfarfod fel athrawon i wedd\u00efo? Os oes cyfarfod gweddi yn yr eglwys mae\u2019n bwysig eu bod yn derbyn cais yn gyson i wedd\u00efo dros waith yr Ysgol Sul.<br \/>\nOs nad oes cyfarfod gweddi, dylai fod yn flaenoriaeth i ddechrau gwedd\u00efo gyda\u2019ch gilydd. Ofer yw\u2019n gwaith caletaf, mwyaf egn\u00efol heb fod Duw yn y canol.<\/p>\n<p><strong>Cefnogaeth rhieni<\/strong><\/p>\n<p><strong>Dewch a ffrindiau\u2019ch plant<\/strong><br \/>\nBeth am ofyn i rieni sy\u2019n aelodau yn eich eglwys, neu\u2019n gefnogol i\u2019r Ysgol Sul i gynnig i ddod a ffrindiau eu plant gyda nhw i\u2019r Ysgol Sul. Bydd hyn yn siwr o blesio\u2019r plant gan eu bod yn mwynhau cael cwmni eu ffrindiau, ac mae\u2019n cryfhau eu delwedd o\u2019r Ysgol Sul.<\/p>\n<p><strong>Cyfle i\u2019r rhieni<\/strong><br \/>\nYn hytrach na danfon eu plant a gadael, byddai\u2019n gadarnhaol i\u2019r eglwys i ddarparu ystafell i\u2019r rhieni gymdeithasu, neu i gynnal dosbarth Ysgol Sul ar eu cyfer. Byddai\u2019n gaffaeliad i Ysgol Sul yr oedolion ennill dosbarth o rieni ifanc.<\/p>\n<p><strong>Noson rieni<\/strong><br \/>\nGwahoddwch rieni am baned a phwdin a noson anffurfiol fel y gallwch egluro\u2019r hyn fyddwch chi\u2019n ei wneud yn yr Ysgol Sul o wythnos i wythnos, a s\u00f4n am y gweithgareddau fyddwch yn eu trefnu ar gyfer y plant yn ystod y flwyddyn. Gall eu gwerthfawrogiad hwy o\u2019ch gwaith a\u2019ch ymroddiad sicrhau eu cefnogaeth yn gofalu fod eu plant yn mynychu\u2019n gyson. Efallai byddai modd cynhyrchu taflen syml yn egluro nod yr Ysgol Sul ac yn cynnwys rhaglen weithgareddau\u2019r Ysgol Sul am y flwyddyn.<\/p>\n<p><strong>Gwobrwyo<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Pwyntiau. Rydym i gyd yn ymateb yn dda i ganmoliaeth. Beth am ddechrau system o wobrwyo\u2019r plant gyda phwyntiau bob tro y byddant yn dod i\u2019r Ysgol Sul. Mae\u2019n hawdd cadw cyfrif gyda chofrestr. Ar ddiwedd y flwyddyn byddai gan pob plentyn gyfanswm o bwytiau.<\/li>\n<li>Sul gwobrwyo. Ar ddiwedd y flwyddyn gellid trefnu fod y plant yn cael eu gwobrwyo am eu ffyddlondeb. Gellid casglu amrywiaeth o deganau y mae\u2019r plant yn eu hoffi, neu lyfrau addas a gosod \u201cpris\u201d (h.y. hyn a hyn o bwyntiau) ar y nwyddau, a byddai\u2019r plant yn cael \u201cprynu\u201d nwyddau gyda\u2019r pwyntiau maent wedi eu casglu trwy\u2019r flwyddyn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Neu, gellid dewis gwobrau amrywiol i gydfynd gydag ystod o bwyntiau, a\u2019r wobr yn cyfleu gwerth y pwyntiau e.e. 250 \u2013 300 o bwyntiau yn ennill pecyn o binau ffelt.<\/p>\n<p>Defnyddiwch eich dychymyg a dathlwch ffyddlondeb y plant!<\/p>\n<p><strong>Gweithgareddau arbennig<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019n syniad i gynnwys amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y flwyddyn i<br \/>\ngadw diddordeb y plant, ac i ddenu eu ffrindiau i ymuno mewn rhywbeth<br \/>\ngwahanol.<\/p>\n<p><strong>Sul Hwyl<\/strong><br \/>\nTua unwaith y tymor, neu ddwy waith y flwyddyn, beth am gynnal Ysgol Sul ar ffurf clwb plant, lle nad yw\u2019r plant yn rhannu i\u2019w dosbarthiadau. Trefnir yr amser i gynnwys caneuon bwyiog (os am syniadau pellach gweler llyfr a CD \u201cTyrd i Ddathlu\u201d), gemau, stori Feiblaidd (yn cael ei chyflwyno gydag adnoddau gweledol), gwaith crefft syml, diod a bisged. Defnyddiwch y doniau sydd gennych a\u2019u gwau o gwmpas thema\u2019r stori Feiblaidd.<\/p>\n<p>Hysbysebwch y Sul Hwyl trwy\u2019r capel a\u2019r gymuned leol. Paratowch gardiau gwahoddiad i\u2019r plant i fynd i\u2019w ffrindiau \u2013 mae\u2019n rhyfeddol pa mor frwdfrydig yw\u2019r plant yn annog eu ffrindiau i ymuno yn yr hwyl.\u00a0Mae Sul fel hyn yn gyfle da i ddenu plant newydd i\u2019r Ysgol Sul, ac i ddenu\u2019r rhai na fu\u2019n mynychu\u2019n aml i ddod yn \u00f4l.<\/p>\n<p><strong>Yn \u00f4l 2000 o flynyddoedd<\/strong><br \/>\nBeth am wahodd y plant i ddod i\u2019r Ysgol Sul wedi eu gwisgo fel pe taen nhw\u2019n byw yng nghyfnod Iesu. Gellid dethol un stori i\u2019w chyflwyno i\u2019r Ysgol Sul gyda\u2019i gilydd, e.e. \u2018Dameg y Wledd Fawr\u2019, a gellid cynnig bwydydd tebyg i rai\u2019r cyfnod i\u2019r plant cyn iddynt fynd i\u2019w gwersi e.e. bara pitta, olewydd, caws feta, ffigys, detys, grawnwin.<\/p>\n<p><strong>Uno gydag Ysgol Sul arall<\/strong><br \/>\nGall hyn weithio\u2019n arbennig gyda dosbarth oedran 11-14+. Ar ddiwedd tymor cysylltwch ag ysgol Sul arall yn eich ardal, neu fwy nag un, er mwyn chwyddo\u2019r niferoedd o ieuenctid i ddod at eu gilydd. Buasai\u2019n fwy effeithiol i drefnu\u2019r weithgaredd gyda\u2019r nos a gwahodd siaradwr bywiog i sgwrsio gyda\u2019r plant am rhyw hanner awr, yna gorffen y noson gyda pizzas i bawb.<\/p>\n<p><strong>Ymweliad penwythnos<\/strong><br \/>\nMae trefnu i fynd i ganolfan gyda\u2019r plant yn brofiad gwerthfawr iawn. Mae\u2019r plant yn gweld eich ymroddiad iddyn nhw yn mynd i drafferth i drefnu, ac rydych chithau yn cael cyfle i ddod i adnabod y plant yn dda. Mae penwythnosau\u2019n cael eu cynnal trwy\u2019r flwyddyn yng Ngholeg y Bala, ac mae G\u0175yl Gristnogol Llanw yn trefnu arlwy lawn i blant a ieuenctid yn yr wythnos yn dilyn y Pasg bob blwyddyn. Am fwy o fanylion cysylltwch a Choleg y Bala ac ymweld a gwefan <a href=\"http:\/\/www.llanw.org\/\">www.llanw.org<\/a>. Mae nifer o weithwyr ieuenctid ledled Cymru hefyd yn trefnu penwythnosau i blant a ieuenctid.<\/p>\n<p><strong>Prosiectau<\/strong><\/p>\n<p><strong>Creu gardd<\/strong><br \/>\nOs oes ychydig o dir o gwmpas y capel neu\u2019r festri, beth am fynd ati i greu gardd Feiblaidd gyda\u2019r plant. Gofynnwch i aelodau\u2019r capel neu rieni sy\u2019n garddio eich cynorthwyo i chwilio am blanhigion Beiblaidd fyddai\u2019n addas i\u2019w tyfu yn yr ardd. Os yw lle yn brin, beth am ddefnyddio potiau blodau, neu gael planhigion y tu fewn i\u2019r festri, neu gyntedd y capel.<\/p>\n<p><strong>Codi arian<\/strong><br \/>\nBeth am ofyn i\u2019r plant eich cynorthwyo i godi arian tuag at:<\/p>\n<ul>\n<li>elusen e.e. Cymorth Cristnogol, elusen i blant,<\/li>\n<li>adnoddau i\u2019r Ysgol Sul,<\/li>\n<li>gronfa\u2019r Ysgol Sul.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Beth am gynnig paned neu bryd ysgafn ar \u00f4l oedfa; gallai\u2019r plant wneud cardiau cyfarch neu farc llyfr gydag adnodau arnynt i\u2019w gwerthu. Unwaith eto, defnyddiwch eich dychymyg!<\/p>\n<p><strong>Diwedd tymor<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Picnic. Beth am drefnu picnic ac ychydig o gemau, gyda gwasanaeth awyr agored fer i ddiweddu\u2019r tymor.<\/li>\n<li>Barbeciw. Trefnwch farbeciw, un ai ar dir y capel, neu yn lleol i ddilyn gwasanaeth addas i pob oed ar ddiwedd y tymor. Gwahoddwch rieni\u2019r plant ac aelodau\u2019r capel.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nod y dudalen hon yw rhoi ychydig o syniadau i chi, arweinwyr Ysgol Sul, ar sut i geisio denu mwy o blant, ac i gadw eu diddordeb yn yr Ysgol Sul. Efallai eich bod yn gwneithredu rhai o\u2019r syniadau hyn yn barod, serch hynny, gobeithio y bydd yma ambell syniad fydd o gymorth i chi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-349","page","type-page","status-publish","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.5 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Hybu&#039;r Ysgol Sul - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Hybu&#039;r Ysgol Sul - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Nod y dudalen hon yw rhoi ychydig o syniadau i chi, arweinwyr Ysgol Sul, ar sut i geisio denu mwy o blant, ac i gadw eu diddordeb yn yr Ysgol Sul. Efallai eich bod yn gwneithredu rhai o\u2019r syniadau hyn yn barod, serch hynny, gobeithio y bydd yma ambell syniad fydd o gymorth i chi [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/ysgolsul\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2012-10-03T15:02:20+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-1024x726.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ysgolsul\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349\",\"url\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349\",\"name\":\"Hybu'r Ysgol Sul - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-1024x726.jpg\",\"datePublished\":\"2012-03-21T12:02:26+00:00\",\"dateModified\":\"2012-10-03T15:02:20+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-1024x726.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-1024x726.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Hybu&#8217;r Ysgol Sul\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/\",\"name\":\"Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru\",\"description\":\"Cyhoeddiadau&#039;r Gair - Cyhoeddwyr Cristnogol Cymraeg\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#organization\",\"name\":\"Cyngor Ysgolion Sul\",\"url\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/logo-CYS-sgwar.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/logo-CYS-sgwar.jpg\",\"width\":1080,\"height\":1080,\"caption\":\"Cyngor Ysgolion Sul\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/ysgolsul\",\"https:\/\/x.com\/ysgolsul\",\"https:\/\/www.youtube.com\/user\/ysgolsul\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Hybu'r Ysgol Sul - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Hybu'r Ysgol Sul - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru","og_description":"Nod y dudalen hon yw rhoi ychydig o syniadau i chi, arweinwyr Ysgol Sul, ar sut i geisio denu mwy o blant, ac i gadw eu diddordeb yn yr Ysgol Sul. Efallai eich bod yn gwneithredu rhai o\u2019r syniadau hyn yn barod, serch hynny, gobeithio y bydd yma ambell syniad fydd o gymorth i chi [&hellip;]","og_url":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349","og_site_name":"Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/ysgolsul","article_modified_time":"2012-10-03T15:02:20+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-1024x726.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@ysgolsul","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349","url":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349","name":"Hybu'r Ysgol Sul - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-1024x726.jpg","datePublished":"2012-03-21T12:02:26+00:00","dateModified":"2012-10-03T15:02:20+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349#primaryimage","url":"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-1024x726.jpg","contentUrl":"http:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2012\/03\/gwahoddiada6-1024x726.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=349#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/ysgolsul.com\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Hybu&#8217;r Ysgol Sul"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#website","url":"https:\/\/ysgolsul.com\/","name":"Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru","description":"Cyhoeddiadau&#039;r Gair - Cyhoeddwyr Cristnogol Cymraeg","publisher":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/ysgolsul.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#organization","name":"Cyngor Ysgolion Sul","url":"https:\/\/ysgolsul.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/logo-CYS-sgwar.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/logo-CYS-sgwar.jpg","width":1080,"height":1080,"caption":"Cyngor Ysgolion Sul"},"image":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/ysgolsul","https:\/\/x.com\/ysgolsul","https:\/\/www.youtube.com\/user\/ysgolsul"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/349","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=349"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/349\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":674,"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/349\/revisions\/674"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=349"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}