{"id":10865,"date":"2026-01-28T10:30:02","date_gmt":"2026-01-28T10:30:02","guid":{"rendered":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865"},"modified":"2026-02-04T14:55:14","modified_gmt":"2026-02-04T14:55:14","slug":"lle-plant-ym-mywyd-yr-eglwys","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865","title":{"rendered":"Lle plant ym mywyd yr eglwys"},"content":{"rendered":"<div class=\"su-box su-box-style-soft\" id=\"\" style=\"border-color:#ca0003;border-radius:5px;\"><div class=\"su-box-title\" style=\"background-color:#fd2836;color:#FFFFFF;border-top-left-radius:3px;border-top-right-radius:3px\">Cyflwyniad<\/div><div class=\"su-box-content su-u-clearfix su-u-trim\" style=\"border-bottom-left-radius:3px;border-bottom-right-radius:3px\"> Wrth wraidd bywyd yr eglwys leol mae\u2019r gymuned\u2014ac yn ganolog i\u2019r gymuned honno mae plant. Nid \u201cdyfodol yr eglwys\u201d yn unig yw plant; maent yn rhan fyw a gweithredol o\u2019r eglwys heddiw. Trwy eu presenoldeb, eu cwestiynau gonest a\u2019u llawenydd naturiol, maent yn herio ac yn cyfoethogi ffydd y gynulleidfa gyfan.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys.png\" data-rel=\"lightbox-image-0\" data-rl_title=\"\" data-rl_caption=\"\" title=\"\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys.png\" alt=\"\" width=\"1536\" height=\"1024\" class=\"alignnone size-full wp-image-10869\" srcset=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys.png 1536w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys-300x200.png 300w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys-1024x683.png 1024w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys-768x512.png 768w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys-624x416.png 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1536px) 100vw, 1536px\" \/><\/a><\/p>\n<p><strong>Plant fel rhodd a chyfrifoldeb<\/strong><br \/>\nYn  y traddodiad Cristnogol, mae plant yn rhodd gan Dduw. Mae\u2019r Beibl yn ein hatgoffa o\u2019u gwerth a\u2019u lle canolog yng nghalon Iesu ei hun. Pan fydd yr eglwys leol yn rhoi lle amlwg i blant, mae\u2019n adlewyrchu\u2019r alwad honno i\u2019w croesawu, eu meithrin, a\u2019u hamddiffyn. Nid tasg eilradd mohoni, ond cyfrifoldeb sanctaidd sy\u2019n galw am ymrwymiad, gofal a dyfalbarhad.<\/p>\n<p><strong>Meithrin ffydd o\u2019r cychwyn<\/strong><br \/>\nMae plentyndod yn gyfnod hollbwysig ar gyfer ffurfio hunaniaeth a gwerthoedd. Trwy addoli ar y cyd, addysgu\u2019r Efengyl mewn ffyrdd creadigol, a chynnig cyfleoedd i blant wasanaethu ochr yn ochr ag oedolion, gall yr eglwys helpu i osod sylfeini cadarn i ffydd gydol oes. Nid yw hyn yn ymwneud \u00e2 throsglwyddo gwybodaeth yn unig, ond \u00e2 dangos ffydd fyw drwy esiampl, perthynas a chymuned.<\/p>\n<p><strong>Cyfoethogi bywyd yr eglwys<\/strong><br \/>\nMae plant yn dod \u00e2 bywyd, egni a gonestrwydd i\u2019r eglwys. Maent yn gofyn cwestiynau sy\u2019n ein gorfodi i feddwl yn ddyfnach, ac yn ein hatgoffa o symlrwydd a llawenydd ffydd. Pan fyddant yn cymryd rhan mewn gwasanaethau, cerddoriaeth, neu weithgareddau cymunedol, mae\u2019r eglwys yn dod yn fwy cynhwysol ac yn adlewyrchu\u2019n well gorff Crist mewn amrywiaeth o oedrannau a phrofiadau.<\/p>\n<p><strong>Buddsoddi yn y dyfodol\u2014heddiw<\/strong><br \/>\nMae rhoi blaenoriaeth i blant yn fuddsoddiad yn y dyfodol, ond hefyd yn weithred ffydd yn y presennol. Mae eglwys sy\u2019n meithrin plant yn eglwys sy\u2019n tyfu mewn cariad, tosturi a gobaith. Trwy greu amgylchedd diogel, croesawgar a llawn ysbrydoliaeth, gall yr eglwys leol sicrhau bod plant nid yn unig yn teimlo eu bod yn perthyn, ond eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a\u2019u galw i fywyd o ffydd a gwasanaeth.<\/p>\n<p>Yn y pen draw, pan fyddwn yn rhoi plant yng nghanol bywyd yr eglwys, rydym yn dilyn esiampl Crist ei hun\u2014ac yn caniat\u00e1u i\u2019r eglwys adlewyrchu\u2019n llawnach deyrnas Dduw, lle mae pawb, o\u2019r ieuengaf i\u2019r hynaf, yn cael lle wrth y bwrdd.<br \/>\n<\/div><\/div>\n<div class=\"su-box su-box-style-soft\" id=\"\" style=\"border-color:#ca0003;border-radius:5px;\"><div class=\"su-box-title\" style=\"background-color:#fd2836;color:#FFFFFF;border-top-left-radius:3px;border-top-right-radius:3px\">Siarter ar gyfer lle a r\u00f4l plant ym mywyd yr eglwys leol<\/div><div class=\"su-box-content su-u-clearfix su-u-trim\" style=\"border-bottom-left-radius:3px;border-bottom-right-radius:3px\">\nIsod ceir Siarter ar gyfer lle a r\u00f4l plant ym mywyd yr eglwys leol. Beth am fynd ati fel eglwys neu gofalaeth i drafod ei chynnwys:<\/p>\n<p><strong>Siarter ar gyfer lle a r\u00f4l plant ym mywyd yr Eglwys<\/strong><br \/>\nCyhoeddwyd y siarter 10 pwynt isod am y tro cyntaf ddeng mlynedd ar hugain yn \u00f4l gan rwydwaith gwaith plant Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI), ac ar y pryd fe gyhoeddodd Cyngor yr Ysgolion Sul addasiad Cymraeg ohono.<\/p>\n<p>Fe\u2019i rhannwyd yn eang bryd hynny i gynorthwyo eglwysi i drafod lle a r\u00f4l plant ym mywyd ein heglwysi. Yn y cyfnod hwnnw roedd yna lawer mwy o blant yn mynychu oedfaon yn rheolaidd, ond erbyn hyn profiad prin yw dod ar draws plant mewn oedfa ar y Sul. Diolch am yr eglwysi hynny sy\u2019n gofalu bod yna ddarpariaeth ar gyfer plant, ond tybed pa mor bell ydyn ni\u2019n barod i fynd er mwyn sicrhau bod 10 pwynt y siarter yn realiti yn ein heglwysi. Beth am drefnu cyfarfod yn lleol i drafod cynnwys y 10 pwynt agweld i ba raddau rydym yn cytuno efo\u2019r pwyntiau, a sut allwn ni fynd ati i\u2019w gweithredu?<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-scaled.jpg\" data-rel=\"lightbox-image-1\" data-rl_title=\"\" data-rl_caption=\"\" title=\"\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"1448\" height=\"2048\" class=\"alignnone size-full wp-image-10871\" srcset=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-scaled.jpg 1448w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-212x300.jpg 212w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-724x1024.jpg 724w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-768x1086.jpg 768w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-1086x1536.jpg 1086w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-624x882.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1448px) 100vw, 1448px\" \/><\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-Clasurol-scaled.jpg\" data-rel=\"lightbox-image-2\" data-rl_title=\"\" data-rl_caption=\"\" title=\"\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-Clasurol-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"1448\" height=\"2048\" class=\"alignnone size-full wp-image-10879\" srcset=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-Clasurol-scaled.jpg 1448w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-Clasurol-212x300.jpg 212w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-Clasurol-724x1024.jpg 724w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-Clasurol-768x1086.jpg 768w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-Clasurol-1086x1536.jpg 1086w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-Clasurol-624x882.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1448px) 100vw, 1448px\" \/><\/a><\/p>\n<p>1. Mae plant yn bartneriaid cyfartal ag oedolion ym mywyd yr eglwys.<br \/>\n<em>Ceisiwn ofalu bod plant yn yr eglwys hon yr un mor bwysig ag oedolion.<\/em><\/p>\n<p>2. Mae addoliad Cristnogol ar gyfer plant yn ogystal ag oedolion.<br \/>\n<em>Rydym yn ceisio gofalu bod pawb yn yr eglwys hon yn medru addoli Duw mewn llawer o ffyrdd gwahanol, waeth beth yw eu hoedran.<\/em><\/p>\n<p>3. Mae dysgu a thyfu mewn ffydd ar gyfer yr eglwys gyfan, yn oedolion a phlant.<br \/>\n<em>Ceisiwn ofalu bod ein heglwys yn helpu pawb i barhau i ddysgu a datblygu yn eu taith ffydd.<\/em><\/p>\n<p>4. Mae cymdeithas a chwmn\u00efaeth ar gyfer pawb, a phawb yn perthyn yn ystyrlon i\u2019w gilydd.<br \/>\n<em>Ceisiwn ofalu bod ein heglwys yn awyrgylch lle mae pawb yn teimlo ac yn gwybod eu bod yn perthyn.<\/em><\/p>\n<p>5. Mae gwasanaethu a chyfrannu ar gyfer plant, yn ogystal ag oedolion.<br \/>\n<em>Yn yr eglwys hon, rydym yn ceisio gofalu bod plant ac oedolion yn cael gwneud pethau i helpu Duw, yr eglwys a phobl eraill yn y gymuned a\u2019r byd.<\/em><\/p>\n<p>6. Mae\u2019r alwad i efengylu a thystiolaethu ar gyfer holl bobl Dduw, yn blant ac oedolion.<br \/>\n<em>Mae Duw eisiau i bawb rannu\u2019r Newyddion Da gydag eraill. Fel eglwys rydym yn ceisio gwrando a helpu pawb o bob oed i rannu\u2019r hyn rydym wedi ei ddysgu.<\/em><\/p>\n<p>7. Mae\u2019r Ysbryd Gl\u00e2n yn siarad yn bwerus drwy blant yn ogystal ag oedolion.<br \/>\n<em>Gall pobl ddysgu beth mae Ysbryd Gl\u00e2n Duw eisiau ei ddweud wrthyn nhw drwy\u2019r hyn a ddywedwn ac a wnawn. Mae ein heglwys yn gwrando ar leisiau plant fel rhan o hyn.<\/em><\/p>\n<p>8. Mae darganfod a datblygu doniau mewn plant ac oedolion yn gyfrifoldeb ar yr eglwys.<br \/>\n<em>Mae ein heglwys yn ceisio helpu pob un aelod i ddarganfod eu doniau arbennig a\u2019u helpu i ddatblygu a defnyddio\u2019r doniau hynny.<\/em><\/p>\n<p>9. Fel teulu\u2019r eglwys, rhaid inni ddysgu gwneud dim ond y pethau hynny mewn grwpiau oedran ar wah\u00e2n na allwn eu gwneud gyda\u2019n gilydd yn synhwyrol.<br \/>\n<em>Mae ein heglwys yn ceisio creu cyfleoedd inni wneud pethau gyda\u2019n gilydd fel un teulu, ac nid oes ganddi ormodedd o bethau sydd ar gyfer oedolion yn unig.<\/em><\/p>\n<p>10. Mae\u2019r cysyniad o \u2018offeiriadaeth yr holl saint\u2019 yn cynnwys plant.<br \/>\n<em>Gall pawb yn ein heglwys fod yr un mor agos at Dduw, trwy wedd\u00efo a gwasanaethu.<\/em><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys.pdf\">Siarter ar gyfer lle a ro\u0302l plant ym mywyd yr Eglwys (Cyfoes) &#8211; PDF<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Siarter-ar-gyfer-lle-a-rol-plant-ym-mywyd-yr-Eglwys-Clasurol.pdf\">Siarter ar gyfer lle a ro\u0302l plant ym mywyd yr Eglwys (Clasurol) &#8211; PDF<\/a><br \/>\n<\/div><\/div>\n<div class=\"su-box su-box-style-soft\" id=\"\" style=\"border-color:#ca0003;border-radius:5px;\"><div class=\"su-box-title\" style=\"background-color:#fd2836;color:#FFFFFF;border-top-left-radius:3px;border-top-right-radius:3px\">Cynllun trafod ac astudio CAMU<\/div><div class=\"su-box-content su-u-clearfix su-u-trim\" style=\"border-bottom-left-radius:3px;border-bottom-right-radius:3px\">\nOs ydych fel eglwys\/gofalaeth yn awyddus i drafod yn ehangach le a r\u00f4l gwaith plant ac ieuenctid ym mywyd eich eglwys, beth am ddefnyddio adnoddau CAMU. Ceir yn y pecyn hwn:<\/p>\n<p>7 astudiaeth Beiblaidd ar hanes y proffwyd Nehemeia, ynghyd \u00e2 7 ffilm yn cael eu cyflwyno gan Rhys Llwyd.<br \/>\nHoliaduron i&#8217;w rhannu ymhlith aelodau&#8217;r eglwys leol a&#8217;r gymuned ehangach.<br \/>\nPecyn o syniadau ymarferol o weithgareddau y gellir eu trefnu yn lleol.<\/p>\n<p>Datblygwyd yr adnoddau yn wreiddiol gan Wasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac wedi eu haddasu i fod yn berthnasol i bob enwad.<\/p>\n<p><strong>Adnoddau a deudd astudio<\/strong><br \/>\n<a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/Cynllun-trafod-ac-astudio-CAMU.pdf\">Cynllun trafod ac astudio CAMU (PDF)<\/a><\/p>\n<p><strong>Ffilmiau Cyfres Nehemeia<\/strong><\/p>\n<div style=\"width: 625px;\" class=\"wp-video\"><video class=\"wp-video-shortcode\" id=\"video-10865-1\" width=\"625\" height=\"352\" preload=\"metadata\" controls=\"controls\"><source type=\"video\/mp4\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%201.mp4?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%201.mp4\">https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%201.mp4<\/a><\/video><\/div>\n<a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau Nehemeia CAMU\/Nehemeia - Sesiwn 1.mp4\">Nehemeia &#8211; Sesiwn 1<\/a><\/p>\n<div style=\"width: 625px;\" class=\"wp-video\"><video class=\"wp-video-shortcode\" id=\"video-10865-2\" width=\"625\" height=\"352\" preload=\"metadata\" controls=\"controls\"><source type=\"video\/mp4\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%202.mp4?_=2\" \/><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%202.mp4\">https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%202.mp4<\/a><\/video><\/div>\n<a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau Nehemeia CAMU\/Nehemeia - Sesiwn 2.mp4\">Nehemeia &#8211; Sesiwn 2<\/a><\/p>\n<div style=\"width: 625px;\" class=\"wp-video\"><video class=\"wp-video-shortcode\" id=\"video-10865-3\" width=\"625\" height=\"352\" preload=\"metadata\" controls=\"controls\"><source type=\"video\/mp4\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%203.mp4?_=3\" \/><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%203.mp4\">https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%203.mp4<\/a><\/video><\/div>\n<a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau Nehemeia CAMU\/Nehemeia - Sesiwn 3.mp4\">Nehemeia &#8211; Sesiwn 3<\/a><\/p>\n<div style=\"width: 625px;\" class=\"wp-video\"><video class=\"wp-video-shortcode\" id=\"video-10865-4\" width=\"625\" height=\"352\" preload=\"metadata\" controls=\"controls\"><source type=\"video\/mp4\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%204.mp4?_=4\" \/><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%204.mp4\">https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%204.mp4<\/a><\/video><\/div>\n<a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau Nehemeia CAMU\/Nehemeia - Sesiwn 4.mp4\">Nehemeia &#8211; Sesiwn 4<\/a><\/p>\n<div style=\"width: 625px;\" class=\"wp-video\"><video class=\"wp-video-shortcode\" id=\"video-10865-5\" width=\"625\" height=\"352\" preload=\"metadata\" controls=\"controls\"><source type=\"video\/mp4\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%205.mp4?_=5\" \/><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%205.mp4\">https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%205.mp4<\/a><\/video><\/div>\n<a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau Nehemeia CAMU\/Nehemeia - Sesiwn 5.mp4\">Nehemeia &#8211; Sesiwn 5<\/a><\/p>\n<div style=\"width: 625px;\" class=\"wp-video\"><video class=\"wp-video-shortcode\" id=\"video-10865-6\" width=\"625\" height=\"352\" preload=\"metadata\" controls=\"controls\"><source type=\"video\/mp4\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%206.mp4?_=6\" \/><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%206.mp4\">https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%206.mp4<\/a><\/video><\/div>\n<a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau Nehemeia CAMU\/Nehemeia - Sesiwn 6.mp4\">Nehemeia &#8211; Sesiwn 6<\/a><\/p>\n<div style=\"width: 625px;\" class=\"wp-video\"><video class=\"wp-video-shortcode\" id=\"video-10865-7\" width=\"625\" height=\"352\" preload=\"metadata\" controls=\"controls\"><source type=\"video\/mp4\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%207.mp4?_=7\" \/><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%207.mp4\">https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau%20Nehemeia%20CAMU\/Nehemeia%20-%20Sesiwn%207.mp4<\/a><\/video><\/div>\n<a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/Ffilmiau Nehemeia CAMU\/Nehemeia - Sesiwn 7.mp4\">Nehemeia &#8211; Sesiwn 7<\/a><\/p>\n<\/div><\/div>\n<div class=\"su-box su-box-style-soft\" id=\"\" style=\"border-color:#ca0003;border-radius:5px;\"><div class=\"su-box-title\" style=\"background-color:#fd2836;color:#FFFFFF;border-top-left-radius:3px;border-top-right-radius:3px\">Pwysigrwydd Plant yn y Beibl<\/div><div class=\"su-box-content su-u-clearfix su-u-trim\" style=\"border-bottom-left-radius:3px;border-bottom-right-radius:3px\">Mae\u2019r Beibl yn rhoi pwyslais clir ar werth a phwysigrwydd plant, gan eu portreadu fel rhodd gan Dduw ac yn ganolog i\u2019w gynllun ar gyfer y ddynoliaeth. Drwy\u2019r Hen Destament a\u2019r Testament Newydd, gwelwn fod plant nid yn unig yn cael eu hamddiffyn a\u2019u caru, ond hefyd yn cael eu defnyddio gan Dduw i gyflawni ei fwriadau.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Pwysigrwydd-Plant-yn-y-Beibl-1.png\" data-rel=\"lightbox-image-3\" data-rl_title=\"\" data-rl_caption=\"\" title=\"\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Pwysigrwydd-Plant-yn-y-Beibl-1.png\" alt=\"\" width=\"1920\" height=\"1080\" class=\"alignnone size-full wp-image-10875\" srcset=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Pwysigrwydd-Plant-yn-y-Beibl-1.png 1920w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Pwysigrwydd-Plant-yn-y-Beibl-1-300x169.png 300w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Pwysigrwydd-Plant-yn-y-Beibl-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Pwysigrwydd-Plant-yn-y-Beibl-1-768x432.png 768w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Pwysigrwydd-Plant-yn-y-Beibl-1-1536x864.png 1536w, https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Pwysigrwydd-Plant-yn-y-Beibl-1-624x351.png 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Yn yr Hen Destament, mae plant yn cael eu disgrifio fel bendith. Dywed Salm 127:3, \u201cEtifeddiaeth oddi wrth yr ARGLWYDD yw plant,\u201d sy\u2019n dangos bod plant yn rhodd werthfawr gan Dduw. Roedd teulu a llinach yn hollbwysig i bobl Israel, ac roedd plant yn cynrychioli parhad y genedl a chadw addewidion Duw yn fyw. Mae straeon fel Samuel a Moses yn dangos sut y gall Duw alw plant neu bobl ifanc i gyflawni tasgau mawr, hyd yn oed pan fyddant yn ifanc ac yn ymddangos yn wan.<\/p>\n<p>Yn y Testament Newydd, mae Iesu\u2019n tanlinellu pwysigrwydd plant mewn ffordd arbennig. Mewn sawl achos, mae\u2019n herio agweddau oedolion tuag at blant. Dywedodd Iesu, \u201cGadewch i\u2019r plant bach ddod ataf fi, a pheidiwch \u00e2\u2019u rhwystro\u201d (Mathew 19:14). Mae hyn yn dangos bod plant yn cael lle llawn yng nghariad a theyrnas Dduw. Yn fwy na hynny, mae Iesu\u2019n defnyddio plant fel esiampl o ffydd ostyngedig a dibyniaeth lwyr ar Dduw, gan ddweud mai fel plentyn y mae\u2019n rhaid i rywun dderbyn teyrnas nefoedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Beibl hefyd yn pwysleisio cyfrifoldeb oedolion tuag at blant. Mae rhieni a chymunedau\u2019n cael eu hannog i addysgu plant yn ffyrdd Duw, i\u2019w caru, eu hamddiffyn a\u2019u harwain. Mae Diarhebion 22:6 yn dweud, \u201cHyffordda blentyn yn y ffordd y dylai fynd,\u201d gan bwysleisio pwysigrwydd arweiniad moesol ac ysbrydol. Mae plant yn ganolog i neges y Beibl ac yn rhodd gan Dduw, yn esiampl o ffydd bur, ac yn rhan hanfodol o gynllun Duw ar gyfer y byd. Mae\u2019r Beibl yn ein galw i\u2019w gwerthfawrogi, eu parchu a\u2019u caru, gan gydnabod eu pwysigrwydd nid yn unig ar gyfer y dyfodol, ond hefyd ar gyfer y presennol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Beibl yn cyflwyno plant nid yn unig fel aelodau bregus o gymdeithas, ond fel ffigurau diwinyddol pwysig sy\u2019n datgelu agweddau craidd ar natur Duw a\u2019i berthynas \u00e2\u2019r ddynoliaeth. Drwy\u2019r Hen Destament a\u2019r Testament Newydd, mae plant yn cael eu portreadu fel arwyddion o fendith, cyfrwng datguddiad dwyfol, ac yn her foesol i oedolion.<\/p>\n<p>Yn yr Hen Destament, mae plant yn symbol o addewid a pharhad. Yn ddiwylliannol, roedd cymdeithas Israel yn dibynnu ar deulu a llinach, felly roedd plant yn hanfodol i hunaniaeth grefyddol a chenedlaethol y bobl. Mae Salm 127:3 yn disgrifio plant fel \u201cetifeddiaeth oddi wrth yr ARGLWYDD\u201d, gan awgrymu nad eiddo personol yw plant ond ymddiriedolaeth gan Dduw. Mae hyn yn gosod cyfrifoldeb moesol ar rieni a\u2019r gymuned i\u2019w magu\u2019n gyfiawn.<\/p>\n<p>Yn ogystal, defnyddir plant yn aml fel offerynnau yng nghynllun Duw, sy\u2019n tanseilio syniadau dynol am rym a statws. Mae straeon Samuel (1 Samuel 3) a Moses yn dangos bod Duw\u2019n dewis y rhai ifanc a diamddiffyn i gyflawni ewyllys dwyfol. Yn ddiwinyddol, mae hyn yn atgyfnerthu\u2019r syniad bod awdurdod Duw yn uwch na hierarchaethau cymdeithasol, ac nad yw gwerth unigolyn yn seiliedig ar oedran na gallu.<\/p>\n<p>Yn y Testament Newydd, mae agwedd Iesu tuag at blant yn nodi newid sylweddol mewn pwyslais diwinyddol. Mewn cymdeithas lle\u2019r oedd plant yn aml heb statws na hawliau, mae Iesu\u2019n eu gosod yng nghanol ei ddisgyblion (Marc 9:36\u201337). Nid jest gweithred o dosturi yw hyn, ond datganiad diwinyddol: mae derbyn plentyn yn gyfystyr \u00e2 derbyn Duw ei hun. Trwy hyn, mae Iesu\u2019n ailddiffinio mawredd fel gwasanaeth a gostyngeiddrwydd.<\/p>\n<p>Y mae Iesu\u2019n defnyddio plentyn fel model ar gyfer ffydd wirioneddol. Pan ddywed fod yn rhaid \u201ctroi a dod yn debyg i blant\u201d i fynd i mewn i deyrnas nefoedd (Mathew 18:3), nid yw\u2019n canmol diniweidrwydd yn unig, ond dibyniaeth lwyr ar Dduw. Mae hyn yn herio credoau crefyddol sy\u2019n pwysleisio rheolau, statws neu hunan-ddigonolrwydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Beibl hefyd yn gosod goblygiadau moesol clir ar sail gwerth plant. Mae Diarhebion 22:6 a Deuteronomium 6 yn pwysleisio addysg grefyddol fel cyfrifoldeb parhaus. Nid yw hyn yn ymwneud \u00e2 disgyblaeth yn unig, ond \u00e2 llunio cymeriad, ffydd a chyfiawnder. Yn y Testament Newydd, mae rhybudd Iesu yn erbyn achosi i blentyn \u201csyrthio\u201d (Mathew 18:6) yn tanlinellu difrifoldeb camdriniaeth neu esgeulustod.<\/p>\n<p>Felly mae plant yn y Beibl yn gweithredu ar sawl lefel: fel rhodd, fel symbol, ac fel her. Maent yn datgelu natur gras Duw, yn tanseilio hierarchaethau cymdeithasol, ac yn gosod safon foesol uchel i oedolion. Felly, nid yw pwysigrwydd plant yn y Beibl yn ymylol, ond yn ganolog i\u2019w neges am gariad, cyfrifoldeb a theyrnas Duw.<br \/>\n<\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-10865","page","type-page","status-publish","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.5 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Lle plant ym mywyd yr eglwys - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Lle plant ym mywyd yr eglwys - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/ysgolsul\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-02-04T14:55:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys-1024x683.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"683\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@ysgolsul\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865\",\"url\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865\",\"name\":\"Lle plant ym mywyd yr eglwys - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys.png\",\"datePublished\":\"2026-01-28T10:30:02+00:00\",\"dateModified\":\"2026-02-04T14:55:14+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys.png\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Lle plant ym mywyd yr eglwys\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/\",\"name\":\"Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru\",\"description\":\"Cyhoeddiadau&#039;r Gair - Cyhoeddwyr Cristnogol Cymraeg\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#organization\",\"name\":\"Cyngor Ysgolion Sul\",\"url\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/logo-CYS-sgwar.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/logo-CYS-sgwar.jpg\",\"width\":1080,\"height\":1080,\"caption\":\"Cyngor Ysgolion Sul\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/ysgolsul.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/ysgolsul\",\"https:\/\/x.com\/ysgolsul\",\"https:\/\/www.youtube.com\/user\/ysgolsul\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Lle plant ym mywyd yr eglwys - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Lle plant ym mywyd yr eglwys - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru","og_url":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865","og_site_name":"Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/ysgolsul","article_modified_time":"2026-02-04T14:55:14+00:00","og_image":[{"width":1024,"height":683,"url":"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys-1024x683.png","type":"image\/png"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@ysgolsul","twitter_misc":{"Est. reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865","url":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865","name":"Lle plant ym mywyd yr eglwys - Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys.png","datePublished":"2026-01-28T10:30:02+00:00","dateModified":"2026-02-04T14:55:14+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865#primaryimage","url":"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys.png","contentUrl":"https:\/\/ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/plant-yng-nghanol-bywyd-yr-eglwys.png"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/?page_id=10865#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/ysgolsul.com\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Lle plant ym mywyd yr eglwys"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#website","url":"https:\/\/ysgolsul.com\/","name":"Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru","description":"Cyhoeddiadau&#039;r Gair - Cyhoeddwyr Cristnogol Cymraeg","publisher":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/ysgolsul.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#organization","name":"Cyngor Ysgolion Sul","url":"https:\/\/ysgolsul.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/logo-CYS-sgwar.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.ysgolsul.com\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/logo-CYS-sgwar.jpg","width":1080,"height":1080,"caption":"Cyngor Ysgolion Sul"},"image":{"@id":"https:\/\/ysgolsul.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/ysgolsul","https:\/\/x.com\/ysgolsul","https:\/\/www.youtube.com\/user\/ysgolsul"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/10865","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=10865"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/10865\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10897,"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/10865\/revisions\/10897"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ysgolsul.com\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=10865"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}