Apps ac elyfrau Beiblaidd

Yn yr adran hon mae linciau ar gyfer prynu Apps Beiblaidd ac elyfrau, gan gynnwys Beiblau Cymraeg.

icon175x175icon350x350Beibl Gweithgaredd y Plant i blant dros 7 oed
Beibl Gweithgaredd y Plant Lleiaf i blant dan 7 oed

Storïau o’r Beibl a gweithgareddau ar gyfer plant i wneud dysgu’r Beibl yn fwy effeithiol!

• 42 Stori o’r Beibl gyda mwy nag 84 o bosau, cwisiau, lluniau i’w lliwio a gwahaniaethau i’w canfod.
• Dysgwch ar ddyfais (iPad, iPhone neu iPod), ar sgrîn fawr (VGA, HDMI neu deledu Apple) neu argraffwch y taflenni.
• Helpwch blant dros 7 oed i ddysgu’r storïau’n well, deall eu neges a’u cofio am byth mewn ffordd y byddant yn ei mwynhau.
Profwch cyn prynu: 12 Stori o’r Beibl YN RHAD AC AM DDIM gyda 24 gweithgaredd gwahanol. Cynnig arbennig ar yr App Store yn unig!

Cliciwch yma i brynu Beibl Gweithgaredd y Plant i blant dros 7 oed yn App Store Apple.

Cliciwch yma i brynu Beibl Gweithgaredd y Plant i blant dan 7 oed yn App Store Apple.

Ap Beibl

icon175x175-1Mae’r Ap Beibl yn rhan o deulu Bibles.org ac yn cynnig ffordd hyfryd i ddarllen y Beibl ar eich iPhone neu iPad, ac mae’n rhoi’r flaenoriaeth i ansawdd y profiad o ddarllen.

Mae’n gyfrwng i ddarllen y Beibl heb ddim arall i dynnu sylw, ac mae’n dy alluogi i ganolbwyntio ar y testun yn unig. Mae’r rhyngwyneb i bori a chwilio drwy’r Beibl yn hawdd i’w ddefnyddio. Gellir ei wneud yn haws i’w ddarllen gyda’r nos drwy dapio’r sgrin ddwywaith a gellir newid maint y ffont i beth bynnag sydd hawsaf i’w ddarllen.

Cliciwch yma i lawrlwytho Ap Beibl yn rhad ac am ddim o App Store Apple.

app-store-website

 

 

 

 

 

getimge-lyfr: Drwy’r Beibl Drwy’r Flwyddyn
Addasiad Meirion Morris o Through the Bible Through the Year gan John Stott. Ceir yma 365 o fyfyrdodau, yn tywys y darllenydd drwy’r Beibl yn ei drefn gronolegol. Mae’n cyfeirio at y prif wyliau eglwysig ac yn delio â phrif feini canolog y ffydd Gristnogol.

Mae’r fformatau e-lyfrau canlynol ar gael i’w prynu. Bydd modd i chi lawrlwytho’r teitl yn y fformat a ddewisir ar ddiwedd y broses dalu. NID OES MODD LAWRLWYTHO E-LYFR A BRYNIR TRWY GWALES I DECLYN KINDLE.

Cliciwch yma i brynu’r e-lyfr trwy Gwales.